Arfer Effeithiol |

Gweithgareddau creadigol ac ysgogol trwy ddiwrnodau trochi disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
690
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Glan Usk yng Nghasnewydd ac mae 690 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae 22 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.

Mae rhai disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae rhai ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Mae’r ysgol wedi cyflwyno newid trwy drefniadau hunanarfarnu cadarn, sy’n gysylltiedig â phrosesau effeithiol i wella’r ysgol.  Mae arweinwyr yn rhoi pwys mawr ar alluogi pob un o’r staff i fonitro, arfarnu ac adolygu newidiadau i’r cwricwlwm fel eu bod i gyd yn rhan o’r broses ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.

Dechreuodd yr ysgol waith ar arloesi’r cwricwlwm yn swyddogol ym mis Ionawr 2016.  Fodd bynnag, mae datblygu’r cwricwlwm wedi bod yn broses barhaus yn sgil uno yn  2008.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn cynnal ei chwricwlwm pwrpasol ei hun o’r enw SHINE - Medrau a’r Dyniaethau i Ysbrydoli, Meithrin a Grymuso (Skills and Humanities to Inspire, Nurture and Empower).

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Er mwyn hwyluso newid, datblygodd yr ysgol ddiwylliant a oedd yn canolbwyntio ar ddeialog broffesiynol barhaus, sgyrsiau manwl am ddysgu a myfyrio.

Mae uwch arweinwyr wedi datblygu cynllun cydlynus ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol staff sy’n canolbwyntio ar ymgymryd ag ymchwil ar gwricwla rhyngwladol.  Mae arweinwyr yn rhoi pwys mawr ar gynllunio ar gyfer newid.  Maent yn canolbwyntio’n dda ar ddatblygu dealltwriaeth gadarn o addysgeg effeithiol ac yn rhoi amser â ffocws i staff ymchwilio i baratoi ar gyfer rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith.  Mae sgyrsiau dysgu rheolaidd rhwng staff, er enghraifft yn ystod amser cynlluniedig i ddatblygu’r cwricwlwm, triadau mewnol a thrwy gyfleoedd hyfforddi cyfoedion, yn galluogi staff i gynllunio ar gyfer ymholiadau ymchwil weithredu, a chymryd rhan ynddynt.  Mae hyn yn datblygu diwylliant parhaus o ddeialog broffesiynol fel eu bod yn arfarnu’n barhaus effaith unrhyw newidiadau i addysgeg.  Mae’r ysgol yn fedrus yn rhannu arfer dda yn fewnol a gydag ysgolion eraill.  Fel ysgol arloesi dysgu proffesiynol, mae staff yn ymgysylltu â llawer o weithwyr proffesiynol o leoliadau eraill er mwyn rhannu datblygiadau’r cwricwlwm a’r effaith a gânt ar ddysgu disgyblion.  Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’n gryf y gwelliannau i’r cwricwlwm a’r addysgeg yn eu hysgol eu hunain.

Mae datblygu’r cwricwlwm yn nodwedd allweddol ym mhrosesau gwella’r ysgol.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae wedi:

  • adolygu cynllunio yng ngoleuni argymhellion Llywodraeth Cymru ac wedi gwneud newidiadau i’r cwricwlwm
  • sicrhau dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion addysgegol a dawn greadigol gyda ffocws ar fetawybyddiaeth, asesu ar gyfer dysgu, dawn greadigol a llais y disgybl
  • sicrhau cyfatebiaeth rhwng cynllunio ar gyfer y pedwar diben ac wedi parhau i godi proffil asesu ar gyfer dysgu

Mae hon wedi bod yn broses raddol, ac yn ystod y broses, mae pob aelod o staff wedi arfarnu a monitro effaith yn rheolaidd.  Trwy eu canfyddiadau, mae staff yn amlygu meysydd cryfder ac yn nodi ffyrdd o wneud gwelliannau pellach.  Mae’r ymagwedd hon wedi eu galluogi i wneud newidiadau cyflym ac effeithiol i’w hymagwedd at gyflwyno’r cwricwlwm.

Mae’r ysgol yn cydnabod yr angen i gefnogi newid i’r cwricwlwm trwy ddarparu digon o adnoddau ac amser priodol i ryddhau staff.  Er enghraifft, dyrannwyd cyllid gan uwch arweinwyr i alluogi athrawon i ddechrau eu testunau â ‘diwrnodau trochi’ ysgogol i ymgysylltu â disgyblion a gofyn am eu syniadau am wersi a gweithgareddau. 

Mae staff yn cydweithio i ddatblygu ffurflen cynllunio tymor canolig ar gyfer SHINE.  Mae’r rhain yn cynnwys medrau’r cwricwlwm cenedlaethol i’w haddysgu, cymhwyso amcanion y fframwaith llythrennedd a rhifedd, syniadau disgyblion a’r pedwar diben.  Mae uwch arweinwyr yn annog staff i fentro a bod yn arloesol wrth arbrofi â syniadau newydd.  Mae’r ysgol yn defnyddio arbenigedd pob un o’r staff, y disgyblion ac ymchwil weithredu i gyflawni newid.  O ganlyniad, mae pob un o’r staff yn cymryd rhan yn weithredol mewn cynllunio ar y cyd ar gyfer newid. 

Mae diwrnodau trochi disgyblion yn effeithiol o ran darparu amrywiaeth o weithgareddau creadigol, ysgogol a difyr ar gyfer disgyblion.  Tra byddant yn cael eu trochi yn y gweithgareddau amlsynhwyraidd hyn, rhoddir amser i ddisgyblion fyfyrio a meddwl am y profiadau y gallai eu testun newydd eu darparu.  Maent yn penderfynu am beth yr hoffent ddysgu mwy a pha fedrau yr hoffent eu datblygu yn ystod y thema.  Er enghraifft, yn ystod y cyfnod pontio ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, gofynnir i bob un o’r disgyblion greu map meddwl o’u diddordebau a thestunau ar gyfer dysgu yn y dyfodol.  Wedyn, bydd staff yn penderfynu ar thema drosfwaol sy’n seiliedig ar eu diddordebau, er enghraifft, ym Mlwyddyn 2, ‘Cyrff syfrdanol’ (‘Mind boggling bodies’), Blwyddyn 3, ‘Cymru Ryfeddol’ (‘Wonderful Wales’), a Blwyddyn 4, ‘Ydych chi erioed wedi meddwl’ (‘Have you ever wondered’).  Wedyn, mae athrawon yn darparu cyfres o ddiwrnodau trochi i ennyn diddordeb a chymell disgyblion â gweithgareddau penodol, gan gynnwys blasu bwyd o wahanol wledydd, siaradwyr gwadd, gwahanol weithgareddau dawns o bob cwr o’r byd a throchi mewn ieithoedd,   tirnodau, diwylliant a hanes.  Caiff ystafelloedd dosbarth eu troi’n wahanol amgylchoedd, fel y goedwig law a’r Antarctig a lleoedd fel tai bwyta a meysydd awyr, ac mae disgyblion yn perfformio adegau allweddol mewn hanes, fel y ‘Blits’ a bod yn  ‘faciwîs’, i wneud y gorau o’u profiadau dysgu.

Mae athrawon yn rhannu’r medrau cwricwlwm cynlluniedig â disgyblion ac mae disgyblion yn penderfynu ar y cyd-destun ar gyfer y medrau y byddant yn eu datblygu.  Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o rym i ddisgyblion ac yn eu helpu i ymgymryd â’r profiadau dysgu.  Mae pob ystafell ddosbarth yn cynnwys wal gynllunio a myfyrio ar gyfer y disgyblion, sy’n ymgorffori’r medrau a syniadau disgyblion.  Mae’r wal gynllunio wedi’i threfnu yn ôl y pedwar diben.  Mae athrawon yn cyfeirio at y medrau, syniadau disgyblion am wersi a’r pedwar diben ym mhob gwers.  Mae’r ysgol yn cynnal gwasanaethau ar y cwricwlwm a diwrnodau llais y disgybl yn rheolaidd i sicrhau bod gan ddisgyblion ddealltwriaeth gadarn o Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), a’r pedwar diben.

Mae llais y disgybl wedi datblygu o drafodaethau mewn grwpiau bach i sicrhau llais sylweddol i bob plentyn wrth ffurfio’r cwricwlwm.  Mae cyflwyno cwricwlwm ‘SHINE’ wedi galluogi disgyblion i deimlo eu bod wedi’u grymuso’n fwy i arwain eu dysgu eu hunain.  Mae hyn yn amlwg o adborth a gasglwyd yn ystod diwrnodau ‘Llais y Disgybl’.  Mae gallu disgyblion i ddeall a chynllunio ar gyfer datblygu medrau yn rhagorol.  Caiff pob disgybl yn yr ysgol gyfle i gynnig syniadau am eu dysgu yn y dyfodol, ac maent yn siarad yn wybodus am gymhwyso medrau. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall ble maent wedi cyrraedd yn eu dysgu, ac maent yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud i wella.  Ceir mwy o annibyniaeth ac iaith ddysgu well ar draws yr ysgol.  O ganlyniad, mae medrau llafaredd disgyblion wedi gwella ynghyd â’r ffordd y maent yn cymhwyso medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion

pdf, 2.01 MB Added 12/06/2019

Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm

Mae Ysgol Gynradd Glan Usk wedi arwain ar arloesi’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol. Mae hyn wedi arwain at ddisgyblion hyderus sy’n arwain eu dysgu’u hunain yn effeithiol. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd

pdf, 940.23 KB Added 17/05/2018

Darganfyddwch ddull pedwar cam y gall eich ysgol ei ddefnyddio fel strwythur i gefnogi syniadau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015

pdf, 963.55 KB Added 10/06/2015

Cyhoeddir yr adroddiad arolwg thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. ...Read more
Adroddiad thematig |

Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 - Mehefin 2014

pdf, 659.67 KB Added 01/06/2014

Lluniwyd yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more