Erthyglau newyddion |

Estyn yn cyhoeddi strategaethau gwella ysgolion uwchradd

Share this page

Mae gan bob ysgol yng Nghymru y potensial i wella’r addysg y maent yn ei chynnig, ond efallai fod angen gwahanol strategaethau ar wahanol ysgolion, yn ôl Estyn, yn dibynnu ar eu cyfnod datblygu.

Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r arolygiaeth yn rhoi cipolwg ar y nodweddion cyffredin a ddangosir gan ysgolion sydd wedi gwella eu darpariaeth o fannau cychwyn gwahanol. Mae Teithiau gwella deuddeg ysgol uwchradd yn cynnwys astudiaethau achos wedi’u hysgrifennu gan benaethiaid cyfredol yn dangos y modd y maent wedi gwella safonau a pherfformiad yn eu hysgol yn sylweddol.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn,

“Efallai fod angen gwahanol arddulliau arweinyddiaeth ar wahanol fathau o ysgolion. Bydd angen dull gwahanol ar ysgol sydd yn y categori mesurau arbennig i’r hyn sydd ei angen mewn ysgol sydd eisoes yn cynnal safonau uchel. Mae ein harolygwyr wedi gweld llawer o ysgolion ar wahanol gyfnodau o’u taith i wella ac mae ein hadroddiad heddiw yn dangos strategaethau ymarferol y gall ysgolion eu rhoi ar waith eu hunain.

“Dylai ysgolion ddefnyddio’r adroddiad taith i wella i nodi eu cyfnod datblygu eu hunain, i lywio eu cynllunio a chymryd camau gweithredu.”

Mae nifer o nodweddion y mae’r arolygiaeth wedi nodi eu bod yn gyffredin i’r daith wella ym mhob ysgol, waeth beth yw eu cyfnod datblygu, sef:

  • Gweledigaeth glir;
  • Rhoi dysgwyr wrth wraidd y ddarpariaeth;
  • Addysgu ac asesu yn allweddol i wella safonau;
  • Dadansoddi data perfformiad;
  • Ffocws cryf ar lythrennedd a rhifedd;
  • Disgwyliadau uchel o ran staff a disgyblion;
  • Her gan lywodraethwyr; a
  • Chwricwlwm sy’n bodloni anghenion pob un o’r dysgwyr.

Mae Ysgol Uwchradd John Summers yn Sir y Fflint yn darparu un o’r astudiaethau achos yn yr adroddiad ac mae’n ysgol sydd wedi teithio o gael ei barnu’n anfoddhaol yn 2005, i fod yn dda yn 2011. Yn yr adroddiad, mae’r pennaeth yn myfyrio ar y tri ffactor sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar wella safonau, sef diwylliant yr ysgol, addysgu a dysgu a sicrhau ansawdd.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Mae adroddiad Estyn Teithiau gwella deuddeg ysgol uwchradd ar gael yn llawn yma

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe
  • Ysgol Uwchradd Cei Connah, Sir y Fflint
  • Ysgol Uwchradd John Summers, Sir y Fflint
  • Ysgol Uwchradd Mair Fendigaid, Caerdydd
  • Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Powys
  • Ysgol Gyfun Oakdale, Caerffili
  • Ysgol Olchfa, Abertawe
  • Ysgol Gyfun Sandfields, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Bryn Elian, Conwy
  • Ysgol Cwm Rhymni, Caerffili
  • Ysgol Glan y Môr, Gwynedd
  • Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe

Gwybodaeth am Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.estyn.gov.uk