Erthyglau newyddion |

Mae Estyn yn gofyn am farn ar gynigion ar gyfer newidiadau i arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Share this page

Mae ymgynghoriad sy’n para mis, a lansiwyd heddiw gan Estyn, yn gofyn am farn athrawon, uwch arweinwyr, llunwyr polisi a phawb sydd â diddordeb mewn addysg ar gynigion ar newidiadau i’r ffyrdd y bydd ysgolion a darparwyr eraill yn cael eu harolygu o Fedi 2017. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Mae gan arolygiadau ran annatod mewn sicrhau bod ein system addysg y gorau y gall fod.   Y llynedd, fe wnaethom ni ofyn am eich barn ar newidiadau i’r ffordd rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant, ac fe gawsom ni dros 2,000 o ymatebion.  Fe wnaethom wrando ar eich adborth a datblygu cynigion.  Hoffem gael eich barn ar y cynigion manwl hyn nawr.”

“Mae hyn yn gyfle arall i ddylanwadu ar newidiadau i arolygiadau yng Nghymru.  Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

Mae holiadur yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Estyn yn http://www.estyn.llyw.cymru/ymgynghoriad .

Rydym hefyd yn croesawu adborth ar y broses arolygu y tu allan i’r holiadur, y gellir ei anfon trwy’r e-bost neu’i bostio i Estyn.  Mae’r cyfnod ymgynghori yn para tan ddydd Mercher 30 Tachwedd 2016.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cyflwynwyd y fframwaith arolygu presennol ym Medi 2010 ar ôl ymgynghori.  Roedd hyn yn nodi cychwyn cylch chwe blynedd o arolygiadau, a bydd Estyn yn arolygu pob darparwr yn ystod y cyfnod hwn. Yn 2014, cyflwynodd rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ddull mwy hyblyg o ran pryd y caiff darparwyr eu harolygu a lleihawyd natur ragweladwy arolygiadau.  Fe wnaeth y newid rheoleiddio hwn ailosod y cylch arolygu o 2010-2016 i 2014-2020 i bob pwrpas. 
  • Bydd unrhyw newidiadau i’r broses arolygu yn effeithio ar y rhan fwyaf o sectorau addysg y mae Estyn yn gyfrifol am eu harolygu, ac eithrio arolygiadau darpariaeth feithrin nas cynhelir, Cymraeg i Oedolion ac awdurdodau lleol sy’n cael eu hadolygu ar wahân.
  • Defnyddiwch yr hyperddolenni hyn i fynd at Fframwaith Arolygu Cyffredin ac arweiniad arolygu Estyn
  • Gall ymatebwyr ysgrifennu i Estyn yn Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW neu anfon neges e-bost i [email protected]