Adroddiad thematig |

Defnydd statudol o safonau arweinyddiaeth wrth reoli perfformiad penaethiaid

Share this page

Adroddiad thematig | 17/11/2015

pdf, 909.39 KB Added 17/11/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn 2014-2015 ynghylch y defnydd statudol o safonau arweinyddiaeth wrth reoli perfformiad penaethiaid. Mae’r adroddiad hwn wedi ei fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraethwyr, penaethiaid, uwch arweinwyr a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol. Mae’r ddogfen hon yn cysylltu ag arolwg Estyn, ‘Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion’, a gyhoeddwyd ym Mehefin 2015. Gall fod o ddiddordeb i rieni a staff mewn sectorau eraill ac asiantaethau sy’n cydweithio ag ysgolion i wella ansawdd arweinyddiaeth.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Ddiwygio’r safonau arweinyddiaeth i gyfleu’r disgwyliadau uwch o arweinwyr a chanolbwyntio’n fanylach ar y medrau arweinyddiaeth a’r ymddygiad sydd eu hangen i ysgogi newid

Dylai paneli arfarnu:

  • A2 Bennu amcanion priodol sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad arweinyddiaeth a sut mae arweinwyr yn ymgymryd â’u rolau, yn ogystal âdeilliannau mesuradwy
  • A3 Cofnodi’n fanwl, gan ddefnyddio’r ystod lawn o safonau arweinyddiaeth, pa mor dda y mae’r pennaeth wedi cyflawni’r rô, yn ogystal ag adrodd ar yr hyn y mae’r pennaeth wedi ei gyflawni

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

  • A4 Annog penaethiaid i fyfyrio’n gyfannol ar ansawdd eu harweinyddiaeth gan ddefnyddio’r themâ a amlinellir yn y safonau arweinyddiaeth, ac yn unol â’r arweiniad ar Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol a ddarperir ar wefan ‘Dysgu Cymru’
  • A5 Herio’r pennaeth a’r corff llywodraethol i sicrhau bod cyfleoedd priodol i’r holl staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth

Dylai penaethiaid:

  • A6 Fyfyrio’n ysgrifenedig ar ba mor dda y maent yn bodloni’r ystod ehangach o safonau arweinyddiaeth, yn ogystal âph’un a ydynt wedi bodloni amcanion rheoli perfformiad ai peidio
  • A7 Sicrhau bod cyfleoedd i’r holl staff yn eu hysgolion ddatblygu eu rolau a’u medrau arweinyddiaeth ar hyd eu gyrfaoedd
  • A8 Hyfforddi a mentora staff sy’n dangos yr ymddygiad a’r medrau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn arweinwyr yn y dyfodol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol