Arfer Effeithiol |

Rhoi cyfle i ddisgyblion ddweud eu dweud am wella’u hysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
144
Ystod oedran
3-7
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Fabanod Cwmaber ym mhentref Abertridwr yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 144 o ddisgyblion rhwng tair a saith oed ar y gofrestr.  Mae hyn yn cynnwys tua 36 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin rhan-amser.  Mae gan yr ysgol bedwar dosbarth amser llawn.  Mae tua 32% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (19%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
 
Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector 

Mae Ysgol Fabanod Cwmaber yn gymuned ofalgar, fywiog a chroesawgar ble caiff pob un o’r disgyblion a’r staff eu gwerthfawrogi’n gyfartal.  Caiff yr holl ddisgyblion gyfle i elwa ar bob agwedd ar fywyd ysgol.  Ceir ethos cynhwysol sy’n cynorthwyo pob un o’r disgyblion a’r oedolion yn dda.

Caiff llais y disgybl ei annog yn weithredol gan bob aelod o staff er mwyn datblygu perchnogaeth wirioneddol o fywyd ysgol a mentrau.  Mae’r ysgol yn dilyn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n datgan y canlynol: “pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ddisgyblion, mae gan ddisgyblion yr hawl i ddweud beth, yn eu barn nhw, ddylai ddigwydd a bod eu barn yn cael ei hystyried”.  Mae’r pennaeth yn arwain Llysgenhadon yr Ysgol, sy’n cael eu dewis yn ofalus er mwyn cynnwys y disgyblion sydd fwyaf tebygol o elwa ar y cyfrifoldeb i wneud penderfyniadau ysgol gyfan ynghylch amgylchedd yr ysgol a gweithgareddau dysgu.  Gall disgyblion ddewis pa bwyllgorau y maent yn dymuno’u cynrychioli, ac fel ysgol fabanod, mae disgyblion ym Mlwyddyn 1 a 2 wedi ymgymryd â rolau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Mae staff yn mynd ati i hyrwyddo llais y disgybl a’r broses gwneud penderfyniadau.  Caiff disgyblion effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd yr ysgol.  Mae disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb am wella’u hysgol yn ddifrifol.  Mae ganddynt rolau i wella amseroedd chwarae, hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, a datblygu dealltwriaeth disgyblion o faterion amgylcheddol.  Mae Arweinwyr Digidol yn ystyried syniadau ar gyfer datblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) ac mae’r pwyllgor E-Ddiogelwch yn gweithio’n galed i sicrhau bod disgyblion yn ddiogel tra byddant ar-lein.  Mae disgyblion Blwyddyn 1 wedi cymryd rhan yn y broses gyfweld ar gyfer Ysgolion Arweiniol Creadigol.  Mae pob un o’r disgyblion wedi pleidleisio ynghylch pa weithgaredd cyfoethogi ‘hwyl ar ddydd Gwener’ yr hoffent gymryd rhan ynddo.

Llysgenhadon yr Ysgol
Mae gwaith rhagorol y Llysgenhadon yn helpu rhoi gwybod i’r pennaeth beth yw barn disgyblion ar ystod o faterion.  Maent wedi gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella’r maes chwarae gyda wal ddringo newydd a mainc ffrindiau, cwch Llychlynnaidd a llawer o farciau llinell gwahanol.  Mae disgyblion wedi cymryd amser hefyd i fwrw golwg trwy gatalogau mewn cyfarfodydd i ddewis adnoddau rhifedd a llythrennedd i’w defnyddio yn ystod amser egwyl ac amser cinio.

Un o’r awgrymiadau gan y Llysgenhadon oedd y dylid cael loceri lliw wedi’u brandio yn yr ysgol i helpu cadw’r coridorau’n daclus.  Buont yn gweithio gyda’r pennaeth a rheolwr busnes i drafod cost y loceri a sut byddai’r rhain yn cael eu hariannu.  Mae’r Llysgenhadon yn falch iawn o’r gwelliannau y maent wedi’u gwneud i’w hysgol.

Cyngor eco
Mae’r cyngor eco yn helpu datblygu ymwybyddiaeth disgyblion o gynaliadwyedd a byw yn iach, ac mae’r aelodau’n cynnwys disgyblion Blwyddyn 2.  Mae disgyblion Blwyddyn 1 yn ymuno â’r pwyllgor yn ystod tymor yr haf, pan fyddant yn adolygu’r cod eco a chynllun gweithredu’r flwyddyn flaenorol er mwyn creu un newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.  Maent yn adrodd yn ôl wrth lywodraethwyr yn rheolaidd hefyd.  Mae’r cyngor eco yn cynnal ‘teithiau dysgu’ bob tymor o gwmpas y mannau yn yr awyr agored, y ffreutur a’r ystafelloedd dosbarth, er mwyn monitro’r ardaloedd hyn a’u hadolygu, gan godi cwestiynau fel, ‘a oes yna unrhyw sbwriel?’, ac ‘a yw’r ardal yn olau a lliwgar?’ 

Yn ystod cyfarfod y cyngor eco, amlygwyd problem yn ymwneud â rhieni’n parcio’r tu allan i’r ysgol.  Bu’r disgyblion yn trafod hyn ymhellach a phenderfynon nhw eu bod eisiau mynd i’r afael â’r broblem.  Roedd arnynt eisiau arwyddion i atal y rhieni rhag parcio, a gofynnon nhw i’r Swyddog Diogelwch ar y Ffordd lleol  ddod i’r ysgol i’w helpu â syniadau ar gyfer yr arwyddion.  Fe wnaethant gysylltu â’r swyddog cyswllt ysgolion lleol hefyd a chawsant gonau i’w gosod y tu allan i’r ysgol i atal pobl rhag parcio ar y llinellau igam-ogam.  Cynhaliwyd cystadleuaeth ac fe gafodd y posteri buddugol eu harddangos ar arwydd y tu allan i’r ysgol.  Gwnaeth y disgyblion daflenni a’u rhoi i’r rhieni a oedd yn parcio ar y llinellau.  Daethant i’r ysgol yn gynnar a monitro’r parcio ar y llinellau, cyn codi’r arwyddion, ac ar ôl hynny.  Gwelsant ostyngiad mawr yn nifer y bobl a oedd yn parcio ar y llinellau melyn.  Mae’r pwyllgor yn parhau i gwblhau gwiriadau ar hap.

Teithiau Dysgu a Chynllun Datblygu’r Ysgol (CDY)
Mae Llysgenhadon yr Ysgol a’r cyngor eco yn cynnal ‘teithiau dysgu’ tymhorol o gwmpas yr ysgol, er mwyn monitro ac adolygu ardaloedd.  Maent yn trafod blaenoriaethau, yn gwneud awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer y CDY ac o hyn, yn creu CDY sy’n addas ar gyfer plant i’w arddangos o gwmpas yr ysgol.  Mae’r Llysgenhadon wedi cyflwyno’r CDY sy’n addas ar gyfer plant mewn gwasanaethau i’w rannu â gweddill yr ysgol.

Helpwyr Iach (Healthy Helpers)
Mae Helpwyr Iach yn cefnogi ymrwymiad yr ysgol i les a datblygu agweddau iach a ffyrdd iach o fyw.  Mae’r Helpwyr Iach yn rhoi sticeri i blant am flychau cinio iach, yn monitro amser byrbryd ac yn dosbarthu taflenni bwyta’n iach, y maent wedi’u cynllunio eu hunain.  Pan fydd y tywydd yn addas, gall disgyblion fwyta eu cinio pecyn y tu allan mewn ardaloedd picnic dynodedig sy’n cael eu monitro gan Helpwyr Iach a  staff.

Criw Cymraeg
Defnyddir y Gymraeg yn achlysurol trwy gydol y dydd yn holl ardaloedd yr ysgol.  Mae’r Criw Cymraeg yn hyrwyddo’r Gymraeg amser chwarae ac amser cinio trwy drefnu gemau, i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac ymestyn geirfa.  Mae aelodau’n dosbarthu Tocyn Iaith i ddisgyblion eraill i wobrwyo’r defnydd o’r Gymraeg trwy gydol y diwrnod ysgol.

Arweinwyr Digidol
Mae Arweinwyr Digidol yn cyfrannu at roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith.  Mae’r pwyllgor E-Ddiogelwch yn darparu llais i ddisgyblion ar draws yr ysgol ac mae aelodau’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod sut i gadw’n ddiogel ar y rhyngrwyd.  Caiff diogelwch y rhyngrwyd ei gymryd yn ddifrifol iawn a chynhelir sesiynau ar gyfer rhieni.  Yn ystod y sesiynau hyn, cynyddir ymwybyddiaeth rhieni am faterion, ac mae rhieni a’u plentyn / disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd i roi’r hyn a ddysgwyd ar waith, er mwyn gwella diogelwch a diogeledd ar y rhyngrwyd.

Ysgolion Arweiniol Creadigol

Blwyddyn Gyntaf
Dywedwyd wrth ddisgyblion Blwyddyn 1 y bydd yr ysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Ysgolion Arweiniol Creadigol, ac esboniwyd y byddai rhywun proffesiynol yn dod i weithio gyda’r disgyblion ar y prosiect i’w helpu i ddysgu mewn ffordd wahanol.  Gwnaeth y disgyblion restr o gwestiynau i’w gofyn i ymarferwyr i gael gwybod am eu medrau yn ogystal â’u hoffterau a’u casbethau personol. 

Rhoddwyd cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn digwyddiad gweithdy byr yn ystod y cyfweliad cyn iddynt siarad â’r ymgeisydd a gofyn eu cwestiynau.  Galluogodd hyn i’r disgyblion gael syniad am yr hyn y gallai’r ymgeisydd ei gynnig a sut byddent yn dysgu yn ystod y prosiect.  Roedd y disgyblion yn awyddus i gymryd rhan a chynnig eu barn, yn ogystal â gofyn cwestiynau, ac ar ôl y cyfweliadau, buont yn trafod y broses ac yn pleidleisio o blaid yr ymgeisydd yr hoffent weithio gydag ef/gyda hi fwyaf.  Gwrandawodd y staff ar eu sylwadau a’u hystyried cyn gwneud y penderfyniad terfynol.

Yn ystod y prosiect, anogwyd y disgyblion i wneud dewisiadau am y storïau roeddent eisiau eu creu ynghylch plot, sefyllfa a chymeriadau.  Roedd y broses gyfan yn golygu bod angen i’r disgyblion wneud penderfyniadau a chydweithio i wneud penderfyniad ar gyfer y cynnyrch terfynol. 

Yn ystod y prosiect, ac ar ei ôl, gofynnwyd i’r disgyblion beth, os rhywbeth, roeddent yn ei hoffi am y prosiect, a beth oedd ei effaith, os o gwbl, arnyn nhw.  Ymatebodd y disgyblion mewn ffordd aeddfed a meddylgar ac roedd hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod y disgyblion yn gwybod bod eu barn yn ddilys ac yn cael ei gwerthfawrogi.

Ail Flwyddyn
Bydd blwyddyn olaf y prosiect yn cynnwys carfan newydd, ond bydd y broses yr un fath o ran y ffaith y bydd y disgyblion yn cael eu cynnwys trwy gydol y broses wrth ddewis yr ymarferwyr, yn ogystal â’r ffordd y bydd y prosiect yn cael ei gynnal.

Bydd prosiect eleni ar ffurf cyflwyniad yn dynodi newidiadau a’r pethau tebyg mewn chwarae dros y ganrif ddiwethaf.  Gwnaed y penderfyniad hwn ar ôl ymweliad â’r ysgol gan awdur lleol a ysgrifennodd am y pethau y bu’n chwarae â nhw yn ystod ei phlentyndod.  Ar ôl iddi ddarllen detholiad o’i llyfr i’r disgyblion, roeddent yn awyddus i ofyn cwestiynau a chanfod mwy am y teganau a’r gemau y bu’n chwarae â nhw, ac fe wnaethant fynegi diddordeb mewn dysgu amdanynt. 

Llais y disgybl
Mae pob athro dosbarth yn gofyn am syniadau’r disgyblion wrth ddechrau testun newydd.  Wedyn, caiff map o’r meddwl ei greu gyda’r disgyblion ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei ddysgu.  Ystyrir syniadau wrth gynllunio gweithgareddau wythnosol, a phob wythnos, gofynnir i’r disgyblion am syniadau am yr hyn yr hoffent ei gynnwys yn yr ardaloedd manylach yr wythnos ganlynol yn seiliedig ar y medrau y maent wedi’u dysgu’r wythnos flaenorol.

Mae disgyblion yn cwblhau hunanasesiad gan ddefnyddio’r lliwiau goleuadau traffig am sut gallent wella’u gwaith.  Maent hefyd yn asesu gwaith eu cyfoedion ac mae’r disgyblion yn helpu disgyblion eraill i wella.

Cynhelir clybiau ar ôl yr ysgol bob hanner tymor ac mae’r ysgol yn dosbarthu holiaduron i ddisgyblion yn rheolaidd i ddarganfod pa glybiau ar ôl yr ysgol y mae disgyblion yn eu hoffi a pha rai nad ydynt yn eu hoffi.  Mae’r disgyblion yn llenwi eu holiadur gartref gyda’u rhieni.  Wedyn, maent yn gwneud argymhellion ynghylch pa glybiau eraill yr hoffent i’r ysgol eu cynnal.  Dosberthir holiaduron yn gysylltiedig â thestunau hefyd, ac mae’r rhain yn gofyn i’r disgyblion beth roeddent yn ei hoffi orau am y testun, a beth fyddent wedi hoffi ei wneud yn wahanol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r ysgol yn cynllunio rhaglen dreigl newydd i helpu’r disgyblion i gael eu cynnwys hyd yn oed yn fwy mewn rhedeg yr ysgol ac mewn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r amgylchedd a’r gweithgareddau dysgu.  Maent wedi penodi prif / dirprwy brif ferch a bachgen o Flwyddyn 2, a Llysgenhadon o Flwyddyn 1.  Bydd hyn yn paratoi disgyblion Blwyddyn 1 ar gyfer eu rôl ym Mlwyddyn 2. 

Nod yr ysgol yw cyflwyno disgyblion Blwyddyn 1 i’r cyngor eco yn nhymor y gwanwyn, a disgyblion derbyn yn nhymor yr haf, eto i’w paratoi ar gyfer eu rolau yn yr ysgol yn y dyfodol.  Bydd y disgyblion hyn yn cael eu dewis gan eu cyfoedion.

Mae’r ysgol yn datblygu ‘Prosiect Cwmaber 25’ (‘Cwmaber 25 Project’), a’i nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion benderfynu am weithgareddau a digwyddiadau yr hoffent gymryd rhan ynddynt erbyn iddynt adael Ysgol Fabanod Cwmaber ar ddiwedd Blwyddyn 2.  Bydd pob dosbarth yn trafod pa weithgareddau yr hoffent eu gwneud ac yn pleidleisio arnynt.  Bydd y pum dewis mwyaf poblogaidd yn cael eu cwblhau ar gyfer pob dosbarth yn ystod y flwyddyn.  Wedyn, bydd y prosiect yn dechrau eto yn ystod y flwyddyn academaidd newydd.

Mae staff wedi ymgymryd â hyfforddiant ynglŷn â ‘Buddsoddwyr mewn Disgyblion’ ac maent yn bwriadu cyflawni’r dyfarniad erbyn Tymor yr Hydref 2018.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae staff wedi sylwi ar hyder a hunan-barch cynyddol disgyblion, sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu a brwdfrydedd, cydweithrediad, cyfrifoldeb a goddefgarwch. 

Mae cyfathrebu rhagweithiol ar bwyllgorau wedi gwella gallu disgyblion i gymryd rhan mewn trafodaethau a mynegi eu barn yn feddylgar ac effeithiol, tra’n dangos diddordeb a sensitifrwydd i farn eu cyfoedion.  Mae gwneud penderfyniadau’n effeithiol trwy lais y disgybl wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y ddarpariaeth ddysgu a lles.  Mae llais y disgybl wedi galluogi disgyblion i fynegi eu barn, gan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dysgu, a’r amgylchedd y cânt eu haddysgu ynddo.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae disgyblion wedi rhannu eu gwaith gyda’r pennaeth a’r llywodraethwyr, yr ysgol iau y mae’r ysgol yn bwydo iddi, ysgolion babanod eraill a’r clwstwr o ysgolion lleol.  Bydd disgyblion yn rhannu eu profiadau â’r ‘Ysgolion Cyfoedion ar gyfer y Rhaglen Cynnal Rhagoriaeth’.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol