Erthyglau newyddion |

Cynnig i ymestyn amlder cynnal arolygiadau o fewn saith mlynedd

Share this page

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, yn cynnig newid rheoliadau i alluogi Estyn i arolygu ysgolion a darparwyr eraill o leiaf unwaith bob saith mlynedd, yn hytrach nag unwaith bob chwe blynedd.  Byddai’r newid yn dod i rym o Fedi 2016 ac yn cael ei adolygu eto ar ôl cyfnod o saith mlynedd (un cylch o arolygiadau).  Bydd y newid yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd i gynllunio arolygiadau a neilltuo adnoddau.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd: 

"Rwy’n croesawu’r hyblygrwydd y mae’r cynnig i gyfnod arolygu saith mlynedd yn ei roi i Estyn.  Bydd y cylch arolygu estynedig yn galluogi i ni fod yn fwy ymatebol i weithredu unrhyw newidiadau a allai ddeillio o’n hymgynghoriad diweddar ar arolygiadau.  Mae dadansoddiad cynnar o’r ymatebion yn dangos bod cefnogaeth ar gyfer dull mwy cymesur.  Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn llawn mewn ffurfio’r cwricwlwm newydd.”