Arfer Effeithiol |

Diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar hawliau plant

Share this page

Nifer y disgyblion
355
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw wedi’i lleoli yng ngorllewin dinas Abertawe.  Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Rhossili ar benrhyn Gŵyr i Dderwen Fawr yn Sgeti.  

Mae 355 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 51 oed meithrin rhan-amser.  Mae’r disgyblion wedi eu rhannu rhwng 13 dosbarth, gan gynnwys naw dosbarth oed cymysg a dau ddosbarth derbyn a dau ddosbarth meithrin.

Dros dreigl tair blynedd, mae tua 3% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn sylweddol is na’r canran cenedlaethol (18%).  Mae tua 28% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Ychydig iawn sydd o gefndir lleiafrifol ethnig.  Cymraeg yw prif gyfrwng yr addysgu a’r dysgu yn y cyfnod sylfaen ac anelir at sicrhau bod pob disgybl yn ddwyieithog erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.  Mae’r ysgol wedi adnabod 12% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn is na’r canran cenedlaethol o 21%.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad hawliau plant ers 2013.  Fe ddaeth hyn mewn ymateb i ymdeimlad cryf o anghyfiawnder, annhegwch a ffafrio grwpiau o blant ymhlith disgyblion ac roedd nifer o gwynion gan rieni a oedd yn gofidio am safonau, lles disgyblion a diffyg cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Dangosodd holiaduron rhieni a phlant bod llai na 50% ohonynt yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol.  Rhaid oedd ymateb i’r sefyllfa ar unwaith.

Cyd-weithiodd y pennaeth, staff, llywodraethwyr, rhieni a’r disgyblion â’i gilydd i greu gweledigaeth gytunedig a oedd yn rhoi lles disgyblion yn ganolig i bob penderfyniad. Trwy waith ymchwil a thrafodaethau pellach, penderfynwyd mai trwy hyrwyddo a gweithredu egwyddorion ‘hawliau plant’ yn llawn y byddwn yn medru cyflawni ein nod.  Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn adnabod rhestr o 42 o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc, ble bynnag yn y byd, ni waeth pwy ydyn nhw, na’r hyn maent yn credu ynddo.  Mae’r hawliau ar y rhestr yn bethau y mae ar blant a phobl ifanc eu hangen i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, bod ganddynt y pethau y mae arnynt eu hangen i oroesi a datblygu, a’u bod yn cael dweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.  Trefnwyd hyfforddiant i staff a disgyblion Blwyddyn 6, ynghyd a sesiynau rhannu gwybodaeth gyda rhieni.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Etholwyd cynrychiolwyr o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 i fod yn Llysgenhadon Hawliau Plant i gael llais ar bwyllgor y cyngor ysgol.  Cyd-weithiodd y llysgenhadon gyda’r arweinydd i ddewis 10 prif hawl o’r 42 a oedd fwyaf perthnasol iddyn nhw er mwyn creu calendr blynyddol hawliau â chyswllt hawl y mis, i’w defnyddio yn y cynlluniau wythnosol a gwasanaethau dyddiol.  Cydweithiodd y pennaeth gyda’r llysgenhadon i ail-ysgrifennu’r polisi ymddygiad a oedd yn cynnwys polisi ‘dim gweiddi’ ar gyfer disgyblion a staff.  O ganlyniad, mae’r staff yn defnyddio ffurfiau creadigol o dynnu sylw’r disgyblion, er enghraifft wrth ganu neu glapio rhythm yn hytrach na chodi llais.

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd mae’r disgyblion yn creu siarter dosbarth ar y cyd gyda’u hathrawon sy’n cwmpasu rhai o brif hawliau plant.  Erbyn hyn, mae gweithredu’r siarter yn sicrhau bod hawliau plant yn rhan wirioneddol ac ystyrlon o fywyd dyddiol pob disgybl.  Cynhelir asesiadau dyddiol o les emosiynol disgyblion trwy ‘gofnodi’ boreol, sy’n galluogi staff gadw llygad ar blant bregus a chynnig sesiynau maeth yn ddyddiol.

Trwy drafodaethau ’llais y llawr’, teithiau dysgu, holiaduron a phwyllgorau’r cyngor ysgol mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd cyson i leisio barn ar fywyd ysgol, er enghraifft o gynllunio ‘Cwricwlwm Llwynderw’, darpariaeth clybiau allgyrsiol, cefnogi elusennau i benodi staff.  Mae’r disgyblion yn cael mewnbwn cyson yn ystod y flwyddyn i’w dysgu ac yn nodi eu cynnydd yn eu hadroddiadau diwedd blwyddyn.

Un o’r strategaethau sydd wedi bod fwyaf effeithiol wrth ymdrin â’r hawl i fod yn deg yw defnyddio ‘arfer adferol’ fel dull ysgol gyfan i ddatrys unrhyw wrthdaro.  Mae ymagweddau adferol yn galluogi’r rhai sydd wedi niweidio i gyfleu effaith y niwed i’r rhai oedd yn gyfrifol, ac i’r rhai a oedd yn gyfrifol gydnabod yr effaith yma a chymryd camau i gymodi.

Tu allan i’r ysgol, mae’r llysgenhadon yn cymryd rhan yn ‘ Y Sgwrs Fawr am ddemocratiaeth’ o fewn y Sir, ac yn cydweithio gyda’r awdurdod i helpu adolygu polisïau a mynegi barn ar benderfyniadau sydd yn ei heffeithio’n bersonol.   Mae’r ysgol wedi datblygu partneriaeth gydag ysgol yn Siavonga, Zambia er mwyn i’r disgyblion ddysgu am fywyd mewn gwlad gyferbyniol.  Mae 3 aelod o staff o’r ysgol honno wedi ymweld ag Ysgol Llwynderw dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae’r disgyblion yn cadw cyswllt trwy lythyru ei gilydd yn flynyddol.  Trwy’r profiad yma, dysgodd y disgyblion bod gan bob un plentyn hawliau, pa bynnag wlad maent yn byw ynddi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith wedi cyfrannu’n helaeth at godi safonau lles y disgyblion.  Mae canran presenoldeb wedi cynyddu dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac mae hawliau plant bellach wedi’i wreiddio yn ethos gofalgar a chynhwysol yr ysgol.  Mae llais y disgybl yn cael mewnbwn i weithdrefnau hunanwerthuso cyson yr ysgol ac yn cyfrannu at y cynllun gwella ysgol.  O ganlyniad, mae’r disgyblion yn teimlo perchnogaeth dros eu hysgol ac yn cyfrannu at ei gwella.

Mae polisi ‘dim gweiddi’ yn cefnogi’r berthynas o barch rhwng staff a disgyblion.  Mae defnyddio ‘arfer adferol’ wedi gwella ymddygiad ac ymroddiad disgyblion ar draws yr ysgol.  Mae ymddygiad yn rhagorol ac mae lefel ymrwymiad y disgyblion i’w dysgu wedi gwella.

Erbyn hyn mae 100% o rieni yn teimlo bod eu plant yn ddiogel o fewn yr ysgol.  Mae’r rhieni yn canmol yr ethos gofalgar sydd o fewn yr ysgol, gan staff a disgyblion.

Mae’r siarter dosbarth a’r ‘cofnodi’ dyddiol yn ffordd effeithiol iawn o leisio barn a gwrando ar eraill mewn awyrgylch gadarnhaol.  Drwy hyn, mae’r disgyblion yn dysgu am barch, tegwch, dyfalbarhad, diogelwch ac empathi.  Mae hyn yn codi eu hyder ac yn gwneud iddynt deimlo’n hapus a diogel, sydd o ganlyniad, yn codi safonau eu lles.  Mae’r gwaith yma wedi arwain at ennill gwobr aur (Lefel 2) mewn Hawliau Plant, sef yr ysgol Gymraeg cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu arferion da trwy gynnal nosweithiau agored i rieni a chyflwyniadau i lywodraethwyr.  Mae’r gymuned leol a byd eang yn medru cael gafael ar wybodaeth trwy’r wefan a chyfrif trydar.  Yn sgil derbyn gwobr Aur Hawliau Plant mae nifer o ysgolion o fewn rhanbarth ERW wedi ymweld â’r ysgol i ddysgu am eu harferion.  Mae’r arweinydd Hawliau Plant wedi gwahodd yr ysgol i weithio fel aseswr i UNICEF wrth iddynt asesu ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n gweithio at Lefel 1 a 2.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol