Arfer Effeithiol |

Defnyddio tystiolaeth i fireinio hunanwerthuso

Share this page

Nifer y disgyblion
54
Ystod oedran
2-4
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Fingers and Thumbs Day Care Centre yn gwasanaethu tref Pen-y-bont ar Ogwr a’r pentrefi cyfagos. Mae’n darparu cylch chwarae, cylch brecwast, clwb ar ôl yr ysgol, clwb gwyliau a sesiwn ar gyfer rhieni a phlant bach.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i gymryd hyd at 30 o blant. Mae plant yn mynychu’r lleoliad o ddwy flwydd oed ymlaen.

Adeg yr arolygiad, roedd 54 o blant ar y gofrestr, y mae 15 ohonynt yn dair oed a 2 ohonynt yn bedair oed ac yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol.

Mae’r adroddiad arolygu yn datgan:
“Mae hunanarfarnu a chynllunio gwelliant yn rhan reolaidd a hynod effeithiol o waith pob un o’r staff. Maent yn cyfrannu’n dda at archwiliad blynyddol sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn gywir. Mae arweinwyr yn casglu ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys barn gan rieni, plant a chyfranogion eraill, i lywio hunanarfarnu. Mae’r gweithdrefnau hunanarfarnu hyn, sydd o ansawdd uchel, gan gynnwys adolygiadau tystiolaeth gwaith, arsylwadau gwersi a rhoi sylw manwl i ddata” yn gwneud yn siŵr bod pawb yn y lleoliad yn cael darlun clir a chywir iawn o gryfderau’r lleoliad a’r meysydd i’w gwella yno."

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Dros gyfnod o sawl blwyddyn, rydym wedi mireinio a gwella prosesau hunanarfarnu. O ganlyniad, gwyddom beth rydym yn ei wneud yn dda ac yn bwysicach, gwyddom beth mae arnom eisiau ei wneud yn well.

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth fel rhan o hunanarfarnu, ond y pwysicaf yw tystiolaeth uniongyrchol. Mae monitro ansawdd y dysgu, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, yn nodwedd gref o’n gweithdrefnau hunanarfarnu. Mae gennym system myfyrio beirniadol, sy’n ysgogi gwelliannau yn dda. Mae’r arweinydd yn monitro, arfarnu ac yn adolygu holl feysydd y ddarpariaeth yn ystod y flwyddyn. Mae ymarferwyr yn trafod yr arsylwadau hyn ac, fel tîm, rydym yn cytuno ar ffordd ymlaen. Yn amlach na pheidio, rydym yn gweithredu yn unol â’r trafodaethau hyn, ond yn achlysurol, mae angen i ni gynllunio amcanion tymor hwy y mae angen cyllid neu hyfforddiant ychwanegol ar eu cyfer. Defnyddir gwybodaeth am fonitro yn effeithiol i:

  • fesur effaith newid ar ddeilliannau ar gyfer plant;
  • nodi’r hyn y mae angen i ni ei wneud nesaf;
  • llywio cynllunio yn y dyfodol;
  • nodi anghenion hyfforddi staff; ac
  • amlygu ble gallai fod angen adnoddau ychwanegol arnom.

Mae pob un o’r ymarferwyr yn monitro dysgu o ddydd i ddydd. Mae pob un ohonynt yn cymryd cyfrifoldeb am ardal o ddarpariaeth barhaus, gan nodi’r ardal a gwneud yn siŵr bod adnoddau yn briodol. Mae ymarferwyr yn monitro’r modd y mae plant yn defnyddio eu hardal ac yn gwneud newidiadau os ydynt yn gweld bod chwarae yn dechrau ‘edwino’. Mae hyn wedi annog ymarferwyr i gymryd perchnogaeth o’u hardaloedd a gweld diben gwirioneddol i hunanarfarnu. Yn ychwanegol, bob dydd rydym yn rhyddhau ymarferwr o weithio gyda grwpiau o blant i ‘sefyll yn ôl’ ac arsylwi plant yn chwarae. Eto, rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon fel rhan o hunanarfarnu, h.y. ble mae’r plant yn chwarae, pa weithgareddau sy’n ennyn eu diddordeb go iawn?

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Caiff effaith hunanarfarnu ar safonau plant ei dangos orau gan ddwy enghraifft. Fe wnaethom nodi nad oedd ein hardal yn yr awyr agored yn gallu darparu’r holl brofiadau dysgu y byddem yn dymuno’u darparu. Fe wnaethom archwilio’r posibilrwydd o gael Ysgol Goedwig ac rydym yn ymweld ag ardal Goedwig bob wythnos erbyn hyn. O ganlyniad, mae medrau corfforol plant wedi gwella, maent yn fwy hyderus ac mae ganddynt fedrau cymdeithasol gwell trwy ddysgu helpu pobl eraill gyda heriau yn yr awyr agored.

Rydym wedi gweithio’n galed i wella medrau Cymraeg ein plant. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan rieni ac mae rhieni eisiau helpu eu plant gartref. I hwyluso hyn, rydym wedi sefydlu dosbarthiadau Cymraeg yn y lleoliad i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd. Mae hyn wedi gwella medrau plant a’u mwynhad o’r Gymraeg ac wedi cryfhau ein partneriaeth gyda rhieni.
Mae hunanarfarnu yn gweithio i ni gan ein bod yn canolbwyntio’n fawr ar y plant ac yn gwneud pethau’n well iddynt. Mae mentrau diweddar, wedi eu hysgogi gan hunanarfarnu, wedi arwain at welliannau gwerthfawr wrth gynllunio ar gyfer medrau llythrennedd a rhifedd plant. Mae safonau plant yn gwella oherwydd y mentrau hyn.

 

 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol