Adroddiad thematig |

Arfer orau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4

Share this page

Adroddiad thematig | 19/07/2016

pdf, 1.45 MB Added 19/07/2016

Mae’r adroddiad yn archwilio safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ar gyfer y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 mewn ysgolion lle yr amlygwyd arfer dda.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

 

  • A1 Ddysgu o’r arfer orau sy’n cael ei disgrifio yn yr adroddiad hwn
  • A2 Gwneud yn siŵr bod digon o gyfleoedd mewn gwersi i ddisgyblion mwy abl ymestyn eu dysgu
  • A3 Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhifedd, lle y bo’n briodol, mewn gwersi celf
  • A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau celf yn gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd i greu gwaith celf sy’n datblygu cymwyseddau digidol disgyblion
  • A5 Arfarnu perfformiad disgyblion yn fanwl, ac felly hefyd y cryfderau a’r meysydd i’w datblygu mewn addysgu yn y celfyddydau, i lywio cynllunio adrannol
  • A6 Dadansoddi cyfraniad adrannau celf at fedrau disgyblion a datblygu strategaethau ar gyfer dysgu creadigol ar draws yr ysgol
  • A7 Gwneud defnydd gwell o’u cyllid grant i gefnogi disgyblion difreintiedig yn y celfyddydau creadigol
  • A8 Datblygu darpariaeth ac arfer yn y celfyddydau er mwyn cyfrif am argymhellion Dyfodol Cynaliadwy

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

 

  • A9 Ddarparu mwy o gymorth i ysgolion ddatblygu hunanarfarnu effeithiol a chynllunio effeithiol ar gyfer gwella yn y celfyddydau
  • A10 Cynnig profiadau dysgu proffesiynol i athrawon ac arweinwyr pwnc yn y celfyddydau
  • A11 Cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio cyllid grant yn effeithiol i gefnogi disgyblion difreintiedig a gweithio gydag asiantaethau’r celfyddydau ac ymarferwyr y celfyddydau
  • A12 Helpu ysgolion i adolygu datblygiad a dyluniad eu cwricwlwm gyda’r nod o fodloni argymhellion Dyfodol Llwyddiannus

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol