Arfer Effeithiol |

Adolygu dulliau o fodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog i ymateb i ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru

Share this page

Nifer y disgyblion
300
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Langstone ym mhentref Langstone i’r dwyrain o Gasnewydd.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r ardal leol a’r ardal gyfagos.  Mae tua 300 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr, rhwng pedair ac un ar ddeg oed.

Mae ychydig dros 2% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn gryn dipyn islaw’r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 11% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol

Mae gan yr ysgol hanes cryf iawn o berfformiad uchel ymhlith disgyblion mwy abl.  Mae Ysgol Langstone yn ysgol sy’n arloesi mewn dysgu proffesiynol.

Wrth ymateb i ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru, mae’r ysgol wedi adolygu ei dull o ran y modd y mae’n bodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog.  Yn hytrach na siarad am ‘sut i addysgu disgyblion mwy abl’, mae staff wedi canolbwyntio ar ddatblygu addysgeg sy’n gweithio i bob un o’r plant, sy’n cael ei gyrru gan y pedwar ‘diben craidd’.  Am y rheswm hwn, mae’r ysgol wedi symud oddi wrth nodi disgyblion mwy abl a thalentog fel grŵp ar wahân a chadw cofrestr ffurfiol.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn ystyried bod ei darpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog yn rhan o’i hathroniaeth gynhwysol i gael disgwyliadau uchel o bob disgybl, a darparu’r cymorth a’r her briodol i fodloni anghenion pob disgybl.

Disgrifiad o’r gweithgarwch/strategaeth

Mae’r ysgol yn defnyddio cyfuniad o destunau dosbarth a dull prosiect ysgol gyfan i gyflwyno’i chwricwlwm.  Mae’n rhoi cydbwysedd gofalus i ddisgyblion o gyfleoedd eang ac amser i astudio testunau’n fanwl i ddatblygu, atgyfnerthu ac ymgorffori eu gwybodaeth a’u medrau’n gynyddol ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, mae’r prosiect ‘Pages through the ages’ yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai mwy abl a thalentog, yn cael llawer o gyfleoedd ysgogol i gymhwyso eu medrau llythrennedd a rhifedd yn llwyddiannus mewn ystod eang o gyd-destunau a datblygu eu gwybodaeth a’u medrau sy’n benodol i bwnc yn effeithiol ar draws meysydd dysgu a phrofiad, wedi’u hategu gan y pedwar diben craidd. 

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais sylweddol ar ddatblygu medrau disgyblion ar gyfer dysgu.  Mae’n ymgorffori strategaethau sydd â hanes o fod yn fwy effeithiol dros gyfnod.  Er enghraifft, o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6, mae disgyblion yn defnyddio set gyffredin o ‘offer’ i’w helpu i gynllunio eu syniadau a chynnal eu dysgu yn annibynnol.  Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i gyflwyno’u gwaith o oedran ifanc iawn.  Ymgorfforwyd y dull hwn dros sawl blwyddyn, ac mae hyn wedi cael effaith gref a chynaledig ar ddatblygu medrau disgyblion mwy abl wrth iddynt gynllunio, cofnodi a gwneud penderfyniadau.

Mae’r ysgol yn defnyddio ffilm trwy gydol y flwyddyn, fel y cyd-destun ar gyfer ei ffocws ysgol gyfan ar ddatblygu medrau dysgu gydol oes disgyblion.  Roedd arweinwyr wedi nodi nad oes gan ddisgyblion bob amser y gwydnwch i ymdopi pan fyddant yn gweld rhywbeth yn anodd neu’n cael rhywbeth yn anghywir yn eu gwaith.  Dewison nhw’r ffilm ‘Eddie the Eagle’ fel y cyfrwng ar gyfer cynllunio gwaith cwricwlwm i gyflwyno disgyblion mwy abl a thalentog i’r cysyniad o rym meddylfryd ‘hyd yma’.  Trefnon nhw i Eddie ‘the Eagle’ Edwards ymweld â’r ysgol i siarad â disgyblion am ei heriau wrth gyrraedd a chymryd rhan yn y gemau Olympaidd, a phwysigrwydd hunan-gred.  Mae’r profiad bywyd go iawn ysbrydoledig hwn wedi cael effaith bwerus ar helpu disgyblion mwy abl a’r rheiny â doniau ym myd chwaraeon neu ddoniau creadigol i ddatblygu gwydnwch gwell, a dyfalbarhau â’u dysgu. 

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

Yn arolygiad diwethaf yr ysgol yn 2014, nododd Estyn:

  • fod cofnod cyson dros gyfnod o berfformiad uchel gan ddisgyblion mwy abl
  • bod addysgu o ansawdd da iawn yn sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion yn cael lefel uchel o her yn eu gwaith
  • bod athrawon yn datblygu medrau disgyblion ar gyfer dysgu yn eithriadol o dda

Mae disgyblion mwy abl a thalentog yn siarad yn hyderus am y ffaith fod yna rwystr wrth fynd i’r afael â chysyniadau neu fedrau mwy heriol, neu gymhwyso eu gwybodaeth a’u medrau mewn sefyllfa newydd.  Maent yn esbonio’n hyderus y strategaethau y maent yn eu defnyddio i oresgyn hyn i ymdrechu tuag at gyflawni eu nodau dysgu.  Maent yn dangos gwydnwch a llawer o annibyniaeth fel dysgwyr.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Cefnogi disgyblion mwy abl a thalentog - Sut orau i herio a meithrin disgyblion mwy abl a thalentog: Cyfnodau allweddol 2 i 4

pdf, 1.42 MB Added 22/03/2018

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth o ran bodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws cyfnodau allweddol 2, 3 a 4 ...Read more