Arfer Effeithiol |

Partneriaethau rhyngwladol sy’n ehangu’r cwricwlwm ac yn darparu profiadau dysgu ysgogol

Share this page

Nifer y disgyblion
75
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd arbennig awdurdod lleol yw Ysgol Heol Goffa sydd wedi’i lleoli yn Llanelli ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin.  Mae’r ysgol yn darparu lleoliadau ar gyfer disgyblion rhwng tair a phedair ar bymtheg oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu ddwys a lluosog.  Ar hyn o bryd, mae 75 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Nod yr ysgol yw darparu profiadau dysgu difyr a heriol er mwyn galluogi pob disgybl gyrraedd ei botensial unigol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu cadarnhaol o ansawdd uchel i helpu disgyblion ddysgu am eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.  Bu’r ysgol ynghlwm â phartneriaethau rhyngwladol er Medi 2013, ac mae ganddi gysylltiadau rhyngwladol cryf sy’n cryfhau profiadau disgyblion a’u dealltwriaeth o’u rôl fel dinasyddion byd-eang. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae uwch arweinwyr wedi sefydlu partneriaethau buddiol iawn gydag ysgolion yn Iwerddon, Yr Alban, Twrci, Awstria a Chyprus.  Mae’r rhain wedi helpu ehangu cwricwlwm yr ysgol a darparu profiadau dysgu ysgogol i ddisgyblion, gan gynnwys cyfleoedd gwerthfawr i ymweld â gwledydd eraill.  Mae staff wedi elwa yn sgil rhannu dulliau newydd o addysgu a dysgu sydd wedi’u datblygu gyda chydweithwyr yn rhai o’r ysgolion partner hyn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r partneriaethau hyn wedi galluogi disgyblion i deithio i wledydd eraill a gwneud ffrindiau newydd.  Mae disgyblion wedi cael profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd newydd, ac wedi dysgu’n uniongyrchol am fod yn ddinasyddion byd-eang.  Wrth ddychwelyd o’r ymweliadau tramor hyn, mae’r disgyblion yn cyfranogi’n frwdfrydig mewn digwyddiadau i rannu eu profiadau gyda disgyblion eraill a rhieni, fel mewn nosweithiau agored lle maent yn arddangos iaith, bwyd a thraddodiadau’r wlad yr ymwelont â hi.  Mae’r profiadau hyn yn rhoi mwy o hunanhyder i ddisgyblion, ac yn gwella eu hunan-barch, eu medrau cyfathrebu a’u medrau cymdeithasol. 

Mae cwricwlwm yr ysgol wedi’i gyfoethogi gan yr ystod eang o ddeunyddiau addysgu y daeth staff a myfyrwyr â nhw yn ôl o wledydd eraill.  Defnyddir yr adnoddau hyn yn dda gan y staff i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau a thraddodiadau eraill.  Er enghraifft, ymwelodd staff o Heol Goffa â Thwrci a daethant â deunyddiau addysgu yn ôl a gyfoethogodd gynlluniau gwaith addysg grefyddol, dylunio a thechnoleg a chelf.

Mae cysylltiadau gydag ysgolion arbennig yn Nulyn a Chaeredin wedi galluogi staff i ddysgu a rhannu dulliau cyfathrebu newydd sydd wedi bod o fudd i ddisgyblion sy’n cyfathrebu’n ddieiriau yn arbennig.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhan o rwydwaith sydd wedi ymrwymo i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u rôl fel dinasyddion byd-eang.  Mae staff o Ysgol Heol Goffa yn gweithio gyda chydweithwyr mewn ysgolion lleol eraill i rannu eu deunyddiau cwricwlwm ac i annog partneriaethau rhwng ysgolion yng Nghymru a gweddill y byd.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) – gwanwyn 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 25 o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i ysgolion arbennig a gynhelir ac UCDau rhwng diwedd mis Hydref 2020 a dechrau mis Chwefror 2021. ...Read more