Adroddiad thematig |

Y continwwm dysgu proffesiynol: mentora mewn addysg gychwynnol athrawon

Share this page

Adroddiad thematig | 15/10/2018

pdf, 3.16 MB Added 15/10/2018

Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg gychwynnol athrawon, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu i ddarparu astudiaeth waelodlin ar gyfer diwygio addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau meddwl yn feirniadol athrawon dan hyfforddiant, a’u medrau myfyrio ac arfarnu, fel medrau hanfodol ar gyfer dysgu proffesiynol, rôl y mentor o ran datblygu’r medrau hyn, a’r modd y mae cymryd rhan mewn mentora mewn addysg gychwynnol athrawon yn effeithio ar, ac yn ymwneud â, dysgu proffesiynol mewn ysgolion yn fwy cyffredinol.

Argymhellion

Dylai ysgolion partneriaeth addysg gychwynnol athrawon:

  • A1 Gysylltu eu gwaith mewn addysg gychwynnol athrawon yn gryfach â datblygu arfer a darpariaeth yn yr ysgol, ac yn enwedig â dysgu proffesiynol
  • A2 Gweithio’n agosach â’u partneriaid prifysgol i sicrhau bod gan fentoriaid y medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol ar gyfer addysgwyr athrawon
  • A3 Datblygu cynlluniau trylwyr i wella medrau ymchwil staff ysgolion, gan wneud y mwyaf o’u partneriaeth â’u partner prifysgol
  • A4 Sicrhau bod gan uwch fentoriaid rôl strategol o ran datblygu mentoriaid ac o ran arfarnu effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth mewn addysg gychwynnol athrawon
  • A5 Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid prifysgol i gynllunio a gweithredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon sy’n sicrhau cyfuniad llwyddiannus o theori ac arfer.

Dylai prifysgolion:

  • A6 Weithio’n agosach ag ysgolion i gefnogi datblygiad medrau a strategaethau ymchwil
  • A7 Gwella hyfforddiant a datblygiad mentoriaid i ganolbwyntio’n fwy ar fedrau addysg athrawon
  • A8 Gweithio gydag ysgolion i ddatblygu prosesau mwy trylwyr i arfarnu ansawdd mentora
  • A9 Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid prifysgol i gynllunio rhaglenni sy’n sicrhau cyfuniad llwyddiannus o theori ac arfer
  • A10 Cryfhau medrau myfyrio, arfarnu a dadansoddi beirniadol athrawon dan hyfforddiant
  • A11 Ar y cyd â’u hysgolion partner, ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o asesu myfyrwyr sy’n rhoi ystyriaeth dda i’w datblygiad tuag at SAC

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A12 Weithio gyda darparwyr addysg gychwynnol athrawon i gefnogi dull cenedlaethol o ddatblygu mentora mewn addysg gychwynnol athrawon

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol