Erthyglau newyddion |

Anogaeth a chyngor ar yrfaoedd o fudd i ddisgyblion 14-16 oed

Share this page

Mae disgyblion 14-16 oed wedi elwa ar ystod ehangach o bynciau a mwy o gymorth dysgu ers cyflwyno fframwaith llwybrau dysgu bum mlynedd yn ôl. Mae presenoldeb, ymddygiad a pherfformiad wedi gwella, yn enwedig ymhlith y disgyblion sydd â’r rhwystrau mwyaf rhag dysgu, fel disgyblion o gefndiroedd difreintiedig neu’r rhai ag anghenion addysgol arbennig.

Mae adroddiad Estyn, Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer disgyblion 14-16 oed, yn bwrw golwg ar ansawdd, cysondeb a didueddrwydd y gwasanaethau hyn a ddarperir i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd. Mae tair elfen i’r gwasanaethau: anogaeth dysgu, cymorth personol ac arweiniad gyrfaol. Darganfu’r adroddiad mai darparu cymorth personol yw’r agwedd gadarnaf ar wasanaethau i ddysgwyr, ac ansawdd y cyngor gyrfaol yw’r agwedd wannaf.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Ers cyflwyno fframwaith Llwybrau Dysgu Llywodraeth Cymru yn 2009, mae disgyblion wedi cael mynediad gwell at wasanaethau er mwyn helpu i gynorthwyo eu dysgu. Er hynny, nid yw tua hanner y disgyblion yn ennill 5 o gymwysterau TGAU da gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a mathemateg o hyd, felly mae angen i ysgolion ganolbwyntio’n fwy ar wella cyrhaeddiad.

“Hefyd, rwy’n annog ysgolion i ddatblygu ansawdd eu harweiniad gyrfaol i ystyried anghenion unigol. Mae blwyddyn 9 yn flwyddyn holl bwysig ym mywyd disgyblion ac nid ydynt yn cael cyngor yn ddigon cynnar. Dylai ysgolion fod yn annog disgyblion i siarad am eu dyheadau a’u gobeithion fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain.”

Un rheswm pam nad yw ysgolion yn darparu cyngor digonol ar yrfaoedd yw nad yw ysgolion wedi ystyried yn ddigon gofalus sut dylent ddarparu’r gwasanaethau a gyflwynwyd gynt gan Gyrfa Cymru. Darganfu arolygwyr fod deunydd gwybodaeth mewn rhai ysgolion yn hen ac nad oedd y staff a oedd yn rhoi cyngor yn cael hyfforddiant diweddaru rheolaidd.

Ymwelodd arolygwyr â sampl o ysgolion uwchradd a darganfod nad yw’r mwyafrif yn cydlynu tair elfen y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn ddigon effeithiol. Mae gwahanol aelodau staff yn gyfrifol am bob maes yn y rhan fwyaf o ysgolion ac mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i arfarnu effaith y gwasanaethau. Fodd bynnag, mae Ysgol Gyfun Caerllion, Casnewydd, wedi codi safonau uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig trwy nodi’r rhwystrau a oedd yn atal disgyblion rhag llwyddo a rheoli’r cymorth yn effeithiol rhwng dau dîm.

Mae adroddiad Estyn yn cynnwys cyfres o argymhellion i ysgolion ac awdurdodau lleol. Dylai ysgolion fabwysiadu dull mwy strategol o gyflwyno gwasanaethau cymorth i ddysgwyr, gwella cwmpas ac ansawdd cyngor gyrfaol a chanolbwyntio sylw gwasanaethau ar wella cyrhaeddiad disgyblion o ran cael graddau uchel mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynghylch yr adroddiad

  • Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014 ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o ddau. Bydd yr ail, a gyhoeddir yn 2015, yn ystyried y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith.
  • Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymweliadau ag 20 ysgol uwchradd, sef sampl gynrychioliadol fras o ysgolion uwchradd. Cafwyd tystiolaeth ychwanegol o ddeilliannau arolygu a data am berfformiad yng nghyfnod allweddol 4, presenoldeb a chyrchfannau (gweler Atodiad 1 am fanylion pellach).

Astudiaethau achos o arfer orau

  • Ysgol Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gyfun Caerllion, Casnewydd

Ynghylch Estyn

  • Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.
  • Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
  • Rydym yn annibynnol ar, ond yn derbyn ein cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).
  • Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk