Arfer Effeithiol |

Defnyddio hunanwerthuso i yrru gwelliant

Share this page

Nifer y disgyblion
94
Ystod oedran
2-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Pen Coch yn ysgol arbennig ddydd sy’n darparu addysg i ddisgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anghenion dysgu cymhleth.  Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol, rhwng dwy ac 11 oed.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Agorwyd Ysgol Pen Coch yn 2009 ar ôl cau adeiladau tair ysgol arbennig.  Yna, unodd yr ysgolion yn un ysgol arbennig gynradd ac un ysgol arbennig uwchradd.

Roedd y tair ysgol a gaeodd yn wahanol iawn.  Pan gafodd staff gyfweliadau ar gyfer swyddi yn yr ysgol newydd, mynegodd llawer ohonynt bryderon am eu hyder o ran gweithio gyda disgyblion ag ystod ehangach o anghenion.  Penderfynwyd bod angen i staff ar bob lefel ddatblygu ymagwedd hunanarfarnol at eu gwaith.  Roedd angen i’r hunanadolygiad hwn gael ei ategu gan strwythurau priodol yn yr ysgol, a oedd yn darparu adborth i unigolion a grwpiau ar eu gwaith, a’i effaith ar y disgyblion.  Roedd hi’n bwysig i’r ysgol ddatblygu cyfleoedd rheolaidd, helaeth i archwilio a rhoi sylwadau ar waith pob rhan o’r ysgol a chymryd rhan mewn deialog proffesiynol â’r staff cysylltiedig.  Byddai’r wybodaeth a gafwyd yna’n cael ei defnyddio i hyrwyddo datblygiad cyffredinol gwaith yn y maes hwnnw.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Er mwyn sicrhau bod y dull hwn yn effeithiol, penderfynwyd y byddai ffocws ar un adran neu faes (er enghraifft ymddygiad) bob tymor.  Datblygodd yr ysgol broses o gasglu gwybodaeth, gan gynnwys arsylwi addysgu, craffu ar ddogfennau, arsylwi cyfarfodydd, cyfweliadau a holiaduron.  Lluniodd y pennaeth bolisi monitro ac arfarnu, a roddwyd ar wefan yr ysgol. 

Ar ddiwedd monitro ac arfarnu adran neu faes penodol, caiff adroddiad ei lunio sy’n crynhoi’r wybodaeth a gafwyd.  Mae’r adroddiadau’n cynnwys sylwadau ar ba mor dda yr aethpwyd i’r afael â materion blaenorol, ansawdd yr addysgu, y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, arweinyddiaeth a rheolaeth adran neu ddarpariaeth, a phroblemau o ran darpariaeth ac adnoddau. 

Yna, mae cydlynydd yr adran neu’r maes yn gyfrifol am weithio gyda thîm y staff i roi cynllun ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir gan yr adroddiad.  Mae’r pennaeth ac uwch reolwyr yn eu cynorthwyo â hyn.  Gellir mynd i’r afael â rhai meysydd yn yr adran, ond mae angen ystyried eraill ar ffurf materion ysgol gyfan. 

Ym Medi 2016, fe wnaeth yr ysgol hefyd sefydlu prosesau ar gyfer monitro ac arfarnu meysydd dysgu a phrofiad, yn unol â’r cwricwlwm newydd.  Mae cydlynydd y cwricwlwm yn cymryd yr awenau ar y gwaith hwn a chyflwynir adroddiadau terfynol i bwyllgor cwricwlwm a safonau’r corff llywodraethol.  Lle bo’r angen, mae arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad yn darparu adroddiadau blynyddol am gynnydd a chyflawniad disgyblion yn y maes. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r prosesau monitro ac arfarnu trylwyr wedi cael effaith arwyddocaol ar waith yr ysgol.

• Mae monitro ac arfarnu meysydd darpariaeth yn helpu’r ysgol i sicrhau ei bod yn cyflwyno’r addysg orau oll i’r disgyblion yn ei gofal. 
• Mae arweinwyr a staff yn adnabod cryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w gwella yn dda iawn.
• Mae’r diwylliant hynod fyfyriol ac arfarnol yn yr ysgol yn galluogi iddi gynllunio ar gyfer amrywiaeth eang o ymyriadau ac addasiadau i brofiadau dysgu disgyblion, sy’n bodloni anghenion disgyblion yn dda iawn.
• Nododd yr arolygiad craidd diweddar fod safonau yn yr ysgol yn dda a bod lles disgyblion yn rhagorol

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

• Mae’r pennaeth yn rhannu adroddiadau neu grynodebau o’r adroddiadau gyda staff a rhanddeiliaid perthnasol eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys y corff llywodraethol, rhieni a’r partner gwella ysgolion yn y consortiwm rhanbarthol.
• Mae copïau o’r adroddiadau ar gael ar wefan yr ysgol.
• Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag ysgolion arloesi eraill.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Ymagweddau effeithiol wrth asesu sy'n gwella addysgu a dysgu

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2021-2022. ...Read more
Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar ysgolion arbennig a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) tymor yr haf 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 39 galwad ymgysylltu ac ychydig iawn o ymweliadau a wnaed ag ysgolion arbennig a gynhelir ac UCDau rhwng dechrau mis Chwefror 2021 a diwedd mis Mai 2 ...Read more
Arfer Effeithiol |

Effaith ymyriadau ar ddatblygiad cyfathrebu a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol disgyblion

Mae Ysgol Pen Coch yn defnyddio amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys ystafell rithwirionedd, sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar les ac ymgysylltiad disgyblion, a’u parodrwydd i ddysgu. ...Read more
Adroddiad thematig |

Dysgu yn yr agored: arfarnu dysgu yn yr awyr agored i blant o dan bump oed yn y Cyfnod Sylfaen - Medi 2011

pdf, 500.25 KB Added 01/09/2011

Roedd darpariaeth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored yn dda neu’n well mewn dau o bob tri o’r darparwyr y gwnaethom arolwg ohonynt. ...Read more