Arfer Effeithiol |

Arweinwyr ac athrawon yn gosod esiampl dda

Share this page

Nifer y disgyblion
1300
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Ysgol Esgob Llandaf wedi cyflwyno cyfres o strategaethau llwyddiannus, sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth, gyda deilliannau uchel iawn ar draws pob cyfnod allweddol o ganlyniad.  Mae gweledigaeth uchelgeisiol yn seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, llinellau atebolrwydd clir a chydbwysedd da o her a chymorth wedi meithrin amgylchedd hynod effeithiol, sy’n meithrin doniau myfyrwyr a staff fel ei gilydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae pum gweithred benodol, sydd wedi helpu i lywio trawsnewid yn niwylliant yr ysgol, wedi bod yn sylfaen i’r newidiadau a welwyd dros y pedair blynedd diwethaf.

1. Sefydlu gweledigaeth glir ac argyhoeddiadol o ragoriaeth

Pan hysbysebodd llywodraethwyr swydd y pennaeth yn ystod hydref 2013, fe wnaeth y pecyn cais ddatgan yn glir bod disgwyl i’r pennaeth newydd helpu’r ysgol i fod “y gorau yng Nghymru”.  Yn ystod y misoedd cyn ymgymryd â’r swydd ym Medi 2014, roedd y pennaeth newydd wedi gallu treulio amser yn siarad â staff, rhieni a myfyrwyr i ennill dealltwriaeth gadarn o gryfderau presennol yr ysgol a’i meysydd i’w datblygu.  Ym Medi 2014, mynegodd y pennaeth sut y gallai uchelgais y llywodraethwyr gael ei gwireddu.  Yn ei hanfod, roedd yn canolbwyntio ar ddarparu addysg lle y byddai disgwyl i bob myfyriwr:

  1. gyflawni eu potensial llawn yn academaidd

  2. datblygu’r medrau y mae eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn byd sy’n newid yn gyson

  3. deall ymdeimlad o foesoldeb

Roedd myfyrwyr, staff a rhieni yn deall y ddwy elfen gyntaf yn glir.  Roedd disgwyl i blant gyflawni mewn arholiadau cyhoeddus, trwy gydol pob cyfnod allweddol ac, ar yr un pryd, datblygu amrywiaeth eang o fedrau.  Fodd bynnag, er mwyn dadansoddi’r drydedd agwedd, aeth yr ysgol ati’n gyflym i ddechrau gweithio gyda grwpiau o fyfyrwyr i nodi’r gwerthoedd penodol a ddymunwyd i helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o foesoldeb.  Ar ôl cyfnod o fyfyrio ac ymgynghori, lluniodd y myfyrwyr yr acronym LARF, sef ‘Love, Acceptance, Responsibility and Forgiveness’.  Helpodd y gwerthoedd hyn i osod sylfaen y weledigaeth a chyfeirir atynt yn gyson wrth ddelio ag aelodau’r gymuned.  At hynny, fe wnaeth y broses o sefydlu’r gwerthoedd helpu i sefydlu màs critigol a sicrhau ymrwymiad cymuned yr ysgol.  Gydag amser, mae delweddau gweledol o gwmpas yr ysgol yn helpu i atgyfnerthu ac adlewyrchu’r gwerthoedd hyn, sy’n sylfaen i bwrpas yr ysgol.

2. Ymrwymiad i ddatblygu ansawdd addysgu trwy hyfforddiant hynod effeithiol

Yn 2011, barnodd Estyn fod yr addysgu yn yr ysgol yn ddigonol.  Roedd enghreifftiau o ragoriaeth ac arfer dda iawn ar draws yr ysgol.  Fodd bynnag, roedd yn rhy anghyson.  Roedd hi’n amlwg nad oedd dealltwriaeth glir o’r hyn y gellid ei ystyried yn ‘rhagoriaeth’ yn yr ystafell ddosbarth ac, yn ystod y misoedd hyd at Fedi 2014, bu’r pennaeth newydd yn gweithio gyda thîm bach o staff i ddatblygu fframwaith ar gyfer addysgu.  Fe’i lansiwyd ar y diwrnod hyfforddiant mewn swydd cyntaf yn 2014 a’r enw arno yw’r ‘Pum Egwyddor’; daeth hwn yn lasbrint yr ysgol ar gyfer dysgu eithriadol a’r hyn yr oedd disgwyl i staff ei wneud i helpu i’w gyflawni.

Mae’r ‘pum egwyddor’ rhagoriaeth yn ymwneud â

  1. lefel uchel o her

  2. datblygu medrau o ansawdd uchel

  3. cynnydd amlwg mewn dysgu

  4. holi o ansawdd da

  5. adborth ar gyfer gwella

Nid oedd y fframwaith ar ei ben ei hun yn mynd i gael yr effaith angenrheidiol heb fuddsoddi mewn amser a chamau gweithredu clir.  Felly, dechreuwyd gweddnewid hyfforddiant y staff yn systematig.  Byddai holl gyfarfodydd a hyfforddiant y staff yn canolbwyntio ar rannu syniadau ac arfer orau er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd dysgu.  Byddai’r broses o ddeall a gwreiddio’r pum egwyddor allweddol yn dilyn y fformat canlynol.  I ddechrau, byddai un egwyddor yn cael ei lansio ar ddechrau tymor/hanner tymor gydag amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn ei hategu, wedi’u cynnwys yn y cylch hyfforddi, gyda chyfleoedd ychwanegol dewisol ar gael i staff a oedd yn dymuno datblygu’u harfer ymhellach.  Trwy gydol y broses, byddai cyfleoedd i staff brofi syniadau ac yna’u lledaenu i gydweithwyr o fewn adrannau ac ar draws adrannau yn yr ysgol.  Yn olaf, byddai adolygiad o gynnydd yn erbyn pob egwyddor yn cael ei gynnal bob tymor.  Byddai’r adolygiad hwn yn cynnwys arsylwadau o wersi amrywiaeth o staff o bob adran i fesur effaith.  Byddai staff oedd yn cael trafferth rhoi strategaethau ar waith yn cael cymorth trwy hyfforddiant ychwanegol ac, yn y pen draw, roedd y broses wedi gwreiddio.

Dros y pedair blynedd diwethaf, yr her i’r ysgol fu helpu i gynyddu nifer y staff sy’n mynd o dda i ragorol a helpu’r ychydig bach iawn ohonynt i symud o ddigonol, i dda, i ragorol.  Er mwyn helpu i gyflawni hyn, cyflwynwyd rhaglen o hyfforddiant wedi’i wahaniaethu fel bod staff yn cael hyfforddiant mwy pwrpasol yn gysylltiedig â’u lefel medrau penodedig neu ganfyddedig yn unol ag egwyddorion penodol.  Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i ddefnyddio pedair lefel hyfforddiant (cyflwyno; datblygu; gwreiddio; rhagori) i wella ansawdd addysgu yn unol â phob un o’r egwyddorion.

Er mwyn helpu i feithrin diwylliant o welliant parhaus, fe wnaeth yr ysgol gael gwared ar y defnydd ar raddau barn ar gyfer gwersi.  Y pwrpas oedd dileu ofnau am arsylwadau gwersi ac annog diwylliant lle’r oedd yr holl staff yn ceisio gwella gan fod hynny o fewn eu gallu, yn hytrach nag oherwydd bod angen iddynt wella.  Mae arsylwadau anffurfiol, rheolaidd o’r staff yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ac mae hyn wedi arwain at ddathlu’r arfer orau a welir ar draws yr ysgol.  Mae’r ysgol wedi datblygu’i gwefan ddysgu a datblygu ei hun, sy’n cynnwys fideos niferus o athrawon yn cyflwyno elfennau penodol o’r ‘Pum Egwyddor’ er mwyn helpu i wreiddio arfer.  O ganlyniad, mae staff wedi gwella arfer yn gyflym iawn.

3. Arweinyddiaeth o ansawdd uchel a gweladwy

Y neges gyson a rannwyd gan arweinwyr yr ysgol o Fedi 2014 ymlaen oedd mai addysgu sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyflawniad myfyrwyr, a rôl arweinwyr yr ysgol yw sicrhau mai datblygu addysgu yw’r flaenoriaeth bennaf.  Fodd bynnag, i gyflawni hyn, roedd angen i arweinwyr fod yn gymwys ac yn weladwy iawn wrth arwain y newid a ddymunwyd mewn diwylliant i sicrhau bod aelodau’r gymuned wedi dechrau gwreiddio’r weledigaeth a’r egwyddorion.  Nod cyflwyno teithiau dysgu dyddiol oedd cefnogi staff a sicrhau bod yr hinsawdd dysgu fel y disgwyl.  Mae amserlen o deithiau dysgu ar gyfer pob cyfnod o ddiwrnod yr ysgol.  Yn rhan o hyn, mae un o’r arweinwyr (ac, yn fwy diweddar, arweinwyr bugeiliol) yn ymweld â phob ystafell ddosbarth yn yr ysgol, bob gwers, bob dydd.  Y pwrpas oedd sicrhau bod staff a myfyrwyr yn gwybod bod arweinwyr yn weladwy iawn mewn gwersi i gefnogi diwylliant o ddysgu.  Fe wnaeth y newid hwn mewn ymddygiad arweinyddiaeth hefyd sicrhau bod arweinwyr yn datblygu dealltwriaeth glir o gryfderau a meysydd i’w datblygu ac, ar yr un pryd, lle’r oedd unrhyw broblemau gyda myfyrwyr, sicrhau y gallai un o arweinwyr yr ysgol ymyrryd i gynnig cymorth i staff yn y fan a’r lle.

Ynghyd â ffocws ar ddatblygu addysgu, cafodd arweinwyr ar bob lefel hyfforddiant gwerthfawr i’w helpu i gyflawni eu rôl yn effeithiol.  Roedd yr hyfforddiant hwn yn seiliedig ar y model arweinyddiaeth cenedlaethol a byddai pob sesiwn benodedig yn cynnwys cyfraniad i gefnogi arweinwyr.  Roedd enghreifftiau o hyfforddiant yn cynnwys, ‘Sut i gael sgwrs anodd’ a ‘Sut i nodi strategaethau ymyrryd o setiau data’.  Rhwng cyfarfodydd y tîm arwain ac, weithiau, cyfarfodydd arweinwyr canol, caiff arweinwyr eu hannog i ddarllen a gosod gwaith cartref i’w gilydd i sicrhau bod arweinwyr yn fwy strategol na gweithredol yn eu rôl.  O ganlyniad, daeth arweinwyr ar bob lefel yn fwy hyderus a medrus wrth gyflawni eu rôl ac maent wedi’u galluogi i sicrhau atebolrwydd yn fwy effeithiol.

4. Camau arwain pendant i sicrhau newid

O fewn y tymor cyntaf yn 2014, daeth i’r amlwg fod angen newid dau faes allweddol i helpu sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol: strwythur arweinyddiaeth yr ysgol a dyluniad y cwricwlwm.  Yn 2014, roedd gan ddau o bob tri aelod staff addysgu gyfrifoldeb addysgu a dysgu, ac roedd dau neu fwy o gyfrifoldebau gan ychydig aelodau staff.  O ganlyniad, nid oedd y llinellau atebolrwydd yn glir ac roedd gan nifer o staff gyfrifoldeb addysgu a dysgu er nad oeddent yn dylanwadu’n uniongyrchol ar waith staff eraill.  Yn Ionawr 2015, dechreuodd yr ysgol ymgynghoriad llawn ar y strwythur staff, gyda’r bwriad o’i weithredu’r mis Medi canlynol.  Diben yr ailstrwythuro oedd cryfhau ansawdd yr arweinyddiaeth er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau mewn darpariaeth a safonau.  Trwy ymgynghoriad, datblygodd yr ysgol gymysgedd o feysydd cyfadran (ar gyfer adrannau bach iawn) ac adrannau, a alluogodd yr ysgol i symleiddio arweinyddiaeth yr ysgol ar lefel haen ganol.  Ar yr un pryd, rhoddodd y broses gyfle i ddarparu strwythur mwy priodol ar gyfer staff cymorth a’r tîm arwain.  Er bod y broses hon yn anodd i ychydig staff ei gwerthfawrogi, treuliodd yr ysgol, gan gynnwys llywodraethwyr, gryn amser yn esbonio sail resymegol a buddion yr ailstrwythuro yn ofalus.  O ganlyniad, mae’r llinellau atebolrwydd yn glir iawn ac mae llwybrau gyrfaol eglur i staff erbyn hyn.  Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd perthnasol i staff dyfu a datblygu.  Hefyd, mae’r strwythur newydd wedi sicrhau bod yr arweinwyr gorau posibl yn eu lle ac nad yw arweinyddiaeth yr ysgol ar unrhyw lefel yn peryglu diben craidd gwella’r ysgol.

Nid yw’r cwricwlwm a gynigir gan yr ysgol wedi newid llawer ers 2014.  Fodd bynnag, roedd yr ysgol yn awyddus i adolygu’r ffordd roedd amser y cwricwlwm yn cael ei neilltuo ac amserlen y diwrnod ysgol.  Ochr yn ochr ag ailstrwythuro’r staff, fe wnaeth yr ysgol ddechrau newid y diwrnod ysgol o 5 gwers un awr i 6 gwers 50 munud.  Fe wnaeth y sail resymegol dros hyn sicrhau y gallai amser ychwanegol y cwricwlwm gael ei neilltuo i’r pynciau craidd (Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth, Cymraeg ac addysg grefyddol) a chynnal ehangder llawn y cwricwlwm ar gyfer pynciau di-graidd hefyd.  Mae’r amser ychwanegol mewn Saesneg a mathemateg, yn benodol, wedi helpu i gryfhau’r wybodaeth a’r medrau sylfaenol sy’n ofynnol i fanteisio ar y cwricwlwm llawn, ac mae’r holl bynciau ar draws cwricwlwm yr ysgol yn boblogaidd o hyd ym mhob cyfnod allweddol.  Sicrhaodd y newid hwn fod cwricwlwm yr ysgol yn bodloni anghenion myfyrwyr, heb beryglu hanfodion cynnig eang a chytbwys.

