Arfer Effeithiol |

Cynllun cwricwlwm creadigol mwy hyblyg i ennyn diddordeb disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
232
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Bu Ysgol Pen-bre yn myfyrio ar y cynigion a wnaed gan ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yr Athro Donaldson, ei ddull o ddiwygio’r cwricwlwm gan ddefnyddio’r 12 egwyddor addysgegol, a’u penderfyniad i ddatblygu dull ysgol gyfan i gyd-fynd ag athroniaeth ac egwyddorion fframwaith y cyfnod sylfaen.  Canlyniad hyn yw dull ysgol gyfan cyson o ddefnyddio 'llais y dysgwr' fel cyfrwng i yrru cwricwlwm creadigol wedi’i arwain gan ddisgyblion yn ei flaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Pen-bre, mae diddordebau a safbwyntiau disgyblion wedi’u hymgorffori’n gadarn yng ngweledigaeth yr ysgol.  Canolbwyntiodd yr ysgol ar ddatblygu cwricwlwm sy’n ymgorffori’r pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm yn llawn, gan ffurfio dysgwyr ar gyfer yr 21ain ganrif a thu hwnt.

Cydnabuwyd yng nghyfnod allweddol 2 fod y dysgwyr sydd bellach yn trosglwyddo o’r cyfnod sylfaen yn gynyddol annibynnol, creadigol a dychmygus; maent wedi arfer â dull cwricwlwm o addysgu a dysgu sy’n adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wybod, yr hyn y maent eisiau ei wybod a beth yw eu diddordebau.  O ganlyniad i hyn, newidiodd yr ysgol ei dull o addysgu’r medrau trwy gynllunio’i chwricwlwm mewn ffordd fwy hyblyg ac addasadwy er mwyn gweddu i ddiddordebau’r disgyblion.  Cyflawnwyd hyn trwy ddatblygu’r dulliau o addysgu a dysgu sy’n cael eu harfer yn y cyfnod sylfaen a’u hymestyn ymhellach i fodloni anghenion medrau cwricwlwm cyfnod allweddol 2.

Dyfodol Llwyddiannus: Dylid trefnu’r cwricwlwm yn Feysydd Dysgu a Phrofiad sy’n sefydlu ehangder y cwricwlwm.

Yn Ysgol Pen-bre, mae’r amgylchedd dysgu yn cefnogi datblygiad cwricwlwm hynod greadigol, cytbwys a chyfoethog sy’n bodloni anghenion pob disgybl.  Mae’n cryfhau ymrwymiad disgyblion i’w gwaith ac yn meithrin datblygiad medrau go iawn.

Crëwyd parthau o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6 i gwmpasu’r chwe maes dysgu.  Mae codau lliw i’r parthau i sicrhau cysondeb, parhad a throsglwyddo o ddosbarth i ddosbarth.  Crëwyd chwe pharth ym mhob amgylchedd dysgu dosbarth, gan gynnwys Ystafell yr Enfys ar gyfer ADY, sef:

  • Parth Dysgwyr Hapus (Iechyd a Lles)

  • Parth Ieithoedd (Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg)

  • Parth Mathemateg (Mathemateg a Gwyddoniaeth)

  • Parth Digidol (TGCh a Thechnoleg)

  • Parth Darganfod (Y Dyniaethau a Gwyddoniaeth)

  • Parth Creadigol (Y Celfyddydau Mynegiannol)

Ym mhob parth, mae adnoddau sy’n cefnogi a herio datblygiad medrau disgyblion.  Pan fydd disgyblion yn trosglwyddo o ddosbarth i ddosbarth, bydd y parthau lliw yn tywys pob dysgwr at ble caiff yr adnoddau eu storio i gefnogi’r agwedd honno ar y cwricwlwm.  Er enghraifft, byddai atlasau, globau, deunyddiau gwyddoniaeth, testunau ategol ffeithiol ac arteffactau hanesyddol yn cael eu rhoi yn y Parth Darganfod.

Dyfodol Llwyddiannus:  Mae gan ddysgwyr llwyddiannus agweddau cyfrifol tuag at ddysgu a gwybodaeth.

Mae barn ac adborth disgyblion yn nodwedd ganolog wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol, gan fod meddyliau a syniadau dysgwyr yn cyfrannu at y profiadau dysgu a fydd yn deillio o hyn:

  • Sesiynau Llais y Disgybl yn y cyfnod sylfaen

Cyflwynir symbyliad i ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen, er enghraifft llun, cân neu stori.  Mae disgyblion yn cyfrannu at y cam cynllunio hwn, gan ddefnyddio medrau o dasgau ffocysedig neu fanylach blaenorol neu drwy rannu’r hyn yr hoffent ei ddarganfod am y symbyliad.  Rhoddir y rhain ar 'Waliau Her Llais y Disgybl'.

  • Sesiynau EPIC cyfnod allweddol 2 (Pawb yn Cynllunio yn y Dosbarth)

Mae disgyblion wedi ymgymryd â’r thema newydd am gyfnod byr; mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ystyried yr hyn y maent yn ei wybod eisoes, yr hyn yr hoffent ei ddarganfod a’r hyn a fyddai o ddiddordeb iddynt.  Mae sesiynau EPIC yn cynnwys yr athro’n rhannu’r medrau y mae angen eu cwmpasu yn ystod y thema honno; mae disgyblion yn creu gwahanol gwestiynau sy’n golygu y gellir cwmpasu’r medrau.  Cofnodir cwestiynau’r disgyblion ar Fwrdd Enfys EPIC – mae’r lliwiau yn gysylltiedig â’r parthau.  Er enghraifft, byddai cwestiwn a gynhyrchwyd ar fedr penodol yn cael ei osod ar fwa’r Parth Darganfod ar yr enfys.

Dyfodol Llwyddiannus:  Dylai meysydd dysgu ddarparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer datblygu pedwar diben y cwricwlwm, bod yn gydlynus yn fewnol, defnyddio ffyrdd unigryw o feddwl, a chael craidd adnabyddadwy o wybodaeth ddisgyblaethol ac allweddol

Mae’r ysgol wedi addasu’r cwricwlwm yn llwyddiannus i sicrhau parhad o ran datblygu dysgwyr annibynnol ar draws yr ysgol tra’n sicrhau bod datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion yn ganolog i’r trefniadau newydd.

Caiff tasgau addysgu ar wahân neu ffocysedig eu cwblhau cyn cyflwyno tasgau cyfoethog annibynnol o’r enw Heriau a Chenadaethau.  Cyflwynir y profiadau dysgu cyfoethog hyn mewn dwy ffordd wahanol ac mae llais y disgybl yn ganolog i’r naill a’r llall:

  • ‘Heriau Llais y Disgybl’ yn y cyfnod sylfaen

Caiff heriau llais y disgybl eu datblygu ar draws parthau dan do ac awyr agored.  Mae’r rhain yn cyfrannu at heriau annibynnol, sy’n cael eu cofnodi ar basbort unigol plentyn. Caiff disgyblion eu hannog i ymweld â phob un o’r parthau; wedyn, mewn pasbortau personol, bydd disgyblion yn cylchu symbolau’r heriau unigol yn ystod amser myfyrio, i ddangos eu bod wedi cwblhau’r dasg.

  • ‘Cenadaethau’ Cyfnod Allweddol 2

Heriau sy’n digwydd ym mhob parth o’r ystafell ddosbarth yw 'Cenadaethau'; mae’r medrau sy’n cael eu hymgorffori yn gysylltiedig â’r maes dysgu penodol hwnnw.  Er enghraifft, bydd medr digidol a addysgwyd ar wahân yn cael ei atgyfnerthu gan ddisgyblion trwy ‘genhadaeth’ annibynnol neu grŵp bach yn y Parth Digidol.  Pan fo’n briodol, caiff y cenadaethau eu gwahaniaethu trwy ddefnyddio Ysbïwyr, i sicrhau nad yw disgyblion yn ymwybodol o’r gwahanol lefelau cymorth a her yn yr ystafell ddosbarth.  Mae’r ffocws yn ystod y cenadaethau hyn ar ddatblygu agweddau disgyblion at ddysgu, eu hannog i gydweithio, dyfalbarhau, holi a datblygu’r arferion dysgu i 'ddatrys ansicrwydd'.  Gan fod y cenadaethau wedi’u lleoli yn y parth perthnasol, mae’r holl ddeunyddiau, offer ac adnoddau i helpu disgyblion i lwyddo wedi’u lleoli’n agos, sy’n gwella dysgu annibynnol.

Dyfodol Llwyddiannus:  Dylid cyfleu neges gyson fod ymdrech barhaus yn hanfodol ar gyfer dysgu da ac yn gallu arwain at gyflawniad uchel.  Mae canmoliaeth a chymorth yn hanfodol, ond mae’r cyfle i wneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt wrth geisio cyflawni nodau heriol yn magu hyder a gwydnwch.

Yn Ysgol Pen-bre, mae athrawon yn defnyddio gweithdrefnau asesu yn fedrus i gynorthwyo disgyblion.  Maent yn cynnig adborth llafar defnyddiol ac adborth ysgrifenedig gwerthfawr sy’n canolbwyntio’n dda ar ddatblygu medrau disgyblion.

  • MYMM (Make Your Mark Monday)

Mae sesiynau a gynhelir bob pythefnos yn rhoi amser gwerthfawr i ddisgyblion fyfyrio ar eu profiadau dysgu, ymateb i adborth ‘Gwyrdd ar gyfer Twf’ ('Green for Growth') gan yr athro dosbarth, ymarfer neu ymgorffori medr a ddysgwyd, neu gymhwyso strategaeth i ymestyn eu dysgu ymhellach.  Mae hyn yn annog disgyblion i ddarllen eu hadborth, ystyried yr hyn a ddywedwyd ac ymateb iddo er mwyn symud eu dysgu yn ei flaen.  O bryd i’w gilydd, tynnir llun swigod siarad i ddangos i ddisgyblion bod disgwyl iddynt atgyfnerthu’r dysgu o’u safbwynt nhw.

  • Triongl Myfyrio / Cyngor Ysbïwr Gwych

Yn dilyn cenhadaeth, caiff disgyblion eu hannog i fyfyrio’n weithredol ar y profiadau dysgu uniongyrchol fel grŵp.  Mabwysiadwyd y dull triongl myfyrio ac fe’i gelwir y ‘Triongl Gwirionedd’ ('Triangle of Truth').  Mae pob grŵp yn cydweithio i nodi beth oedd yn llwyddiannus ynglŷn â’r genhadaeth, beth ddysgon nhw a pha strategaethau a ddefnyddion nhw i feithrin gwydnwch.  Wedyn, bydd pob grŵp yn cofnodi darn o gyngor ar gyfer y grŵp cenhadaeth nesaf ar fwrdd ‘Cyngor Ysbïwr Gwych’ ('Ace Agent Advice'), sy’n cefnogi eu dysgu ac yn annog lefelau da o gydweithio a chydweithredu.

  • Pwll Dysgu / Pum B

Ym mhob parth, mae ‘pwll dysgu', sy’n cynnwys strategaethau neu gwestiynau i’w harwain a’u cynorthwyo os byddant yn cael trafferth wrth geisio gweithio’n annibynnol wrth gwblhau cenhadaeth.  Mae strategaeth y Pum B (Brain (Ymennydd), Board (Bwrdd), Book (Llyfr), Buddy (Cyfaill), Boss (Bos)) yn cyd-fynd â hyn i annog camau at annibyniaeth trwy ddyfalbarhad a chydweithio.

  • PALS (Disgyblion yn Asesu Dysgu yn yr Ysgol)

Mae’r PALS yn ganolog i bob un o’r strategaethau hyn.  Mae dau ddisgybl o bob dosbarth ar draws yr ysgol yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu gyda’r pennaeth a’r llywodraethwyr.  Maent yn arfarnu eu hamgylchedd dysgu, yn adrodd yn ôl ar eu profiadau dysgu ac yn defnyddio strategaethau hunanarfarnu i’w galluogi i wneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar eu dysgu yn y dyfodol.

  • Cymwys am Oes

Mae pob un o’r dulliau a’r strategaethau uchod wedi arwain at gwricwlwm creadigol sy’n cael ei arwain gan ddisgyblion, sy’n cefnogi datblygiad dysgwyr annibynnol.  Trwy gwricwlwm eang a chytbwys, mae’n rhoi i ddisgyblion y medrau a’r hyder a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf, gan weithio’n fedrus fel dysgwyr annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau pwysig am eu dysgu.  Mae gweithgareddau ymarferol, creadigol ac adeiladu tîm yn datblygu disgyblion brwdfrydig sydd ag agweddau cadarnhaol iawn tuag at eu gwaith.  Mae lles disgyblion wedi gwella trwy greu amgylchedd ar gyfer dysgu wedi’i ysgogi gan y plentyn, ac yn paratoi pob disgybl â medrau am oes.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae llawer o ysgolion wedi ymweld i arsylwi darpariaeth, strategaethau addysgu a dysgu yn uniongyrchol.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ag ysgolion eraill yn ystod cynadleddau a sesiynau hyfforddi.  Bydd arfer yn cael ei rhannu ar wefan ERW.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Materion Ariannol: darpariaeth addysg ariannol i bobl ifanc rhwng 7 ac 19 mlwydd oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru - Mehefin 2011

pdf, 571.19 KB Added 01/06/2011

Caiff bron pob disgybl gyfleoedd yn yr ysgol i ddysgu sut i reoli eu cyllid, a datblygu eu medrau.Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn addysgu disgyblion am gyllid mewn gwersi addysg bersonol a chymdeith ...Read more
Arfer Effeithiol |

Materion ariannol

Mae staff yn Ysgol Gynradd Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, wedi datblygu medrau ariannol disgyblion a’u dealltwriaeth o faterion ariannol i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau ariannol annibynnol. ...Read more