Arfer Effeithiol |

Datblygu medrau arwain

Share this page

Nifer y disgyblion
215
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig a Gynorthwyir yn Wirfoddol Sant Joseph yn Archesgobaeth Caerdydd, ac mae wedi’i lleoli ar gyrion dwyreiniol Casnewydd.  Mae 215 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 4 ac 11 oed.

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 11%.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 18% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Mae tua 31% o’r disgyblion o gefndiroedd ethnig amrywiol, ac 19% ohonynt yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseph o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 yn aelodau o naw gweinyddiaeth sy’n creu Senedd yr Ysgol.  Mae’r gweinyddiaethau hyn yn allweddol o ran cyfrannu at wella’r ysgol, nodi blaenoriaethau’r ysgol, gwneud cysylltiadau â’r gymuned a datblygu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang.  Anogir disgyblion i ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau, gan arwain at ddull ysgol gyfan o ran arweinyddiaeth ddosbarthedig tra’n datblygu a gwella eu medrau arwain.

Mae gan yr ysgol ethos teuluol cryf a gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r plentyn cyfan.  Mae’r staff yn gweithredu fel modelau rôl da o ran datblygu amgylchedd gofalgar lle caiff pawb eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u hannog i ddathlu eu hunigoliaeth.  Mae gan yr ysgol gysylltiadau gwych â’r holl randdeiliaid a’r gymuned leol, sy’n cyfrannu at amgylchedd hollgynhwysol meithringar a gofalgar, gyda lles wrth wraidd popeth a wnânt.

Nodwedd ragorol o’r ysgol yw’r effaith a gaiff Senedd yr Ysgol ar annibyniaeth a chydweithio disgyblion, a’u hagweddau at ddysgu.  Mae disgyblion o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 yn perthyn i un o’r naw gweinyddiaeth sy’n cynnwys Senedd yr Ysgol, ac mae pob grŵp yn arwain ar eu maes trwy ddatblygu camau gweithredu a fydd yn effeithio ar yr ysgol, y gymuned a’r byd ehangach, lle bo modd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae’r gweinyddiaethau’n cynnwys: Arweinwyr Digidol, Angylion Gwarcheidiol, Criw Cymraeg, Cyfathrebu a Menter, Grŵp Caplaniaeth, Tîm Cenhadaeth, Tîm Cwricwlwm, Arweinwyr Ysgolion Iach a’r Pwyllgor Eco.  Ym mhob un o’r grwpiau, caiff y cadeirydd a’r ysgrifennydd eu hethol ac maent yn cynnwys y Cabinet sydd, ynghyd â’r ysgol gyfan, yn ethol Prif Weinidog a Dirprwy, sy’n cyfarfod bob pythefnos gyda’r pennaeth.  Mae pob gweinyddiaeth yn dyfeisio cynlluniau gweithredu ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, a phob wythnos, maent yn cyfarfod i ddosbarthu rolau a rhoi eu cynlluniau ar waith.

Mae’r ysgrifennydd a’r cadeirydd yn cymryd cofnodion, a’r grŵp yn dirprwyo rolau.  Rôl y staff yw hwyluso yn bennaf.  Mae’r effaith ar ddatblygu dysgu annibynnol disgyblion yn hynod effeithiol, ac mae gan bob un o’r disgyblion rôl werthfawr o fewn eu gweinyddiaeth.  Mae gan y disgyblion ymdeimlad o ddiben ac ymroddiad i’w grwpiau a’r gweithgareddau cysylltiedig.  Er enghraifft, mae Arweinwyr Digidol yn paratoi amserlenni ac yn cynorthwyo a hyfforddi disgyblion eraill a staff, ac mae’r Angylion Gwarcheidiol yn ymweld â’r cartref nyrsio lleol i chwarae gemau bwrdd gyda’r preswylwyr.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r disgyblion yn gweithio’n bwrpasol ac ar y cyd.  Maent yn elwa ar TG berthnasol yn annibynnol i ymchwilio, anfon negeseuon e-bost ac ysgrifennu llythyrau, cofnodion a chylchlythyrau.  Mae’r defnydd di-dor o fedrau allweddol i gyflawni eu rolau yn nodwedd lwyddiannus ar y dull.  Mae disgyblion yn fwy ymwybodol o bedwar diben craidd y cwricwlwm newydd i Gymru trwy waith y tîm cwricwlwm, sy’n gyrru’r gwaith hwn ac yn eu huno â diben cyffredin.

Ceir cyfleoedd gwerth chweil i’r grwpiau gyflwyno i weddill yr ysgol, ac mae disgyblion yn cydweithio, gyda mewnbwn cyfyngedig gan staff, i gyflwyno eu negeseuon mewn ffordd gynhwysfawr a hyderus.

Mae disgyblion yn datblygu i fod yn unigolion hyderus sy’n rhan annatod o’u gweinyddiaeth.  Mae’r disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn gwybod y bydd eu llais yn cael ei glywed, a’u bod yn effeithio ar lawer o feysydd o fywyd yr ysgol.  Mae’r dull grŵp traws sector a thraws blwyddyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer bod yn fodelau rôl cadarnhaol heb unrhyw ofynion i ddisgyblion hŷn o reidrwydd ymgymryd â’r rolau arwain yn eu grwpiau.  Mae’r disgyblion yn pleidleisio dros yr unigolyn gorau am y swydd.  Mae gan ddisgyblion agwedd ddatblygedig at eu dysgu, ac maent yn datblygu i fod yn ddysgwyr gydol oes sy’n caffael medrau arwain pellach yn barhaus.

Mae ymdeimlad o berchnogaeth yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu cymell a bod ganddynt rôl weithredol yn yr ysgol.  Mae disgyblion yn mynd yn werthusol a myfyriol, ac yn sylweddoli nad yw pob syniad yn ymarferol.  Maent yn datblygu gwydnwch a medrau datrys problemau yn effeithiol.  Maent yn deall y gellir cyflawni pethau gwych gyda chynllunio trylwyr, penderfynoldeb a gwaith tîm.  Mae’r disgyblion yn falch o gynrychioli eu gweinyddiaethau ac yn gwybod y gallant effeithio’n gadarnhaol ar wella’r ysgol, y gymuned leol, a’r byd ehangach.

 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol