Arfer Effeithiol |

Cefnogi athrawon newydd gymhwyso gan ddefnyddio mentora ac anogaeth gan staff yr ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
110
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Gellir dadlau mai dewis ymgeiswyr ar gyfer rolau addysgu tymor hir yw’r penderfyniad pwysicaf y gall ysgol ei wneud.  Mae’r ysgol yn credu bod y prosesau ar gyfer penodi yn cael eu safoni’n deg ar draws y sector; fodd bynnag, rhoddir llawer llai o ystyriaeth i’r prosesau ar gyfer beth sy’n digwydd ar ôl y penodiad ac mae’n aml yn amrywio’n sylweddol.  

Yn 2016, dyfarnwyd swydd addysgu yn yr ysgol i athro newydd gymhwyso (ANG).  Yr her a oedd yn wynebu’r tîm arweinyddiaeth oedd sut orau i sefydlu’r athro sy’n gymharol ddibrofiad er mwyn sicrhau bod modd cyflawni a chynnal y deilliannau gorau posibl cyn gynted ag y bo modd.  Cytunodd arweinwyr, er mwyn cyflymu datblygiad yr athro newydd, y byddai rhaglen ddatblygu bwrpasol – a fyddai’n gweithredu trwy gydol y flwyddyn – yn cael ei chreu a’i rhoi ar waith.  Roedd angen i’r rhaglen hon sicrhau bod anghenion dysgu’r disgyblion ac anghenion yr athro yn cael eu bodloni’n briodol er mwyn sicrhau llwyddiant.  Y pennaeth cynorthwyol oedd â’r cyfrifoldeb am gynllunio ac ymgymryd â’r prosiect datblygiad proffesiynol uchelgeisiol hwn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Amlinellwyd rhaglen ymsefydlu a chymorth ddwys am flwyddyn ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yn ofalus gyda’r nod o fowldio’r mentorai i fod yn weithiwr proffesiynol hynod gymwys yn yr ysgol, gan ddatblygu medrau allweddol mewn rheolaeth ddosbarth, addysgeg a chreu darpariaeth briodol.  Darparwyd hyfforddiant ar gyfer yr agweddau hyn i ddechrau, gyda mwy o ffocws dilynol ar fireinio a gwella arfer a safonau wrth i’r misoedd fynd rhagddynt.  Byddai dau ddosbarth priodol yn cael eu ‘hadlewyrchu’ hefyd fel bod y profiadau dysgu craidd ar gyfer disgyblion yr un fath yn y ddwy ysgol yn y ffederasiwn ac felly gellid sicrhau eu hansawdd. 

Trefnwyd amser rhyddhau wythnosol ar gyfer sesiynau hyfforddi un i un rhwng y pennaeth cynorthwyol a’r athro newydd gymhwyso.  Yn ystod y sesiynau hyn, bu’r athrawon yn trafod prosesau cynllunio a strategaethau addysgu, ac yn astudio enghreifftiau o ddysgu disgyblion o flynyddoedd presennol a blaenorol i gefnogi addysgu a gwella cysondeb.  Datblygwyd perthynas gref ac ymddiriedus rhwng y ddau athro, gan alluogi i adborth lifo’n rhwydd.  Mabwysiadodd yr athro newydd gymhwyso feddylfryd cadarnhaol a gweithiodd yn galed i fireinio a gwella meysydd i’w datblygu a nodwyd gan fentoriaid mewnol ac allanol.

Derbyniodd yr athro newydd gymhwyso weithgareddau dysgu proffesiynol strwythuredig i hwyluso datblygu gwybodaeth a medrau yn raddol.  Rhoddwyd pwyslais penodol ar reolaeth ystafell ddosbarth, datblygu perthnasoedd a meithrin diwylliant cefnogol a gweithgar lle mae disgyblion yn ffynnu. 

Trefnwyd cyfleoedd i’r athro newydd gymhwyso arsylwi ei fentor yn addysgu, ac wedyn cynhaliwyd y gwersi hyn gan yr athro newydd gymhwyso yn ddiweddarach yn ei leoliad ei hun a myfyriwyd arnynt.  Trefnwyd nifer o gyfarfodydd staff, gan ganolbwyntio ar rannu arfer arloesol a lefel uchel ar draws y ffederasiwn, a roddodd gyfleoedd ychwanegol i’r athro newydd gymhwyso ddysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol profiadol eraill. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn dilyn hanner tymor o gymorth ac arweiniad, roedd yr athro newydd gymhwyso wedi profi ei fod yn barod i ymgymryd â chyfrifoldebau a thasgau mwy amrywiol, fel creu unedau cynllunio arloesol a darparu adnoddau ar gyfer profiadau dysgu difyr.  Wedyn, mireiniwyd y prosiectau hyn gyda’r mentor ac fe’u defnyddiwyd yn y ddwy ystafell ddosbarth.  O ganlyniad, rhannwyd arfer orau yn effeithiol, gyda darpariaeth yn cael ei chreu a’i defnyddio gan yr athro newydd gymhwyso a’r mentor.  Mae hyn yn amlygu’r manteision i’r ddwy ochr ac effaith y dull ymsefydlu teilwredig hwn i’r ddwy ochr dan sylw. 

Yr hyn sy’n bwysig yw bod y dull hwn o ymsefydlu athrawon newydd gymhwyso wedi cael effaith gadarnhaol ar yr athro newydd gymhwyso.  Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn cael gofal, a’i fod yn gwerthfawrogi’r buddsoddiad yn ei ddatblygiad proffesiynol.  Dysgodd yr athro a gynorthwywyd o’r dechrau fod diwylliant yr ysgol yn hyrwyddo cydweithio a rhannu arfer.  Ers hynny, mae wedi mynd yn ei flaen i gynorthwyo staff eraill i wella, gan wella’r diwylliant ymhellach er budd yr holl randdeiliaid.

Effaith fwyaf gweladwy’r fenter hon oedd y safonau nodedig a gyflawnwyd o ran arfer ystafell ddosbarth a deilliannau gan yr athro newydd gymhwyso yn y flwyddyn gyntaf honno.  Mae amrywiaeth o asiantaethau wedi cydnabod yn ffurfiol bod y deilliannau hyn yn rhagorol, ac mae’r rhaglen fentora hon wedi profi beth sy’n bosibl pan fydd athrawon ifanc yn cael yr arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn rhagori.

I gloi, rhoddir blaenoriaeth uchel yn yr ysgol i hyfforddi athrawon newydd gymhwyso er mwyn hwyluso proses effeithiol a chynaledig o ddatblygiad proffesiynol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • trwy arolygon thematig Estyn: ‘Teithiau Gwella Ysgolion Cynradd’ a chynhadledd yn Stadiwm Principality

  • prosiect Ysgolion Dysgu Proffesiynol consortiwm ERW

  • ymweliadau dysgu gan ysgolion ledled Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol