Erthyglau newyddion |

Y Prif Arolygydd yn croesawu rôl fwy i Estyn mewn adolygiad annibynnol

Share this page

Mae’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi croesawu adroddiad sy’n cydnabod y rôl hanfodol sydd gan Estyn o ran gwella dysgu pobl ifanc yng Nghymru. Mewn adolygiad annibynnol o rôl a chyfrifoldebau Estyn, mae’r Athro Graham Donaldson wedi gwneud cynigion a luniwyd i alluogi gwaith arolygu ysgolion i gyfrannu’n uniongyrchol ac yn adeiladol at y diwygiadau addysg uchelgeisiol sy’n mynd rhagddynt yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Rwy’n ddiolchgar i’r Athro Donaldson am ei waith ar yr adolygiad hwn, ac rwy’n falch bod yr adroddiad yn cydnabod cryfderau’r system arolygu bresennol.  Rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, ysgolion a rhanddeiliaid eraill i ystyried cynigion cynhwysfawr yr adroddiad yn llawn a sut i’w symud ymlaen. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu a byddwn yn ceisio eu barn trwy ymgynghoriad er mwyn sicrhau y cânt ddweud eu dweud.

Dywed yr Athro Graham Donaldson,

Mae Cymru’n gweithio i ddatblygu system addysg ddynamig a llwyddiannus, gyda safonau sy’n codi ac ysgolion sy’n ymroddedig i’w gwelliant eu hunain. Mae’r dystiolaeth i’m Hadolygiad yn cadarnhau bod Estyn wrth wraidd y broses honno.  Mae profiad ac arbenigedd proffesiynol unigryw ei AEM ac arolygwyr cymheiriaid yn adnodd cenedlaethol allweddol.  Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y caiff pobl ifanc yng Nghymru eu gwasanaethu gan eu hysgolion a pha mor dda maent yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella ansawdd eu dysgu.  Mae hyn yn golygu mwy o bwyslais ar hunanarfarnu a hunanwella gan ysgolion, adroddiadau arolygu mwy addysgiadol, dull mwy diagnostig ar gyfer ysgolion sy’n peri pryder ac arolygwyr yn ymgysylltu’n fwy uniongyrchol â diwygio.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 34 o argymhellion manwl.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rôl fwy i Estyn o ran darparu arfarnu a chymorth ar lefel ysgolion, awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

  • Ymgasglu adnoddau Estyn er mwyn sbarduno diwygio, gyda seibiant byr i’r cylch arolygu i ddechrau er mwyn galluogi arolygwyr ac ysgolion i gydweithio â’i gilydd ar y diwygiadau.

  • Mwy o gyfrifoldeb i ysgolion arfarnu eu perfformiad eu hunain, ac Estyn i gadarnhau ansawdd yr hunanarfarnu hwnnw.

  • Adroddiadau arolygu mwy addysgiadol gydag arfarniadau cyflawn yn disodli graddau crynodol.

  • Ffocws mwy teilwredig ar ysgolion sy’n peri pryder, ac arolygiadau diagnostig sy’n rhoi mewnwelediad gwell i’r newidiadau angenrheidiol.

  • Arfarnu cynnydd â’r diwygiadau cenedlaethol yn amserol trwy adroddiadau thematig ac Adroddiad PAEM ar ‘gyflwr y genedl’ bob tair blynedd.

  • Sefydlu annibyniaeth Estyn ymhellach.

  • Angen alinio ar draws y dirwedd atebolrwydd.

Mae Estyn yn croesawu safbwyntiau ei holl randdeiliaid ar yr adolygiad a bydd yn ymgynghori arno’n eang cyn bo hir.  Yn y cyfamser, gall randdeiliaid fynegi eu barn trwy anfon neges e-bost at [email protected]