Erthyglau newyddion |

Mae gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn gweithio orau pan fyddant yn canolbwyntio ar hawliau pobl ifanc ac yn gwrando ar yr hyn y maent yn dweud sydd ei angen arnynt

Share this page

Mae gwasanaethau i gynorthwyo pobl ifanc yn parhau i gyflawni’u gwaith pwysig, er gwaethaf hinsawdd economaidd anodd, toriadau i gyllid a blaenoriaethau strategol cystadleuol. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, canfu Estyn mai’r gwasanaethau cymorth ieuenctid gorau yw’r rheini sy’n seiliedig ar arfer gwaith ieuenctid proffesiynol. Mae’r gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar hawliau ac anghenion unigol pobl ifanc, gan gynnig gweithgareddau mewn amgylchedd diogel lle gallant feithrin perthnasoedd iach, gwneud ffrindiau newydd, dysgu medrau defnyddiol a chael profiadau newydd.

Mae adroddiad Estyn, ‘Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru – Gwerth Gwaith Ieuenctid’ yn rhoi arfarniad cyffredinol o ansawdd gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 11 - 25 oed.  Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys clybiau ieuenctid mynediad agored, prosiectau cymunedol, a chymorth mwy targedig i bobl ifanc sy’n wynebu anawsterau o ran sicrhau cyflogaeth a hyfforddiant, tlodi, cam-drin domestig, camfanteisio rhywiol, iechyd meddwl neu ddigartrefedd.

Er bod ystod eang o wasanaethau cymorth ieuenctid ar gael ar hyd a lled Cymru, naill ai nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod amdanynt neu maent yn ei chael hi’n anodd cael at waith ieuenctid proffesiynol.  Hefyd, mae llai o gyllid a blaenoriaethau polisi cystadleuol wedi newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu strwythuro a’u targedu.  Yn aml, mae eu dosbarthiad a’u lleoliad yn golygu nad oes gan y rhai sy’n byw mewn ardal wledig o bosibl yr un ystod o gyfleoedd a gwasanaethau â’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd trefol, neu mae eu cysylltiad rhyngrwyd at wasanaethau ar-lein yn annibynadwy.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid adnewyddu ymrwymiad i waith ieuenctid proffesiynol.  Gellir cyflawni hyn trwy roi hawliau pobl ifanc wrth graidd eu gwaith, gwrando ar yr hyn sydd ei angen arnynt a’u cynnwys mewn penderfyniadau.  Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos sy’n disgrifio prosiectau penodol sydd wedi goresgyn rhwystrau rhag darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid.

Adroddiad Estyn yw’r cyntaf mewn cyfres yn deillio o brosiect ar y cyd sy’n archwilio materion yn ymwneud â chymorth i bobl ifanc yng Nghymru.  Cyflawnir y prosiect hwn gan Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio gyda’i gilydd fel Arolygu Cymru. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Mae gan bob unigolyn ifanc yr hawl i gael cymorth o ansawdd uchel trwy waith ieuenctid proffesiynol.  Mae awdurdodau lleol a grwpiau’r sector gwirfoddol fel yr Urdd, y Ffermwyr Ifanc, ac Ymddiriedolaeth y Tywysog yn darparu gweithgareddau pwysig sy’n datblygu hunanddibyniaeth pobl ifanc ac yn ehangu’u profiadau.
 

Ceir amrywiadau yn ansawdd a graddau’r gwasanaethau ieuenctid sydd ar gael ledled Cymru, a rhwystrau rhag sicrhau bod mynediad cyfartal gan bob unigolyn ifanc at y cymorth sydd ei angen arnynt.  Mae adroddiad heddiw yn argymell cynnwys pobl ifanc ar lefel leol fel y gallant ddylanwadu ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Fel rhan o’r adroddiad, cyfarfu arolygwyr ag uwch swyddogion awdurdodau lleol, rheolwyr gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol, gweithwyr ieuenctid, a phobl ifanc i wrando ar eu barn.  Credai un unigolyn ifanc “fyddwn i ddim yma heddiw” heb ei wasanaeth ieuenctid.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gymdeithas tai Llamau yng Nghaerdydd sy’n gweithio’n dda gyda phobl ifanc agored iawn i niwed sydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.  Mae ei gweithwyr yn treulio amser i ddod i adnabod y bobl ifanc fel y gellir mynd i’r afael â’u hanghenion.  Mae ymyriadau yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar unigolion, ac maent yn darparu cymorth targedig ar gyfer yr ystod o faterion a sefyllfaoedd sy’n wynebu pob unigolyn ifanc.

Mae Estyn yn amlinellu argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, darparwyr a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir wrth ddarparu gwasanaethau ieuenctid effeithiol, a sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn parhau wrth graidd y gwaith hwn.