Erthyglau newyddion |

Dylai safonau arweinyddiaeth gael sylw cadarnach mewn adolygiadau o berfformiad penaethiaid

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn darganfod nad yw’r safonau arweinyddiaeth cenedlaethol yn cael eu defnyddio’n ddigon helaeth fel rhan o broses rheoli perfformiad penaethiaid.

Nid yw’r safonau arweinyddiaeth cenedlaethol, y bwriedir iddynt feithrin medrau arweinyddiaeth, yn cael eu defnyddio’n ddigon effeithiol o ran sut caiff perfformiad penaethiaid ei reoli neu gofnodi, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn.  Er bod penaethiaid yn cadw cofnodion priodol o’u cyflawniadau yn ystod y flwyddyn, darganfu arolygwyr a ymwelodd â sampl o ysgolion mai dim ond ychydig sy’n defnyddio’r safonau arweinyddiaeth i arfarnu pa mor dda y cyflawnwyd eu hamcanion.

Rhaid i benaethiaid ddangos eu bod yn bodloni safonau arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2011.  Bwriedir i’r safonau wella arweinyddiaeth ac maent yn cynnwys chwe thema y dylai gweithwyr proffesiynol eu defnyddio i amlygu meysydd ar gyfer gwella’u medrau.  Mae’r safonau’n llunio rhan o’r broses flynyddol o reoli perfformiad pennaeth, sy’n cael ei chyflawni gan banel o lywodraethwyr a staff yr awdurdod lleol.

Meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

Mae meithrin a datblygu arweinwyr presennol ysgolion ac arweinwyr y dyfodol yn holl bwysig er mwyn i ni wella addysg Cymru.  Mae’r safonau arweinyddiaeth yn cynnig fframwaith ar gyfer datblygu medrau, ynghyd â bod yn sylfaen ar gyfer rheoli perfformiad arweinwyr ysgol yn effeithiol.  Fodd bynnag, nid yw’r safonau’n cyfleu disgwyliadau digon uchel ar gyfer arweinwyr nac yn amlinellu’n ddigon clir sut y dylai arweinwyr ymddwyn.

 

Mae angen i Lywodraeth Cymru fireinio ffocws y safonau arweinyddiaeth ac mae angen i benaethiaid fyfyrio’n ddyfnach yn ystod eu hadolygiadau o berfformiad ar sut maent yn cymhwyso’r safonau.  Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn helpu llywodraethwyr i ddwyn penaethiaid i gyfrif yn fwy effeithiol.”

Bwriedir i benaethiaid ddefnyddio’r safonau arweinyddiaeth er mwyn helpu i nodi a datblygu medrau arweinyddiaeth sy’n berthnasol i’r cam datblygu yn eu gyrfa ac i’w rolau a’u cyfrifoldebau.  Fodd bynnag, dim ond ychydig benaethiaid sy’n defnyddio’r safonau arweinyddiaeth i’w herio’u hunain mewn modd cadarn fel hyn. 

Ym mron pob un o’r ysgolion a gafodd ymweliad, mae penaethiaid yn nodi eu hanghenion datblygu proffesiynol eu hunain yn gywir, ar y cyfan.  Fodd bynnag, dywed y rhan fwyaf o benaethiaid bod dod o hyd i gyfleoedd datblygu proffesiynol addas i fynd i’r afael â’r anghenion hyn yn heriol ac yn cymryd amser. Yn fwyaf aml, maent yn gweithio mewn rhwydweithiau lleol o benaethiaid i rannu arfer effeithiol.  Roedd penaethiaid sy’n arolygwyr cymheiriaid o’r farn bod yr hyfforddiant yn eu helpu i ddatblygu medrau dadansoddi ac arfarnu.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer penaethiaid ac mae’n eu hannog i fyfyrio’n ysgrifenedig pa mor dda y maent wedi bodloni’r safonau arweinyddiaeth, ynghyd â’u hamcanion o ran rheoli perfformiad.  Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol hefyd herio penaethiaid a chyrff llywodraethol i sicrhau bod cyfleoedd i’r holl staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth. 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglyn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Defnydd statudol o safonau arweinyddiaeth wrth reoli perfformiad penaethiaidgan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn ar http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig  

  • Roedd sylfaen dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweliadau â sampl ar hap o 20 ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg