Adroddiad thematig |

Cyfranogiad disgyblion: canllaw arfer orau

Share this page

Adroddiad thematig | 07/12/2016

pdf, 1.48 MB Added 07/12/2016

Mae’r adroddiad yn archwilio pedair o nodweddion ysgolion lle mae cyfranogiad disgyblion yn gadarn ac mae’n nodi’r cyfraniad y gall cyfranogiad disgyblion ei wneud at wella ysgol, yn ogystal â’r manteision i’r disgyblion eu hunain.

Prif ganfyddiadau

  1. Mae cyfranogiad disgyblion yn gryf mewn ysgolion sydd â’r nodweddion canlynol:
    • Mae cyfranogiad disgyblion a meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn rhan annatod o weledigaeth ac ethos yr ysgol. Mae gan arweinwyr a rheolwyr strategaeth glir ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad ac ar gyfer meithrin perthnasoedd da. Maent yn cefnogi ac yn annog cyfranogiad agored a gonest. Mae arweinwyr yn creu ethos lle mae disgyblion yn parchu hawliau pobl eraill ac yn deall pwysigrwydd amrywiaeth a chydraddoldeb.
    • Mae rolau a strwythurau clir ar waith ar draws yr ysgol i gofnodi safbwyntiau disgyblion ar ystod eang o faterion yn ymwneud â gwella’r ysgol. Mae staff yn cymryd safbwyntiau disgyblion o ddifrif ac yn gweithredu yn unol â nhw. Mae disgyblion, staff a llywodraethwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â chyfranogiad. Gall arweinwyr ddangos effaith cyfranogiad ar gynllunio gwella ysgol.
    • Caiff disgyblion gyfleoedd eang i gymryd rhan yn yr ysgol a thu hwnt, i gyfrannu at drafodaethau a dylanwadu ar benderfyniadau ar draws ystod eang o faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r cyfleoedd hyn yn annog disgyblion i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen i fod yn ddinasyddion gweithredol.nbsp;
    • Mae disgyblion a staff yn elwa ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd da sydd wedi ei dargedu’n dda i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau bod llais disgyblion yn cael ei glywed mewn trafodaethau ac wrth wneud penderfyniadau.
  2. Pan fydd cyfranogiad disgyblion yn gadarn, mae disgyblion yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella’r ysgol trwy ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch lles, profiadau dysgu, ac ansawdd yr addysgu, a thrwy helpu i nodi blaenoriaethau’r ysgol yn y dyfodol. Dywed llawer o ysgolion fod cyfranogiad disgyblion yn cyfrannu at amgylchedd ac ethos ysgol gwell, ac at berthnasoedd gwell rhwng pawb yng nghymuned yr ysgol.
  3. Mae manteision i ddisgyblion hefyd mewn cyfranogiad gwell, gan gynnwys iechyd a lles gwell, ymgysylltu ac ymddygiad gwell, a gwelliannau mewn dysgu, cyflawniadau a pherfformiad yn yr ysgol. Trwy eu hymglymiad gwell mewn gwneud penderfyniadau, mae disgyblion yn datblygu medrau personol a chymdeithasol gwerthfawr, fel gwrando, cyfathrebu, trafod, blaenoriaethu a gweithio gydag eraill. Maent hefyd yn ennill dealltwriaeth well o hawliau aelodau eraill o gymuned yr ysgol ac o ganlyniadau gweithredoedd sy’n effeithio ar bobl eraill. Caiff disgyblion eu paratoi’n well i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus a gweithredol Cymru a’r byd, a daw eu hagweddau tuag at ddinasyddiaeth weithredol yn fwy cadarnhaol.
  4. Mae bron pob un o’r ysgolion a arolygwyd rhwng Medi 2013 a Gorffennaf 2016 yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau Cyngor Ysgol. Bron ym mhob ysgol, mae’r cyngor ysgol yn gwneud cyfraniad gwerth chweil tuag at wella amgylchedd dysgu’r ysgol. Yn yr ysgolion hyn, ystyrir safbwyntiau disgyblion ac maent yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch bywyd yr ysgol.  
  5. Mae Estyn yn casglu safbwyntiau disgyblion trwy holiadur a gyhoeddir cyn arolygu pob ysgol, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau nas cynhelir. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo bod staff yn eu parchu ac yn eu helpu i ddeall pobl eraill a’u parchu. Caiff y rhan fwyaf o ddysgwyr eu hannog i wneud pethau drostynt eu hunain a chymryd cyfrifoldeb. Mae llawer o ddysgwyr yn teimlo hefyd fod staff yn eu trin yn deg ac yn eu parchu a bod yr ysgol yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gwneud newidiadau y maent yn eu hawgrymu. Mae crynodeb o ganfyddiadau’r holiaduron yn Atodiad 1.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol