Erthyglau newyddion |

Estyn yn lansio gwefan newydd o ddata arolygu

Share this page

Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, wedi lansio gwefan ddata newydd sy’n cynnwys yr holl ganfyddiadau arolygu ers blwyddyn academaidd 2010-2011.

Yno, gall athrawon, rhieni ac eraill â buddiant mewn addysg hidlo’r barnau a roddwyd i bob cwestiwn allweddol ac agwedd yn hawdd. Gallant gymharu ysgolion a darparwyr eraill, sectorau addysg ac awdurdodau lleol hefyd.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Rwy’n gobeithio bydd y wefan yn ddefnyddiol i arweinwyr ym myd addysg at ddiben eu dadansoddiadau eu hunain a’u hunanarfarnu, ac y byddant yn gallu hidlo, chwilio ac allfudo’r data sy’n berthnasol iddyn nhw. Bob blwyddyn, pan fydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi, caiff y wefan ei diweddaru i gynnwys y canfyddiadau o’r flwyddyn academaidd ddiweddaraf.”

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys crynodebau o ymatebion i’r holl holiaduron i ddysgwyr a rhieni. 

http://data.estyn.llyw.cymru/