Arfer Effeithiol |

Datblygu arferion darllen da

Share this page

Nifer y disgyblion
228
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Alltwen wedi’i lleoli mewn pentref bach gerllaw Pontardawe yng Nghwm Tawe, yn awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r ysgol yn darparu addysg i 228 o ddisgyblion o dair i 11 oed, gan gynnwys 22 ohonynt sy’n mynychu’r dosbarth meithrin ar sail rhan-amser.  Mae saith dosbarth oed unigol, gan gynnwys y dosbarth meithrin, ac un dosbarth oedran cymysg yn y cyfnod sylfaen.  Mae bron pob un o’r disgyblion o dreftadaeth gwyn Prydeinig.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r cyfartaledd tair blynedd i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 17%.  Mae’r ffigur hwn wedi gostwng gydag amser ac mae ychydig islaw cyfartaledd Cymru, sef 18%, erbyn hyn.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan oddeutu 37% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol uchelgais strategol i ganolbwyntio ar welliannau a chodi safonau wrth gynnwys y gymuned a gwneud y mwyaf o gryfderau’r gymuned.  Roedd gwella galluoedd darllen disgyblion yn flaenoriaeth ysgol gyfan yn 2015-2016.  I ddechrau, fe wnaeth yr ysgol wella’i darpariaeth, pa mor aml roedd yn cynnig cyfleoedd darllen a gwella’i haddysgu drwy:

  • gynnal archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol o safbwynt adnoddau, fel cynlluniau darllen unigol a dan arweiniad, a gallu, dealltwriaeth ac addysgeg staff
  • prynu llyfrau darllen ychwanegol ac atodol
  • gweithredu dull cytunedig, ysgol gyfan, o addysgu darllen, gan gynnwys sesiynau darllen amserlenedig, dan arweiniad i’r ysgol gyfan
  • triawd (grŵp o dri athro) yn cynnal arsylwadau gwersi, gyda ffocws clir ar wella’r gwaith o addysgu medrau darllen
  • targedau rheoli perfformiad staff yn gysylltiedig â darllen a disgyblion unigol, ac arsylwadau gwersi yn gysylltiedig â darllen
  • cyfarfodydd staff â ffocws clir ar ddarllen, darpariaeth ac effaith
  • olrhain a monitro cynnydd y disgyblion wrth ddarllen a rhannu data gyda rhieni
  • gwrando ar ddysgwyr – beth rydych chi’n hoffi ei ddarllen a pham?
  • gwrando ar rieni – pa gymorth hoffech chi ei gael i’ch helpu i ddarllen gyda’ch plentyn gartref?
  • noson agored i’r ysgol gyfan ar gymorth a strategaethau i ddatblygu ‘darllen gartref’

Fodd bynnag, trwy hunanwerthuso trylwyr a helaeth, daeth i’r amlwg nad oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn darllen gartref ac roeddent wedi colli diddordeb mewn darllen yn gyffredinol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn sgil gwrando ar ddysgwyr a’r holiaduron i rieni, ymatebodd yr ysgol trwy brynu cynllun darllen e-lyfrau ar-lein.  O ganlyniad, mae pob plentyn yn gallu cael at lyfr darllen priodol trwy ei gyfrinair a’i enw defnyddiwr unigol.  I sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael at y deunyddiau darllen, cafodd disgyblion a theuluoedd eu gwahodd i’r ‘caffi darllen ar y rhyngrwyd’ a gynhaliwyd gan yr ysgol yn wythnosol, yn ystafell y gymuned, ‘y Cwtsh’.  Yn y ‘Cwtsh’, bu’r teuluoedd yn defnyddio seilwaith TGCh yr ysgol i fynd at lyfr darllen unigol eu plentyn.  Fe wnaeth y prosiect peilot hwn bara chwe wythnos yn olynol.  I ddechrau, fe wnaeth yr ysgol gefnogi:

  • teuluoedd heb gysylltiad â’r rhyngrwyd (data a gasglwyd o holiadur ar faes TGCh)
  • teuluoedd a disgyblion a oedd wedi colli diddordeb mewn darllen (cynigiwyd enwau gan athrawon dosbarth)
  • disgyblion yr amlygwyd bod angen cymorth ychwanegol â darllen arnynt (gan ddefnyddio dull olrhain data ar ddarllen)

Adeg cyrraedd y Cwtsh, roedd y disgyblion a’r teuluoedd yn cael eu cyfarch gan gynorthwyydd addysgu medrus a phrofiadol, a oedd yn cynnig ymyrraeth ddefnyddiol ac amrywiaeth o strategaethau cymorth dysgu.  Pe byddai angen, byddai’r cynorthwyydd addysgu hefyd yn helpu’r teuluoedd i fewngofnodi i lyfrau darllen y disgyblion ac yn cynnig amrywiaeth o luniaeth a byrbrydau. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mesurodd yr ysgol effaith y prosiect peilot ar ôl cwblhau’r ‘caffi darllen ar y rhyngrwyd’ trwy ailasesu oedrannau darllen disgyblion ac annog y disgyblion a’r teuluoedd i lenwi holiadur.  Pan gawsant eu hailbrofi, roedd bron pob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y peilot wedi gwneud cynnydd a chodi eu hoedran darllen, gydag ychydig ohonynt yn gwneud cynnydd sylweddol.  Yn yr holiadur, cadarnhaodd pob rhiant a disgybl y byddent yn argymell y ‘caffi darllen ar y rhyngrwyd’, gyda mwyafrif y disgyblion yn darllen rhagor gartref.  Pan holwyd rhieni am ba dri pheth aeth yn dda, ymatebont gydag amrywiaeth o ddatganiadau, gan gynnwys “awyrgylch y Cwtsh”, “y cymorth a roddwyd gan y cynorthwyydd addysgu”, “amrywiaeth a safon y deunyddiau dysgu” ac “chael llonydd i dreulio amser buddiol gyda fy mhlentyn”.  Hefyd, ymatebodd y disgyblion gydag amrywiaeth o sylwadau cadarnhaol, fel “cael amser tawel, buddiol gyda mam-gu”, “mae’n grêt oherwydd galla’ i ddysgu rhagor a gall Nan helpu”, “roedd mam yn falch o beth ddarllenais i” ac wrth gwrs “y bwyd a’r diodydd”.

Gyda hunanwerthuso meintiol ac ansoddol cryf yn dystiolaeth o lwyddiant y peilot, dechreuodd yr ysgol gael ceisiadau hefyd gan rieni a oedd eisiau mynd i’r ‘caffi darllen ar y rhyngrwyd’.  Fe wnaeth y gymuned werthfawrogi’r amser a neilltuwyd, ac ansawdd y cymorth a’r ymgysylltiad wrth helpu i wella arferion darllen da’r disgyblion.  Gyda hyn mewn cof, cytunodd yr uwch dîm arwain a chorff llywodraethol yr ysgol i wahodd pob rhiant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae prosiect y ‘caffi darllen ar y rhyngrwyd’ wedi gwella safonau darllen ac arferion darllen disgyblion, yn ogystal â datblygu ymhellach berthnasoedd cadarnhaol ac ymgysylltiad yr ysgol â’r gymuned.  Mae teuluoedd bellach wedi dod i arfer â chael eu gwahodd i rannu profiadau dysgu cadarnhaol o fewn yr ysgol a’r ‘Cwtsh’, sydd wedi gwella perthnasoedd, parch tuag at ei gilydd ac ymddiriedaeth.   

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda gyda staff yr awdurdod lleol ac ysgolion cyfagos, a thrwy lawer o ymweliadau rhwng ysgolion.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol