Erthyglau newyddion |

Mae ar ysgolion angen gweledigaeth glir ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol newydd

Share this page

Mae angen i arweinwyr ysgolion ddatblygu gweledigaeth glir o’r ffordd orau o baratoi ar gyfer y fframwaith medrau digidol newydd sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o newidiadau i’r cwricwlwm, yn ôl Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant. Mewn ysgolion sy’n paratoi’n dda, mae arweinwyr yn rhoi eu gweledigaeth ar waith trwy gynnwys yr holl staff a meithrin agweddau cadarnhaol tuag at y fframwaith cymhwysedd digidol.

Mae adroddiad Estyn, ‘Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol’, yn rhoi trosolwg o’r ffordd y mae ysgolion yn dechrau sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu’u cymhwysedd digidol.  Ymwelodd arolygwyr ag ysgolion, y mae nifer ohonynt yn ysgolion â strategaethau arloesol a diddorol sy’n cael eu disgrifio mewn astudiaethau achos.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Yn ganolog i system addysg lwyddiannus y mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf nid yn unig yn wybodus mewn byd mwyfwy digidol, ond eu bod yn cadw’n ddiogel ar-lein ac yn ennill medrau digidol datblygedig i ategu’u cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Dylai ysgolion fod yn ymgyfarwyddo â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol trwy greu gweledigaeth ysgol gyfan a’i rhoi ar waith.  Mae ein hadroddiad yn amlinellu’r camau allweddol tuag at gychwyn y daith hon, gwneud cynnydd ac yna adeiladu a chynnal momentwm.

Roedd taith ddigidol Ysgol Gymraeg y Fenni yn Sir Fynwy yn golygu ailfeddwl ei ffordd o ddelio â thechnoleg newydd yn llwyr.  Newidiodd arweinwyr eu ffordd o gynllunio’u cwricwlwm a sefydlwyd rhaglen fuddsoddi i sicrhau bod rhwydwaith a chaledwedd digidol yr ysgol yn addas i baratoi disgyblion ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif.  Mae gan athrawon a disgyblion fwy o hyder o lawer mewn medrau digidol erbyn hyn ac mae safonau a chynnydd disgyblion, mewn sawl achos, yn well na’r disgwyl ar gyfer eu hoedran.

Yn yr un modd, mae gan Ysgol Gyfun Rhydywaun, Rhondda Cynon Taf, weledigaeth o ddysgu digidol sy’n cyfrannu at drawsnewidiad yn nefnydd disgyblion ac athrawon ar dechnoleg, yn ogystal ag ymagwedd yr ysgol at ddiogelwch ar-lein.  Mae’r gwaith hwn wedi ategu’r modd y mae’r ysgol wedi mynd ati’n gyffredinol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

O ran yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw fel rhan o’r adroddiad, canfu arolygwyr fod eu parodrwydd ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol newydd yn amrywio.  Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer pob ysgol, gan gynnwys penodi arweinydd digidol sydd â chefnogaeth lwyr uwch arweinwyr, darparu hyfforddiant perthnasol i athrawon a chynnal archwiliadau o galedwedd a rhwydweithiau TGCh.  Mae gan awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae yn cynorthwyo ysgolion i ymgorffori’r fframwaith yn eu cwricwlwm.