Arfer Effeithiol |

Galluogi rhieni i gefnogi dysgu eu plant

Share this page

Nifer y disgyblion
102
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Talysarn ym mhentref gwledig Talysarn yng Ngwynedd. Mae rhan fwyaf y disgyblion yn byw yn y pentref a’r pentrefi cyfagos.  Mae 102 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 15 disgybl yn y dosbarth meithrin.  Mae 4 dosbarth yn yr ysgol.

Daw oddeutu 50% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg, ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae oddeutu 25% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae 25% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.   Mae’r ffigurau hyn ychydig yn uwch na chanrannau Cymru.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dros amser, mae’r ysgol wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda ystod eang o bartneriaethau.  Mae’r ysgol yn credu, gan ei bod mewn aradai di-freintedd, fod dyletswydd i sicrhau perthynas effeithiol gyda rhieni.  Y weledigaeth yw cynnig cyfleoedd a phrofiadau i’r disgyblion a’u rhieni dreulio amser cyfoethog, arbennig yng nghwmni ei gilydd heb gael eu tarfu arnynt gan amgylchiadau heriol.  Dau o’r prosiectau diweddar y buodd yr ysgol yn ymwneud a hwy oedd ‘Llofnod Dysgu Teulu’ ac ‘Hwyl i’r Teulu’.

Mae ‘Llofnod y Teulu’ yn golygu cynnal sesiynau gyda teuluoedd er mwyn cyd-drafod a chael cytundeb rhwng yr ysgol a’r cartref ar sut gall rieni oresgyn anawsterau fel ymrwymiad, medrau, amgylchedd a diwylliant, â all fod yn rhwystredig wrth geisio cefnogi eu plant yn y cartref.  Mae hyn wedi arwain at gamau gweithredol llwyddiannus sy’n galluogi’r rhieni i gefnogi eu plant yn well.  Adroddodd un riant am enghraifft syml o ganlyniad cwblhau y llofnod dysgu teulu, sef fod bwrdd y gegin yn cael ei ddefnyddio i’w bwrpas bellach fel lle i’r teulu eistedd gyda’i’ gilydd bob nos i fwyta, trafod a sgwrsio yn hytrach na eistedd o flaen y teledu yn bwyta.   Mae enghreifftiau ble mae rhieni yn nodi fod gan ei plant le iawn bellach i gwblhau eu gwaith cartref a bod eu bywyd teuluol wedi gwella llawer, gan eu bod yn gwrando a chymryd diddordeb ym mywydau ei gilydd wrth drafod.

Trefnodd y cyngor ysgol sesiynau  ‘Hwyl i’r Teulu’ gyda swyddog iaith awdurdod Gwynedd, er mwyn parhau i gyd weithio gyda’r teuluoedd ac i fagu hyder rhieni i siarad Cymraeg gyda’u plant.  Cafwyd nifer o sesiynau hwyliog i’r disgyblion a’u teuluoedd gyfarfod ar ôl ysgol, gan gynnwys mewn sesiynau dawns, actio, celf, ac ymweliad gan lyfrgellydd a chymeriad ‘Strempan’ o lyfrau Rala Rwdins.  Roedd y sesiynau yn cyfrannu’n llwyddiannus at fedrau dwyieithog y disgyblion a’u rhieni ac roedd mwy a mwy o deuluoedd yn mynychu o wythnos i wythnos.  Eleni eto, mae’r rhieni wedi gofyn am sesiynau ‘Hwyl i’r Teulu’.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau y dysgwyr?

• Mae ‘Llofnod y Teulu’ yn cefnogi rieni yn effeithiol i oresgyn anawsterau er mwyn cefnogi eu plant yn y cartref.  Mae hyn wedi arwain at gamau gweithredol llwyddiannus sy’n galluogi’r rhieni i gefnogi eu plant yn well
• Mae’r sesiynau ‘Hwyl i’r Teulu’ gyda swyddog iaith awdurdod Gwynedd, yn llwyddiannus wrth fagu hyder rhieni i siarad Cymraeg gyda’u plant.  Mae’r sesiynau yn cyfrannu’n llwyddiannus at fedrau dwyieithog y disgyblion a’u rhieni. 
• Mae lles disgyblion yn gwella yn llwyddiannus ac maent yn dangos balchder amlwg yn eu cyfraniad i sawl agwedd at fywyd yr ysgol.  Oherwydd hyn mae eu agwedd at waith yn rhagorol ac yn cael effaith gadarnhaol iawn ar safonau a lles disgyblion ac yn ymestyn eu profiadau dysgu’n effeithiol.

Sut ydych yn mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Gynradd Talysarn  wedi rhannu ei arferion gyda sawl ysgol arall.  Mae’r pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol wedi rhannu arferion ac agweddau o’r gwaith mewn cyfarfodydd cydgysylltwyr iaith Gwynedd a gyda  staff grwp o ysgolion cydweithiol ac ysgolion sydd yn derbyn cefnogaeth gan yr ysgol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol