Arfer Effeithiol |

Amgylchedd cynhwysol ac anogol i bob plentyn

Share this page

Nifer y disgyblion
294
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Cwm Glas ym mhentref Winch Wen yn Ninas a Sir Abertawe.  Mae 294 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 38 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin.  Ychydig iawn o ddisgyblion ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol sy’n mynychu’r cyfleuster addysgu arbennig ar safle’r ysgol.

Mae tua 32% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 54% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac fe gaiff mwyafrif ohonynt eu haddysgu yn y cyfleuster addysgu arbennig.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion, ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Dechreuodd y pennaeth presennol yn ei swydd ym mis Medi 2017.

Diwylliant ac ethos

Ysgol Gynradd Cwm Glas yw canolbwynt y gymuned, ac mae’n cynnig ethos cadarnhaol a chynhwysol sy’n croesawu pob disgybl, beth bynnag fo’i gefndir neu’i amgylchiadau.  Mae staff ar bob lefel yn dathlu cyflawniad ac yn hyrwyddo llwyddiant.  Mae arweinwyr yn sicrhau bod y disgyblion yn cael profiad dysgu cofiadwy, perthnasol a chytbwys yng Nghwm Glas.  Mae’r ysgol yn nodi bod ganddi nod diwyro i ddisgyblion adael Cwm Glas yn ddysgwyr hyderus, gwydn, uchelgeisiol a medrus, sy’n barod i gymryd eu lle yn y byd.  Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd teuluol a hapus lle mae disgyblion yn tyfu o ran dysgu ac mewn bywyd.  Mae’r ysgol yn falch o’i hethos cynhwysol a meithringar ac mae’n hyrwyddo hawliau disgyblion fel y brif egwyddor sy’n ategu ei holl waith.

Camau Gweithredu

Buddsoddodd yr ysgol mewn darpariaeth anogaeth effeithiol ym mis Ionawr 2013 ac mae hyn wedi tyfu i gynorthwyo llawer o ddysgwyr a nodwyd.  Mae pob un o’r staff yn cyfeirio disgyblion at y ddarpariaeth gan ddefnyddio system fewnol a phrofion safonedig.  Mae’r ysgol wedi gweithio’n effeithiol i ddatblygu ei harfer, gan geisio cael hyfforddiant a chysylltiadau rhwydwaith gyda lleoliadau eraill.  Yn sgil buddsoddiad pellach yn y ddarpariaeth anogaeth, mae wedi ffynnu i fod yn ganolfan arfer orau, sydd bellach yn cynnig cymorth i leoliadau eraill ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddiant anogaeth.  Mae hyn yn cael effaith ddwys ar hunan-barch a hunanhyder rhai o’r disgyblion sydd fwyaf agored i niwed yn yr ysgol.  Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi dod yn gysylltiedig â’r ‘Tîm o Amgylch y Teulu mewn Ysgolion’ i gryfhau’r effaith ymhellach.  Mae’r ysgol yn gweithio gyda dull amlasiantaethol effeithiol, gan ddatblygu perthnasoedd cryf, meithringar ac ymddiriedus gyda rhieni, ‘neiniau’, gofalwyr a theuluoedd.  Bob dydd Llun, mae dosbarthiadau’n cynnal 'gwiriadau' ar ôl y penwythnos i archwilio teimladau disgyblion.  Gellir cyfeirio disgyblion at y Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol am gymorth emosiynol pan fydd angen.  Mae’r ysgol yn cynnal digwyddiadau caffi dysgu rheolaidd, gan ganolbwyntio ar ddarllen neu fathemateg.  O ganlyniad, mae canran y disgyblion sydd â sgorau darllen yr un fath â’u hoedrannau darllen cronolegol neu’n uwch wedi cynyddu o 18% i 52%.  Mae’r disgyblion yn westeiwyr gwirioneddol yn y digwyddiadau hyn, gyda grwpiau llais y disgybl yn gwarchod, yn arddangos ac yn ennyn brwdfrydedd ymhlith disgyblion  eraill, gan rymuso rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu gartref.

Caiff sesiynau dysgu teuluol eu targedu’n strategol tuag at ddisgyblion y dosbarth Derbyn, eu rhieni a’u gofalwyr, i gryfhau perthnasoedd rhwng y cartref a’r ysgol o’r cychwyn a chynnig strategaethau cynnar ar gyfer cefnogi a gwerthfawrogi dysgu gartref. 

Mae’r ethos cynhwysol yn faes cryfder allweddol.  Mae olrhain pob dysgwr unigol yn drylwyr yn sicrhau bod yr holl gyflawniadau’n cael eu gwerthfawrogi ac yn sicrhau atebolrwydd am ddeilliannau.  Mae arweinwyr yr ysgol yn barod i gynorthwyo a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd ac asiantaethau i sicrhau’r gorau oll i bob plentyn, tra’n meithrin agwedd gadarnhaol at ddysgu.  Mae’r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn gryf iawn ac mae’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn cynorthwyo athrawon a staff cymorth yn effeithiol wrth deilwra darpariaeth o ansawdd uchel.  Mae staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni ymyrraeth a chymorth buddiol i wella medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn ogystal â’u hanghenion emosiynol a lles.  Mae pob un o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrannu’n dda at eu cynlluniau addysgol unigol penodol a mesuradwy, y maent yn eu cwblhau ochr yn ochr â staff allweddol a rhieni neu ofalwyr.  O ganlyniad i’r ddarpariaeth hon sydd o ansawdd uchel, mae bron pob un o’r disgyblion targedig yn gwneud cynnydd da o leiaf yn unol â’u galluoedd a’u hanghenion.

Cryfder arall o ran y ffordd y mae’r ysgol yn hwyluso llais y disgybl yw trwy grwpiau fel y cyngor ysgol, y grŵp ysgolion iach a’r grŵp ysgolion eco, sydd i gyd yn cymryd rhan yng nghynllunio strategol yr ysgol.  Maent yn helpu pennu blaenoriaethau cynllun datblygu’r ysgol, yn cynnig her i arweinwyr yr ysgol ac yn trosglwyddo gwybodaeth i’w cyfoedion a’u rhieni.  Mae disgyblion yn cyfrannu at ysgrifennu polisïau, gan sicrhau bod eu llais a’u barn yn cael eu clywed.  Mae ‘Arweinwyr Digidol’ yn creu a rhannu negeseuon pwysig am ddiogelwch ar-lein ac yn cynnal seminarau ar gyfer rhieni a gofalwyr.  Rhoddir rôl gyfrifol i holl ddisgyblion Blwyddyn 6, sy’n meithrin balchder a hyder ac yn cryfhau ymddiriedaeth staff a disgyblion. 

Deilliannau

Mae pob un o’r disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr dyfeisgar, cytbwys, myfyriol a gwydn.  Mae presenoldeb wedi gosod yr ysgol yn gyson yn y 25% uchaf o gymharu ag ysgolion tebyg am nifer o flynyddoedd.  Mae rhieni, gofalwyr, plant a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo gan yr ysgol.  Mae safonau cynnydd yn dangos tuedd tair blynedd ar i fyny, ac mae’r bwlch o ran perfformiad rhwng bechgyn a merched wedi lleihau’n sylweddol.  Hefyd, mae tueddiadau ar gyfer grwpiau dysgwyr yn dangos effaith gadarnhaol dull cynhwysol a meithringar yr ysgol.  Mae’r ysgol wedi cyflawni’r wobr gyntaf o ran ei hymrwymiad i fod yn ysgol iach. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol