Erthyglau newyddion |

Y Prif Arolygydd yn dweud ffarwel

Share this page

Wrth i Ann Keane baratoi i adael Estyn ar ôl dros 5 mlynedd fel Prif Arolygydd a 31 o flynyddoedd yn yr arolygiaeth, hoffai fynegi ei diolch.

“Ystyriaf mai braint fu gweithio gyda chymaint o athrawon, penaethiaid ac arweinwyr eraill, swyddogion y llywodraeth a gweithwyr proffesiynol addysg eraill, bob un ohonynt yn uchel eu parch, yn ystod fy nghyfnod fel prif arolygydd, a chyn hynny fel AEM. Wrth i mi drosglwyddo rôl y Prif Arolygydd i’m cydweithiwr, Meilyr Rowlands, dymunaf yn dda iddo yntau a phob un o’m cydweithwyr eraill yn Estyn ar gyfer y dyfodol.”

Meilyr Rowlands fydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru o 1 Mehefin.