Adroddiad thematig |

Adolygiad o bolisïau ymweliadau addysgol yn y sector addysg bellach - Medi 2015

Share this page

Daeth y cais gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Estyn gynnal yr adolygiad hwn yn sgil marwolaeth dysgwr a oedd yn astudio yng Ngholeg Ystrad Mynach, yn ystod ymweliad addysgol â Barcelona yn 2011. Yn dilyn marwolaeth eu mab, cododd ei rieni ystod o bryderon ynglŷn â gweithdrefnau’r coleg ar gyfer ymweliadau addysgol a’r asesiadau risg cysylltiedig. Gwnaeth y Gweinidog ymrwymiad i rieni’r dysgwr y byddai pob coleg yng Nghymru yn cael gwybod am effaith marwolaeth eu mab ac y byddai’n cymryd camau i leihau’r risg y byddai digwyddiad o’r fath yn digwydd eto. Mae’r adolygiad hwn yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw.

Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach yng Nghymru adolygu eu polisïau ac arweiniad ar ymweliadau addysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag arfer orau. Dylent:

  • A1 adolygu eu polisïau a’u harweiniad ategol ar gyfer ymweliadau addysgol er mwyn sicrhau eu bod yn amlinellu gweithdrefnau clir a syml ar gyfer cynllunio ymweliadau a bod cynlluniau ac asesiadau risg yn gymesur ag angen a lefel y risg
  • A2 mynnu bod arweinwyr grŵp yn meddu ar y wybodaeth, y cymhwysedd a’r profiad i drefnu ac arwain yr ymweliad, a’u bod wedi llofnodi datganiad eu bod wedi defnyddio’r arweiniad presennol wrth gynllunio’r ymweliad
  • A3 gwneud yn siŵr bod pob llety ar ymweliadau preswyl yn cael ei archwilio o ran addasrwydd, a bod staff goruchwylio yn aros yn yr un llety â dysgwyr
  • A4 mynnu, ar ymweliadau preswyl, bod trefniadau priodol ar gyfer goruchwylio amser di-fynd1 a bod yr holl staff sydd â rôl oruchwylio yn rhydd o alcohol
  • A5 mynnu bob amser bod yr holl ddysgwyr a rhieni yn ymwybodol o’r angen i gydymffurfio â chodau ymddygiad y coleg ar ymddygiad a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  • A6 gwneud yn siŵr bod gan unrhyw arweinydd cynorthwyol a/neu arweinwyr gwirfoddol rolau a chyfrifoldebau a ddeellir yn glir, a bod ganddynt gliriad diweddar gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddant yn arwain grwpiau, sy’n cynnwys unrhyw ddysgwyr sydd naill ai o dan 18 oed neu oedolion sy’n agored i niwed
  • A7 darparu gwybodaeth glir i ddysgwyr a rhieni am gwmpas a chyfyngiadau eu polisïau yswiriant mewn perthynas ag ymweliadau addysgol, ac esbonio cyfrifoldebau a disgwyliadau darparwyr trydydd parti
  • A8 ystyried y cyngor yn yr Arweiniad Cenedlaethol ar ymweliadau addysgol a ddarparwyd gan y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored wrth adolygu eu polisïau a’u harweiniad ar ymweliadau addysgol

Dylai’r Adran Addysg a Sgiliau:

  • A9 fynnu bod yr holl golegau yn ystyried yr argymhellion hyn wrth adolygu a diweddaru eu polisïau a’u harweiniad ar ymweliadau addysgol