Arfer Effeithiol |

Amgylchedd ysgol sydd o fudd i les disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
476
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Llandrillo Yn Rhos wedi’i lleoli yn nhref glan môr Llandrillo yn Rhos, yn sir Conwy.  Ar hyn o bryd, mae 414 o ddisgyblion amser llawn a 60 o ddisgyblion rhan-amser, rhwng tair ac un ar ddeg oed, ar y gofrestr.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o’r ardal gyfagos.  Daw bron pob un o’i disgyblion o gefndir Saesneg ei iaith.  Ar hyn o bryd, mae gan 16% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae oddeutu 16% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Mae 15 o athrawon amser llawn a 5 athro rhan-amser yn yr ysgol, gydag 16 o staff cymorth amser llawn a 9 rhan-amser.  Yn ogystal, mae gan yr ysgol Swyddog Cyswllt â Theuluoedd amser llawn, rheolwr anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad ac Arweinydd Ysgol Goedwig.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Arwyddair yr ysgol yw ‘Together Everyone Achieves More’ ac mae’n ymdrechu i’w hybu’n llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi datblygu ethos o ofal, cynwysoldeb a pharch tuag at bawb.  Mae’r amgylchedd yn gynnes a chroesawgar ac mae’n cynnwys stiwdio gelf, canolfan dysgu cymunedol ac ystafell ddosbarth awyr agored yr Ysgol Goedwig.  Ariannodd yr ysgol ystafell ddosbarth awyr agored yr Ysgol Goedwig trwy grant gan y Fferm Wynt.  Mae’n cynnwys pydew tân, ardal eistedd, gwesty chwilod a phwll.  Trwy ei defnyddio’n effeithiol, mae disgyblion yn elwa o ddysgu am eu hamgylchedd a dysgu medrau bywyd pwysig yn yr awyr agored.  Mae’r ardal yn darparu ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Mae gwaith disgyblion i’w weld o gwmpas yr ysgol ac mae o ansawdd uchel.  Mae gan yr ysgol sied gelf ddynodedig ac athro celf arbenigol sy’n cynllunio a chyflwyno gwersi yn gysylltiedig â phwnc y dosbarth fel rhan annatod o’r cwricwlwm.  Ar hyn o bryd, yr athro hwn sy’n arwain y fenter ‘ysgol greadigol arweiniol’.  Mae llawer o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn mwynhau’r sesiynau celf wythnosol yn fawr.  Mae’r ysgol o’r farn bod ansawdd y gwaith celf sy’n cael ei gynhyrchu gan ddisgyblion o safon uchel iawn.  Mae’r ysgol yn datgan ei bod yn hybu ac yn cefnogi’r defnydd ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn y Cyfnod Sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2 o fewn yr ysgol ac ar draws yr awdurdod lleol yn effeithiol iawn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, nod yr ysgol fu gwella lles a safonau cyrhaeddiad disgyblion.  Mae wedi gwneud hyn trwy ymdrechu i wella cysylltiad rhieni â’r ysgol.  Mae wedi datblygu amrywiaeth o fentrau ar y cyd â disgyblion, rhieni, ysgolion uwchradd y mae’n bwydo, a’r gymuned.  Mae aelodau staff yn arwain mentrau i ddatblygu lles disgyblion, trwy weithio ar lefelau amrywiol o fewn yr ysgol.  Mae staff yn defnyddio amgylchedd dysgu’r ysgol yn rhan o raglen dreigl ac yn trefnu amserlen ar ei gyfer er mwyn galluogi pob disgybl i ddatblygu medrau cymdeithasol, meddwl a datrys problemau, yn yr awyr agored.  Mae cynorthwywyr addysgu lefel uwch yr ysgol yn cynllunio ac yn cyflwyno darpariaeth medrau cymdeithasol ac ysgol goedwig yr ysgol, ac mae’r athro dosbarth yn cefnogi datblygiad medrau datrys problemau disgyblion.
Mae gan yr ysgol ganolfan gymunedol â swyddog cyswllt teuluol amser llawn sy’n cynnig amrywiaeth eang o raglenni cymorth.  Mae’r rhain yn ychwanegu at les pob disgybl yn sylweddol.  Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys:

• ‘Fast Forward’ (rhaglen bontio)
• ‘Boost’ (meithrin hyder)
• ‘Together Time’ (sesiynau i rieni a phlant yn y Cyfnod Sylfaen)
• ‘Animate Learning’ (sesiynau i rieni a phlant yng nghyfnod allweddol 2)
• Wythnosau dysgu ynghyd
• Grwpiau anogaeth
• Meysydd cyfrifoldeb ar gyfer disgyblion
• Grwpiau trafod
• Cyfarfodydd gosod targedau ar gyfer pob unigolyn (mentora cadarnhaol i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 1 i 6)
• Datblygu’r ardaloedd awyr agored

Mae gan lawer o ddisgyblion gyfrifoldebau sylweddol y maent yn eu cyflawni’n aeddfed.  Mae’r rhain yn cynnwys ceidwaid gwyrdd, ninjas celf, dewiniaid digidol ac aelodau o’r cyngor ysgol.  Mae’r holl grwpiau hyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr ysgol a bywyd yr ysgol.  Mae aelodau’r cyngor ysgol yn hynod effeithiol ac yn hybu lles disgyblion yn yr ysgol yn gyson.  Mae dewiniaid digidol yn cefnogi datblygiad TGCh ar draws yr ysgol ac yn ystod sesiynau hyfforddi i athrawon a staff o ysgolion eraill.  Dywed yr ysgol fod safonau disgyblion wrth ddefnyddio TGCh yn rhagorol.

Bob tymor, mae pob disgybl o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6 yn cael cyfle i gwrdd â’i athro dosbarth yn unigol, i osod ac adolygu ei dargedau rhifedd a llythrennedd.  Mae disgyblion yn gwybod beth yw eu camau dysgu nesaf ac mae ganddynt lawer o symbyliad i gyflawni eu nodau eu hunain.

Mae’r amgylchedd dysgu awyr agored a datblygiad medrau cymdeithasol yn hybu datblygiad llawer o fedrau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, yn weithgar ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad a chyflawniad plant.  Mae’r amgylchedd yn ysgogol ac yn ddeniadol, ac mae disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel i ddysgu ynddo.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol yn datgan:

• Bod disgyblion a rhieni wedi sôn am fwy o hyder yn ystod y pontio o’r cyfnod cyn-ysgol i’r Feithrinfa, o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3, ac o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7
• Mae’r ysgol o’r farn bod y ffordd y mae rhieni’n ymgysylltu â hi yn rhagorol, gyda 96% o rieni’n mynychu Wythnosau Dysgu Ynghyd yr ysgol, pan fydd rhieni a disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd yn y dosbarth
• Mae’r holl ddisgyblion sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth anogaeth wedi gwneud gwelliannau da iawn yn eu medrau cymdeithasol ac emosiynol
• Mae’r holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 hefyd yn gwneud cynnydd mewn asesiadau cenedlaethol, ac roedd 80% o ddisgyblion wedi cyflawni Deilliant 6 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen
• Mae rhieni disgyblion sy’n derbyn darpariaeth anogaeth yn ymwneud yn fwy effeithiol â dysgu eu plant ac maent yn teimlo’n fwy cadarnhaol am eu galluoedd magu plant eu hunain
• Dywed athrawon ar draws cyfnod allweddol 2 a’r Cyfnod Sylfaen fod ymddygiad disgyblion wedi gwella a’u bod yn talu sylw’n well yn ystod pob gwers

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cefnogi llawer o ysgolion ym mhob agwedd ar les.  Mae wedi rhannu ei llwyddiant trwy gyfarfodydd penaethiaid, cyfarfodydd consortia, hyfforddiant TGCh a digwyddiadau hyfforddiant. 

Mae’r ysgol yn croesawu ymweliadau gan ysgolion eraill sy’n awyddus i ddatblygu eu lleoliadau ac mae’n helpu i roi mentrau ar waith trwy ei rôl fel Ysgol Arloesi/Cyd-arweiniol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector cynradd Tymor yr haf 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn neu ymweliadau ymgysylltu a wnaed â 410 o ysgolion cynradd rhwng 22 Chwefror ac 14 Mai 2021. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Defnyddio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i ymestyn medrau mathemategol a chreadigol

Defnyddiodd Ysgol Gynradd Llandrillo yn Rhos gyllid y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i wella medrau mathemateg gweithdrefnol disgyblion, gyda ffocws penodol ar herio disgyblion mwy abl a thal ...Read more
Adroddiad thematig |

Cefnogi disgyblion mwy abl a thalentog - Sut orau i herio a meithrin disgyblion mwy abl a thalentog: Cyfnodau allweddol 2 i 4

pdf, 1.42 MB Added 22/03/2018

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth o ran bodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws cyfnodau allweddol 2, 3 a 4 ...Read more