5. Modelu gweithgareddau arweinyddiaeth

Mae arweinwyr yr ysgol wedi modelu gweithgareddau arweinyddiaeth yn effeithiol er mwyn cynorthwyo arweinwyr canol ac athrawon dosbarth i ddatblygu’n gyflym a sicrhau bod ymdrechion staff yn canolbwyntio’n bennaf ar gynllunio a chyflwyno addysgu yn hynod effeithiol.  I gynorthwyo arweinwyr canol ag ysgrifennu adroddiadau hunanarfarnu a chynlluniau gwella, mae’r ysgol yn cynhyrchu “WAGOLLs” (What A Good One Looks Like) fel bod staff yn dechrau ar y broses mewn sefyllfa gref, gan weithio’n agos gyda’u haelod cyswllt o’r tîm arwain i lunio dogfennau hynod effeithiol, sy’n nodi perfformiad presennol yn gywir, ynghyd â deilliannau a fwriedir o gamau gweithredu â ffocws.  Mae gan staff â chyfrifoldebau arwain adrannau ychwanegol yn llawlyfr y staff, sy’n amlygu camau gweithredu penodol y dylai arweinwyr ymgymryd â nhw yn ddyddiol, yn wythnosol, bob hanner tymor a phob tymor; cylch cynllunio strategol i fapio’r flwyddyn ysgol; a phecyn cymorth i gynorthwyo arweinwyr i arfarnu cynllunio gwersi.  Mae’r prosesau a’r camau gweithredu hyn wedi rhoi eglurder i arweinwyr ar bob lefel a sicrhau bod y broses hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant yn camu rhag gweithgareddau a wneir ar adegau penodol yn ystod blwyddyn ysgol, i broses barhaus o wella’n barhaus, sy’n cael ei gwerthfawrogi a’i deall.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros y 4 blynedd diwethaf, bu gwelliannau cyflym yn ansawdd y ddarpariaeth yn yr ysgol.  Mae addysgu hynod effeithio ar draws bron pob maes pwnc wedi arwain at ddeilliannau rhagorol i bob grŵp o fyfyrwyr.  Mae cyflawniadau yn yr ysgol yn uchel iawn yn gyson yn erbyn bron pob dangosydd.  Fodd bynnag, effaith bennaf y gwaith fu’r diwylliant sydd wedi gwreiddio yn yr ysgol.  O ganlyniad, mae dealltwriaeth glir iawn gan bron pob un o’r staff o’r egwyddorion a’r arferion sy’n digwydd yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo pob unigolyn i fod y gorau y gall fod.  Mae’r ymrwymiad hwn i ddatblygiad y staff wedi arwain at drawsnewid yr ysgol yn gyflym.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Ysgol Esgob Llandaf yn Ganolfan Broffesiynol Consortiwm Canolbarth y De ac mae wedi datblygu nifer o raglenni datblygu staff ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn y rhanbarth, yn canolbwyntio ar arwain newid a thrawsnewid ysgolion.

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos â darparwyr eraill er mwyn helpu i wella ysgolion.  Mae hyn wedi cynnwys gweithio gydag ysgol uwchradd arall yn yr awdurdod lleol am 18 mis.  Roedd y bartneriaeth hon yn cynnwys rhannu arferion a strategaethau arwain er mwyn helpu i sicrhau newid.  Yn ogystal, aeth nifer o aelodau staff ar secondiad i’r ysgol bartner er mwyn helpu i gyflwyno arferion gwella parhaus; mae dau ohonynt wedi sicrhau rolau parhaol yn yr ysgol.  O ganlyniad i’r bartneriaeth, mae’r ysgol bartner ac Ysgol Esgob Llandaf wedi sicrhau gwelliannau parhaus mewn darpariaeth, safonau ac arweinyddiaeth.

Mae’r dulliau hyn wedi helpu i gyfrannu at system hunangynhaliol, wedi’i harwain gan yr ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnal hyfforddiant ac ymweliadau ar gyfer cydweithwyr o ysgolion eraill yn rheolaidd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Cynllunio a gwrando ar anghenion disgyblion yn gwella safonau

Mae Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn gwrando ar argymhellion teuluoedd ynghylch dyfodol eu plant. ...Read more