Erthyglau newyddion |

Mae angen cryfhau cyfleoedd addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu

Share this page

Mae datblygu hunanbarch, a medrau cyfathrebu a medrau cymdeithasol pobl ifanc sy’n ceisio cadw’n glir rhag troseddu yn flaenoriaeth i dimau troseddau ieuenctid. Mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw, mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, yn argymell bod timau troseddau ieuenctid yn gwella’r cyfleoedd y mae’r bobl ifanc hyn yn eu cael ar gyfer addysg a hyfforddiant, yn ogystal â gwella olrhain cynnydd o ran gwella eu medrau a’u hymddygiadau.

Yn ei adroddiad, ‘Ansawdd addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sy’n gysylltiedig â thimau troseddau ieuenctid’, mae Estyn yn arfarnu effaith y 15 partneriaeth ledled Cymru a elwir yn dimau troseddau ieuenctid neu TTIau.  Mae’r timau hyn yn cynorthwyo pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio gan y llysoedd, neu sydd mewn perygl o droseddu neu fynd i helynt gyda’r gyfraith.  Mae’r timau yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth iechyd.  Gall fod anghenion cymhleth gan y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, fel anawsterau lleferydd ac iaith, materion iechyd meddwl a phroblemau teuluol.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Nid yw pobl ifanc sy’n cael cymorth gan dimau troseddau ieuenctid yn treulio digon o amser mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.  Mae angen i dimau troseddau ieuenctid weithio’n agosach â cholegau a darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ystod y cyfleoedd sydd ar gael i’r bobl ifanc hyn. 

Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithio gyda phobl ifanc nad yw’r gwydnwch ganddynt bob amser i oresgyn yr heriau a wynebant.  Mae’n hanfodol, felly, fod mynediad pobl ifanc i addysg yn cael ei wella, a bod eu cynnydd yn cael ei gofnodi’n ofalus fel bod modd defnyddio’r wybodaeth hon i helpu gwella cyfleoedd ar gyfer addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y modd y gall cysylltu â gweithwyr proffesiynol lleol helpu dod o hyd i leoliad addysgol addas i unigolyn ifanc.  Fodd bynnag, dim ond mewn lleiafrif o ardaloedd y mae TTIau yn gweithio fel hyn, er enghraifft ym Mro Morgannwg a Chasnewydd.  Mae dulliau cydweithio fel y rhain yn ddefnyddiol, yn enwedig o ran lleihau’r perygl y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio oddi wrth addysg.  Caiff rhagor o enghreifftiau o arfer dda ac astudiaethau achos dienw am bobl ifanc unigol eu hamlinellu yn yr adroddiad llawn.

Mae arolygwyr yn argymell hefyd fod cydlynydd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gan bob tîm troseddau ieuenctid, eu bod yn datblygu strategaethau i hyrwyddo medrau llythrennedd a rhifedd, ac yn ehangu aelodaeth y bwrdd rheoli i gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant lleol.