Arfer Effeithiol |

Datblygu cwricwlwm seiliedig ar fedrau mewn ysgol gynradd

Share this page

Nifer y disgyblion
207
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ffactor pwysig a sbardunodd newid yn Nhafarn Ysbyty oedd rhyddhau adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, a gyhoeddwyd ar ddechrau 2015.  Trwy brosesau arfarnol, roedd y tîm arweinyddiaeth eisoes wedi nodi bod angen gwelliannau sylweddol mewn darpariaeth er mwyn cyflawni gofynion statudol y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn hyderus.  

Amlinellwyd proses gynllunio a strategaeth datblygiad proffesiynol amgen ar gyfer staff, a fyddai’n cynorthwyo athrawon i lunio cwricwlwm medrau ysgogol a oedd yn cyd-fynd â modelau arfer orau yng Nghymru.

Aeth yr ysgol yn ei blaen i greu cwricwlwm cyfoethog a throchi yn seiliedig ar fedrau yng nghyfnod allweddol 2, sy’n gofyn i athrawon fod yn greadigol, ac olrhain a rheoli’r ymdriniaeth o ran medrau yn eu cynllunio.  Mae hefyd yn gofyn i arweinwyr fod yn ymddiriedus, yn gefnogol ac yn werthfawrogol o gymhlethdod tasgau o’r fath.  Mae’r ysgol yn credu nad prosiect tymor byr yw cyflawni safonau cyson uchel ar draws cyfnod allweddol cyfan; yn hytrach, mae’n gynnyrch ymrwymiad tymor hwy i athroniaeth arwain sy’n nodi athrawon fel dysgwyr.

Mae’r weledigaeth yn yr ysgol yn ymwneud â chynorthwyo a grymuso athrawon.  Mae’r ysgol yn credu bod safonau cyson uchel yn cael eu hwyluso gan ymarferwyr brwdfrydig, cymhellol a chreadigol sy’n cael pob cyfle i ffynnu.  Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar gynorthwyo a datblygu staff i gynllunio a mireinio dilyniannau o weithgareddau dysgu diddorol, ac ymestyn dysgwyr, gan ganolbwyntio ar themâu difyr a chyd-destunau ystyrlon.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd angen prosesau myfyriol, annibynnol a chydweithredol i gynllunio a rheoli cyfuno medrau trwy dasgau thematig diddorol.  I ddarparu darlun amser gwirioneddol o gwmpasu’r cwricwlwm ar draws cyfnod allweddol 2, mae arweinwyr ac athrawon yn defnyddio system rheoli medrau ac olrhain amrediad, y gellir ei defnyddio trwy Hwb, at yr holl ddibenion trawsgwricwlaidd a phynciau penodol.  Galluogodd y system hon i nifer o awduron gofnodi gwybodaeth am ba fedr yr oeddent wedi’i gwmpasu ym mhob uned waith.  Dros gyfnod, galluogodd hyn staff ac arweinwyr i weld beth oedd yn cael ei gwmpasu, ac i ba raddau mewn grwpiau blwyddyn penodol ac ar draws y cyfnod allweddol.  O ganlyniad, mae hyn yn cynorthwyo athrawon i nodi unrhyw fedrau neu feysydd y mae angen eu datblygu ymhellach, gan hwyluso cynllunio gweithgareddau dysgu yn y dyfodol yn effeithiol.

Er mwyn creu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau, darparwyd sesiynau hyfforddi ac amser i staff gydweithio.  Y man cychwyn ar gyfer cynllunio gweithgareddau dysgu newydd sy’n gyfoethog o ran medrau oedd dewis testun cymhellol o dan thema drosfwaol gyffredinol, er enghraifft Alan Turing yn datrys cod Enigma o dan faner thema’r Ail Ryfel Byd.  Byddai staff yn cael eu hannog i ymchwilio i destun a meddwl am beth fydden nhw wedi ei weld yn ddiddorol os nhw oedd y disgybl yn astudio hwn am y tro cyntaf, er enghraifft yn yr achos hwn, hanes Alan Turing, ei beiriant athrylithgar, Enigma, i ddatrys codau, a’r anghyfiawnder personol a ddioddefodd.  Ar ôl disgrifio’r cam dysgu, rhoddir amser i staff ystyried y modd y gellir hwyluso ystod y medrau o bynciau ar draws y cwricwlwm mewn dilyniant ystyrlon o wersi.

Gallai enghraifft o ddilyniant trawsgwricwlaidd o wersi yn yr achos hwn gynnwys: addysgu algebra, wedyn gweithio’r rheolau cysylltiedig mewn gweithgareddau datrys codau yn gysylltiedig â thestun yr Ail Ryfel Byd, sy’n datblygu medrau darllen a rhesymu disgyblion.  Wedyn, gellid rhannu’r codau hyn a ddatryswyd gan ddefnyddio gweithgareddau llafaredd, drama neu ysgrifennu a’u gwella ymhellach gan ddefnyddio TGCh.  Byddai hefyd yn hawdd ymgorffori hanes, daearyddiaeth a datblygiad personol a chymdeithasol yn nilyniant y gwersi. 

Mae’r ysgol yn credu ei bod yn bwysig osgoi gorfodi medrau mewn tasgau yn ddisylwedd pan nad ydynt yn ychwanegu at y tasgau.  Mae dewis themâu difyr, gyda manylder a chwmpas, yn rhoi digon o le i athrawon greu tasgau trawsgwricwlaidd difyr.  Y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hyn yw pan gaiff athrawon eu dysgu i feddwl yn fwy creadigol a theimlo y gallant fentro.  Er mwyn creu diwylliant o arloesedd ac arbrofi, cynhaliwyd fforymau rheolaidd a sesiynau hyfforddi pwrpasol ar gyfer staff, ar sail asesiad o anghenion.  Cryfhaodd y digwyddiadau hyn y ffocws ar safonau ac addysgeg.  Arweiniodd hyn at ddull cyson gan athrawon wrth ddefnyddio rhai strategaethau ac adnoddau. 

Trwy nodi setiau medrau athrawon, a’u clustnodi i addysgu’r un grŵp blwyddyn am nifer o flynyddoedd, rhoddwyd sefydlogrwydd i’r tîm a chaniatáu ar gyfer mireinio a gwella darpariaeth ac arfer yn raddol.  Roedd yr hyder a’r tawelwch meddwl a roddodd hyn i staff yn gymhelliant pwerus dros fuddsoddi amser, egni a chreadigrwydd ar gyfer y tymor hir: gan arwain at lai o faich gwaith yn y dyfodol, safonau uwch mewn addysgu a phrofiadau dysgu, a mwy o hyder ac arbenigedd wrth iddynt gyflwyno eu gwersi yn effeithiol.

Dechreuwyd prosesau hyfforddi a mentora sy’n helpu staff i rannu a datblygu eu harbenigedd â’i gilydd.  Symudodd y ffocws oddi wrth graffu a chystadleuaeth, tuag at gymorth a thwf, gan alluogi mwy o ymddiriedaeth ac arferion gweithio agosach rhwng y staff.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r disgyblion wedi elwa ar brofiadau dysgu difyr a chyffrous sydd wedi’u strwythuro’n dda a’u llunio’n ystyriol i fireinio a datblygu ystod eang o fedrau trawsgwricwlaidd mewn cyd-destunau ystyrlon.

Nodwyd effaith hyn trwy astudio holiaduron disgyblion a theithiau dysgu, a thrwy arsylwi gwelliannau yn neilliannau disgyblion.  Mae safonau gwaith yn llyfrau ac e-bortffolios disgyblion wedi cael eu monitro gan y tîm arweinyddiaeth dros gyfnod trwy arferion craffu a hunanarfarnu, ac mae’r ysgol yn ystyried y gwelwyd gwelliannau nodedig mewn cysondeb ac ansawdd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • trwy arolygon thematig Estyn: ‘Teithiau Gwella Ysgolion Cynradd’ a chynhadledd yn Stadiwm Principality

  • prosiect Ysgolion Dysgu Proffesiynol consortiwm ERW

  • ymweliadau dysgu gan ysgolion ledled Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd

pdf, 621.61 KB Added 15/09/2016

Mae Rhan Un yr adroddiad hwn yn amlinellu nodweddion cyffredinol y gwahanol gamau ar daith wella ysgolion cynradd, ac yn amlygu pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol a datblygu arweinyddiaeth ar y ...Read more