Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4

Share this page

Adroddiad thematig | 20/09/2017

pdf, 1.31 MB Added 20/09/2017

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried ystod o ffactorau, fel ansawdd addysgu ac asesu, cynllunio’r cwricwlwm, datblygiad staff, a phrofiadau dysgu cwricwlaidd ac allgyrsiol, sy’n cyfrannu at wella safonau mewn gwyddoniaeth. Mae’n ystyried llwybrau arholi cyffredinol a galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4. Mae hefyd yn adrodd ar y cynnydd a wnaed yng nghyfnod allweddol 3 yn erbyn yr argymhellion a wnaed mewn gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 (Estyn, 2013).

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Ddarparu cyfleoedd dysgu ysgogol a heriol mewn gwyddoniaeth sy’n cynnwys gwaith ymarferol effeithiol i fodloni anghenion yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy abl
  • A2 Arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer gwyddoniaeth i baratoi ar gyfer y maes dysgu a phrofiad newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg
  • A3 Sicrhau bod hunanarfarnu adrannol yn gadarn ac yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth i arfarnu safonau sy’n benodol i bwnc ac ansawdd yr addysgu
  • A4 Defnyddio adborth o adroddiad diweddaraf PISA i lywio cynllunio ar gyfer gwella
  • A5 Sicrhau bod asesu yn helpu disgyblion i wybod beth mae angen iddynt ei wneud i wella

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Ddarparu mwy o gymorth sy’n benodol i bwnc ar gyfer athrawon gwyddoniaeth ar wella addysgu ac asesu, a hwyluso rhannu arfer dda
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm, a chynllunio ar gyfer datblygu’r maes dysgu a’r profiad gwyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â’r newidiadau i gymwysterau mewn gwyddoniaeth

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Ymgyrchu i ddenu mwy o raddedigion gwyddoniaeth i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol