Arfer Effeithiol |

Cyfnod pontio llwyddiannus i addysg bellach ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Share this page

Nifer y disgyblion
223
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol y Gogarth yn ysgol arbennig ddydd a phreswyl wedi’i lleoli yn Llandudno. Dyma’r unig ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Conwy. Ar hyn o bryd, mae 223 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed ar y gofrestr. Mae gan bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu cymedrol a difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Mae’r ysgol yn rheoli darpariaeth breswyl ac yn cynnig cartref i nifer o wasanaethau cymorth allweddol eraill.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

I ymateb i’r fenter Llwybrau Galwedigaethol 14-19 yn y lle cyntaf, adolygodd yr ysgol ei chwricwlwm er mwyn gwella ystod y profiadau dysgu ymarferol sydd ar gael i ddisgyblion.  Roedd hyn yn cynnwys datblygu darpariaeth alwedigaethol yn yr ysgol, yn ogystal â gwaith ar y cyd â’r coleg addysg bellach lleol i ddylunio cyrsiau pwrpasol, lle bo’n briodol.  Mae partneriaeth effeithiol yr ysgol gyda rhwydwaith Conwy 14-19 wedi helpu sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu gweledigaeth strategol ar draws y sir gyda ffocws clir ar anghenion disgyblion unigol i’w cefnogi wrth iddynt drosglwyddo i’r coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Ar ôl datblygu cwricwlwm mwy galwedigaethol yn yr ysgol, adolygodd yr ysgol effeithiolrwydd disgyblion yn trosglwyddo i’r coleg. Bryd hynny, daeth yn amlwg, oherwydd yr ystod gynyddol o brofiadau dysgu a oedd ar gael i ddisgyblion, bod proffil eu medrau, gwybodaeth a’u huchelgais wedi newid.  Yn hanfodol, nid oedd cyrsiau coleg a oedd ar gael i grŵp penodol o ddisgyblion ADY i weld yn cynnig dilyniant priodol mwyach.

Ym Mawrth 2014, chwaraeodd Ysgol y Gogarth ran allweddol yn sefydlu Grŵp Trosglwyddo Dysgwyr ADY i Addysg Bellach Conwy a Sir Ddinbych.  Roedd hwn yn grŵp amlddisgyblaethol oedd yn cael ei gefnogi gan rwydwaith Conwy 14-19, a’i nod oedd gwella trosglwyddo disgyblion rhwng yr ysgol a’r coleg addysg bellach. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r Grŵp Trosglwyddo Dysgwyr ADY i Addysg Bellach wedi cynnig fforwm gwerthfawr i weithwyr proffesiynol o golegau, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, Gyrfa Cymru a’r asiantaethau perthnasol eraill i nodi rhwystrau rhag trosglwyddo’n llwyddiannus a rhoi ffyrdd ar waith i wella hyn.  Mae hyn wedi arwain at gyfathrebu gwell, rhannu gwybodaeth yn well a mwy o gydweithio rhwng yr holl bartïon.  Dros gyfnod, mae hyn wedi helpu cyflawni cydweddiad agosach rhwng anghenion disgyblion ac ystod y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn y coleg addysg bellach lleol.  Er enghraifft, datblygodd y coleg gwrs newydd wedi’i ddylunio’n benodol i fodloni anghenion disgyblion yn yr ysgol a oedd yn fwy abl, ac a oedd yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion wedyn i symud ymlaen i gyrsiau prif ffrwd yn y coleg.

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp hwn yn ymestyn y dull cydweithio hwn er mwyn ehangu ystod y cyrsiau a chymwysterau sydd ar gael i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r Grŵp Trosglwyddo Dysgwyr ADY i Addysg Bellach yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, ac mae darpariaeth leol o flwyddyn i flwyddyn wedi’i hadolygu yn yr ysgol, colegau lleol a bwrdd y rhwydwaith 14-19 lleol.  Mae’r grŵp wedi rhannu ei ganfyddiadau gyda Gyrfa Cymru a’r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol.  Mae staff o’r ysgol wedi rhannu canlyniadau’r dull cydweithio gyda darparwyr addysg bellach ac wedi llunio astudiaethau achos i’w defnyddio gan Gyrfa Cymru.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) – gwanwyn 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 25 o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i ysgolion arbennig a gynhelir ac UCDau rhwng diwedd mis Hydref 2020 a dechrau mis Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddulliau hynod effeithiol o addysg gymunedol a ddefnyddir gan ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Dull cydweithredol o gefnogi ymddygiad cadarnhaol

Bu Ysgol y Gogarth yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i fabwysiadu a datblygu dull o gefnogi ymddygiad sy’n seiliedig ar athrawon, dadansoddwyr ymddygiad a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio ...Read more