Erthyglau newyddion |

Dylai hyfforddiant y diwydiant adeiladu ganolbwyntio mwy ar anghenion y farchnad lafur

Share this page

Mae angen i gyrsiau hyfforddiant adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig wella o ran bodloni gofynion economi Cymru heddiw er mwyn bod o fudd i ddysgwyr a chyflogwyr lleol.

Canfu adroddiad Estyn, Hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig, fod sefydliadau addysg bellach (SABau) a darparwyr dysgu yn y gwaith (DYG) yn cynnig cymwysterau medrau adeiladu traddodiadol sydd wedi bod ar gael, ac â galw mawr amdanynt, ers blynyddoedd lawer. Ond nid yw’r darparwyr hyn bob amser yn ystyried gwybodaeth am farchnadoedd llafur lleol fel bod y cyrsiau a’r cymwysterau a gynigir yn cyfateb yn well i gyfleoedd cyflogaeth lleol yn y diwydiant adeiladu. Hefyd, mae’r un cyrsiau yn aml yn cael eu cynnig gan ddarparwyr gwahanol yn yr un ardal ddaearyddol, ac nid yw hynny’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau na chyllid.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig yn bwysig iawn i economi Cymru, ond oherwydd y dirwasgiad mae’r sector adeiladu wedi dirywio dros y pedair blynedd diwethaf. Mae tua 100,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y diwydiant adeiladu, ond ychydig iawn o gontractau tymor hir sydd ar gael.

 

“Ni waeth a oes gwaith ar gael neu beidio, mae adeiladu yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ar gyfer hyfforddiant. Mae uchelgais gan lawer o bobl ifanc i fod yn benseiri, syrfewyr, bricwyr, trydanwyr, plymwyr a seiri. Eto, nid yw’r dull o gyflwyno cyrsiau a rhaglenni adeiladu wedi newid ers blynyddoedd lawer. Nid oes digon o SABau a darparwyr DYG wedi datblygu rhaglenni sy’n gwneud defnydd llawn o brofiadau dysgwyr yn y gwaith neu’n integreiddio llythrennedd, rhifedd ac iaith a diwylliant Cymru i’r addysg a’r hyfforddiant a ddarparant.

 

“Mae angen i ddarparwyr hefyd gydweddu eu hyfforddiant ag anghenion y farchnad lafur leol am fod gormod o ddysgwyr amser llawn yn ennill cymwysterau ond nad ydynt yn cael cyflogaeth neu’n cadw cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu.”

Dim ond canolig yw safonau perfformiad mewn hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig o’i gymharu â meysydd dysgu eraill. Fodd bynnag, fe wnaeth cyfraddau dysgwyr wella rhwng 2009 a 2011 o ran cwblhau eu hyfforddiant a’u cymwysterau.

Mae cael profiad o weithio yn y diwydiant adeiladu yn hanfodol i ddysgwyr er mwyn cwblhau eu cymwysterau, ond nid yw’r cyfle hwn yn cael ei warantu bob amser ar gyrsiau addysg bellach. Heb brofiad gwaith, nid yw dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o ofynion gweithio ar safle adeiladu, nac yn cael y cyfle i ddatblygu eu medrau ymarferol i safon uwch.

Canfu arolygwyr hefyd fod gormod o amrywio yn ansawdd y cymorth y bydd darparwyr yn ei roi i ddysgwyr i ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd. Nid yw lleiafrif o athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn cydnabod buddion cynorthwyo dysgwyr i wella’r medrau hyn. Nid yw dysgwyr bob amser yn cael adborth ysgrifenedig ar eu gwaith. Hefyd, nid yw camgymeriadau sillafu, atalnodi a gramadeg yn cael eu cywiro.

Mae adroddiad Estyn yn cynnwys nifer o argymhellion i wella’r hyfforddiant a gynigir gan ddarparwyr, gan gynnwys gwneud mwy i ddatblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda diwydiant lleol a gwneud yn siŵr bod profiad a gwybodaeth ddiwydiannol athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i drafod gyda darparwyr i ariannu rhaglenni sy’n cyfateb i anghenion marchnad lafur Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Roedd y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn cynnwys:
    • o Ymatebion i holiaduron gan SABau a darparwyr DYG
    • o Ymweliadau â 15 o SABau a darparwyr DYG
    • o Dadansoddiad o ddata ar berfformiad dysgwyr a chraffu ar waith ysgrifenedig a gwaith ymarferol
       

Gwybodaeth am Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.estyn.gov.uk