Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd bob mis Ionawr ac mae’n darparu arfarniad a sylwebaeth ar berfformiad addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Mae Adroddiad Blynyddol 2014-2015 yn canolbwyntio ar wella addysgu a dysgu a pharatoi ar gyfer yr heriau a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd.
Adroddiad Blynyddol 2014-2015
Data deilliannau arolygu 2010-2016
Gallwch chwilio, allforio a rhannu barnau dros 2,000 o arolygiadau ysgolion, colegau a sectorau eraill a gynhaliwyd gan Estyn ers 2010. Gallwch hidlo yn ôl blwyddyn, awdurdod lleol neu sector.
Deilliannau yn ôl darparwr
Canfyddiadau arolygiadau darparwyr unigol neu grwpiau o ddarparwyr.
Deilliannau yn ôl sector
Canran y darparwyr sy’n cyflawni pob barn gyffredinol, Cwestiwn Allweddol a Dangosydd Ansawdd.
Deilliannau ar draws awdurdodau lleol
Canran y darparwyr sy’n cyflawni pob barn gyffredinol a Chwestiwn Allweddol yn ôl awdurdod lleol daearyddol.
Barnau dysgwyr a rhieni
Y barnau cyfunol o bob sector, wedi’u casglu cyn arolygiadau.