Erthyglau newyddion |

Angen i ysgolion a cholegau wneud rhagor i nodi a chynorthwyo gofalwyr ifanc

Share this page

Nid yw llawer o ysgolion uwchradd, colegau ac unedau cyfeirio disgyblion yn gwybod pa ddysgwyr sydd â rôl ofalu gartref, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn. O ganlyniad, mae’r cymorth a gaiff gofalwyr ifanc yn amrywio’n fawr ledled Cymru.

Mae’r arolygiaeth yn amlygu bod darparwyr sy’n nodi ac yn cynorthwyo gofalwyr ifanc yn gallu helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i lwyddiant academaidd a lles ar gyfer y dysgwyr hyn.

Meddai Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae perygl i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am aelod o’r teulu golli addysg, maent yn fwy tebygol o roi’r gorau i’r coleg ac nid yw eu hiechyd meddwl a chorfforol cystal â’u cymheiriaid.

 

Mae darparwyr addysg yn chwarae rhan bwysig yn helpu i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc er mwyn rhoi’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl iddynt mewn bywyd.

 

Mae adroddiad heddiw yn argymell bod ysgolion, colegau ac unedau cyfeirio disgyblion yn nodi pa ddysgwyr sydd â rôl ofalu ac yn neilltuo aelod penodol o staff i arwain ar hyrwyddo anghenion gofalwyr ifanc.

Mae’r adroddiad yn dangos yr arfer dda yn Ysgol y Strade, Sir Gaerfyrddin, lle y gwnaeth eu partneriaethau cryf ag asiantaethau allanol a’u hethos cymunedol helpu i gynorthwyo disgyblion o bob cefndir, gan gynnwys y rheiny sy’n gofalu am bobl eraill.  Mae gofalwyr ifanc yn teimlo bod yr ysgol yn cydnabod eu rôl ofalu ac yn addasu eu darpariaeth i gefnogi eu hanghenion lles.

Mae defnyddio asiantaethau allanol i wella’r ddarpariaeth yn ffordd dda i ddarparwyr helpu i gynorthwyo gofalwyr ifanc.  Mae Estyn yn argymell bod darparwyr yn gwneud defnydd gwell o adnoddau arbenigol ac mae wedi llunio rhestr wirio, sydd ar gael yn yr adroddiad llawn, i helpu ysgolion, colegau ac unedau cyfeirio disgyblion i fyfyrio ar ba mor dda y maent yn cynorthwyo gofalwyr ifanc.