Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

Share this page

Adroddiad thematig | 13/07/2017

pdf, 1.25 MB Added 13/07/2017

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ym mhynciau gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 2 mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.Ar gyfer yr arolwg hwn, ymwelodd arolygwyr Estyn ag ystod eang o ysgolion cynradd ledled Cymru, neu eu cyfweld dros y ffôn, gan ystyried: maint yr ysgol, lleoliad daearyddol, cyfran y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, nodweddion ieithyddol a chrefyddol. Bu arolygwyr yn arsylwi gwersi, yn cyfweld â disgyblion, athrawon ac arweinwyr ysgol, ac yn craffu ar gynlluniau a gwaith disgyblion. Hefyd, ystyriodd arolygwyr ystod eang o dystiolaeth arolygu ysgolion cynradd.Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn helpu llywio datblygu Maes Dysgu a Phrofiad ‘gwyddoniaeth a thechnoleg’ y cwricwlwm newydd.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

 
  • A1 Gwneud yn siŵr bod gwersi gwyddoniaeth yn herio pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl, a lleihau’r bwlch rhwng cyflawniad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion
  • A2 Gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddysgu am holl feysydd y cwricwlwm dylunio a thechnoleg, yn enwedig ‘systemau a rheolaeth’
  • A3 Sicrhau bod asesu yn helpu disgyblion wybod beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn gwella
  • A4 Sicrhau bod prosesau hunanarfarnu yn gadarn ac yn canolbwyntio ar wybodaeth bynciol, dealltwriaeth a medrau disgyblion, ac ar ansawdd yr addysgu
  • A5 Darparu hyfforddiant i athrawon ym meysydd gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg lle ceir diffyg gwybodaeth a hyder

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

 
  • A6 Darparu mwy o gymorth penodol i bwnc i athrawon er mwyn gwella’r addysgu a’r asesu mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg a hwyluso rhannu arfer dda
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu’u cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol