Erthyglau newyddion |

Mae'r mwyafrif o ddysgwyr 7-14 oed yn cyflawni safonau da mewn Saesneg

Share this page

Mae llawer o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a mwyafrif o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yn cyflawni safonau da mewn gwersi Saesneg, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae disgyblion mewn gwersi Saesneg yn siarad yn glir yn ystod trafodaethau ac yn ymateb yn dda i amrywiaeth eang o destunau. Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch safonau ysgrifennu o hyd.

Mae’r adroddiad 'Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3' yn canfod, er bod safonau yn dda yn gyffredinol, bod gwendidau’n parhau ym medrau darllen lefel uwch disgyblion, ac yn eu sillafu, gramadeg ac atalnodi. Hefyd, nid yw disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn cyflawni gystal â’u cyfoedion ac mae’r bwlch hwn yn ehangu wrth i ddisgyblion symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae darllen ac ysgrifennu yn allweddol i lwyddiant ym mhob maes o’r cwricwlwm. Er gwaetha’r duedd o welliant mewn safonau Saesneg, mae cynnydd yn rhy araf o hyd i ddisgyblion 7-14 oed yng Nghymru ddal i fyny ag ardaloedd eraill yn y DU. Mae gwallau mewn sillafu, atalnodi a gramadeg yn lleihau ansawdd ysgrifennu ac yn effeithio ar safonau.

 

“Fodd bynnag, mae rhai ysgolion wedi bod yn llwyddiannus o ran gwella safonau mewn Saesneg, ac rwy’n annog ysgolion eraill i lawrlwytho’r adroddiad a dilyn yr arweiniad a amlinellir yn yr astudiaethau achos arfer orau.”

Mae 'Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3' yn adrodd am y modd y mae Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd, wedi datblygu arferion addysgu ac asesu rhagorol i helpu disgyblion gyflawni safonau uchel mewn Saesneg. Nododd yr ysgol fod asesu yn ganolog i addysgu a dysgu effeithiol. Aeth y staff ati i ddefnyddio asesu i helpu disgyblion i ddeall ble’r oeddent arni o ran eu dysgu a sut i wneud cynnydd. Mae’r gwaith wedi arwain at duedd am i fyny ym mherfformiad disgyblion mewn Saesneg, ac mae safonau’n rhagori ar gyfartaleddau lleol a chenedlaethol.

At ei gilydd, mae ansawdd addysgu Saesneg yn dda. Mae’r athrawon gorau yn gwneud defnydd medrus o ddulliau i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu disgyblion. Fodd bynnag, nid yw addysgu ysgrifennu wedi datblygu digon mewn lleiafrif o ysgolion uwchradd. Mae gormod o waith marcio ansawdd gwael o hyd ar waith disgyblion. Canfu’r adroddiad fod athrawon yn nodi gwendidau disgyblion heb esboniad, ac nid ydynt yn rhoi digon o arweiniad ar sut i wella. Mae asesu’n parhau i fod yn un o’r meysydd gwannaf mewn ysgolion hefyd, ac nid yw cynnydd disgyblion yn cael ei olrhain yn ddigon da.

Mae adroddiad Estyn yn nodi meysydd gwan cyffredin mewn safonau Saesneg, ac yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau ac argymhellion i helpu ysgolion wella a chynnal safonau. Mae angen i ysgolion barhau i ganolbwyntio ar wella safonau ysgrifennu annibynnol disgyblion, darparu gwaith heriol yn Saesneg i ymestyn pob disgybl a mynd i’r afael â thanberfformiad

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014 ac mae ar gael yn llawn i’w lawrlwytho yma.
  • Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o ddau. Bydd yr ail, a gyhoeddir yn 2015, yn ystyried y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith.
  • Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymweliadau ag 20 ysgol uwchradd, sef sampl gynrychioliadol fras o ysgolion uwchradd. Cafwyd tystiolaeth ychwanegol o ddeilliannau arolygu a data am berfformiad yng nghyfnod allweddol 4, presenoldeb a chyrchfannau (gweler Atodiad 1 am fanylion pellach).

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Uwchradd y Fflint, Sir y Fflint
  • Ysgol y Faenol, Gwynedd
  • Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan, sef www.estyn.gov.uk