Erthyglau newyddion |

Mae plant yn y Cyfnod Sylfaen yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu Cymraeg mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg

Share this page

Mae dros bedwar o bob pump o blant rhwng 3 a 7 oed yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir cyfrwng Cymraeg, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn heddiw.

Mae safonau iaith, llythrennedd a medrau cyfathrebu disgyblion yn debyg i rai mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg, ac maent yn cyd-fynd â’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer yr oedran hwnnw.

Mae’r adroddiad newydd, Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, yn ystyried safonau mewn datblygu iaith mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg, gan ystyried a yw disgyblion yn dod o aelwydydd Cymraeg ai peidio. Hefyd, mae’n ystyried y cydbwysedd rhwng datblygu iaith yn ffurfiol a gweithgareddau anffurfiol sy’n rhan greiddiol o ddull addysgu a dysgu’r Cyfnod Sylfaen.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhan hanfodol o ddatblygu medrau plant ifanc mewn siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Rydym wedi canfod bod p’un a yw plant yn dysgu ochr yn ochr â phlant eraill sy’n rhannu cefndiroedd tebyg o ran iaith yr aelwyd yn effeithio ar ba mor gyflym y maent yn caffael medrau Cymraeg. Mewn dosbarthiadau â chefndiroedd ieithyddol cymysg, mae ein hadroddiad yn dangos bod plant o aelwydydd di-Gymraeg yn symud ymlaen yn rhy araf ambell waith, ac y gall hyn lesteirio cynnydd disgyblion o aelwydydd Cymraeg.

 

“Rwy’n annog penaethiaid, ymarferwyr, arweinwyr a rheolwyr i ddarllen ein hadroddiad a defnyddio ei argymhellion er mwyn helpu i sicrhau bod y Cyfnod Sylfaen yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.”

Canfu arolygwyr bod medrau siarad a gwrando disgyblion yn gryf yn y mwyafrif o ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Mae plant tair a phedair oed yn siarad â’i gilydd ac â’u hathrawon yn gynyddol dda. Hefyd, maent yn mwynhau darllen a gwrando ar storïau. Fodd bynnag, nid yw medrau ysgrifennu disgyblion yn datblygu cystal. Mewn lleiafrif o ysgolion, mae disgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn orddibynnol ar gymorth ac arweiniad gan eu hathrawon. Nid yw gwaith ysgrifenedig o safon sy’n briodol i’w hoedran bob tro.

Mae’r amgylchedd dysgu yn y rhan fwyaf o leoliadau a llawer o ysgolion yn cynnig cydbwysedd da i blant rhwng profiad uniongyrchol anffurfiol a gweithgareddau â ffocws ar ddatblygu medrau iaith, llythrennedd a chyfathrebu. Mae athrawon ac ymarferwyr yn rhoi blaenoriaeth gadarn i ddatblygu medrau Cymraeg plant, ar draws pob maes dysgu yn y Cyfnod Sylfaen.

Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr ac athrawon yn dangos digon o ddealltwriaeth o’r Cyfnod Sylfaen ac maent yn gweld tensiwn rhwng dull y Cyfnod Sylfaen a’r angen i gynllunio’n fwriadus i ddatblygu medrau iaith a llythrennedd. O ganlyniad, nid yw rhai disgyblion yn gallu cymhwyso eu medrau iaith yn llwyddiannus ar draws ystod o gyd-destunau.

Mae’r adroddiad yn cynnwys chwe astudiaeth achos o arfer dda. Yn Ysgol Feithrin Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, daw’r mwyafrif o ddisgyblion o aelwydydd di-Gymraeg. Mae’r ysgol wedi credu ardal chwarae rôl barhaol sy’n newid ei thema yn rheolaidd. Pan gaiff ei gosod fel ysbyty, mae’r plant yn defnyddio adnoddau fel teleffon, cyfrifiadur, gwisgoedd a chardiau geirfa i’w helpu i chwarae rolau gwahanol. Mae’r plant yn mwynhau chwarae a gallant alw i gof geiriau Cymraeg newydd y maent yn eu dysgu’n hawdd ac yn gywir, a’u defnyddio.

Caiff nifer o argymhellion eu pennu yn yr adroddiad i ysgolion, lleoliadau, awdurdodau lleol, sefydliadau sy’n rheoli lleoliadau nas cynhelir a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio eu medrau iaith ar draws pob maes dysgu; sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu ffurfiol ac anffurfiol; datblygu gweithgareddau dysgu sy’n sicrhau bod disgyblion o gefndiroedd ieithyddol gwahanol yn gwneud cynnydd priodol; a rhoi cymorth a hyfforddiant i ymarferwyr ar ddulliau trochi o ddysgu iaith.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn, Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys:
    • Ymweliadau a phum lleoliad nas cynhelir ac 18 o ysgolion cynradd;
    • Arolygiadau o oddeutu 80 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a 70 o leoliadau nas cynhelir a arolygwyd yn ystod 2011-2012;
    • Trafodaethau gyda Mudiad Ysgolion Meithrin; a
    • Dadansoddiad o ddata asesiadau athrawon ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn 2012.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gynradd Gynraeg Nantcaerau, Caerdydd
  • Ysgol Feithrin Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Saron, Sir Gaerfyrddin
  • Cylch Meithrin Bro Elfed, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Gymraeg Dafydd Llwyd, Powys

Gwybodaeth am Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.estyn.gov.uk