Adroddiad thematig |

Adolygiad o addysg perthnasoedd iach

Share this page

Adroddiad thematig | 23/06/2017

pdf, 1.18 MB Added 23/06/2017

Mae’r adroddiad yn arfarnu ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’n nodi strategaethau i gefnogi ysgolion i wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer disgyblion. Mae cyfres o astudiaethau achos arfer orau yn dangos y modd y mae ysgolion yn cefnogi disgyblion yn llwyddiannus i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

 
  • A1 Roi arweiniad Llywodraeth Cymru ar waith i ddarparu dull ysgol gyfan o atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Llywodraeth Cymru, 2015)
  • A2 Sicrhau bod negeseuon allweddol yn ymwneud â pherthnasoedd iach yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm a’u hatgyfnerthu’n rheolaidd
  • A3 Adeiladu ar yr arfer orau a nodir yn yr adroddiad hwn

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A4 Sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion yn cwblhau’r hyfforddiant a amlinellir yn y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2016a)

Dylai Llywodraeth Cymru:

 
  • A5 Gyhoeddi arweiniad ymhellach i sicrhau bod ysgolion a chyrff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyngor a’r arweiniad y maent yn eu cynnwys
  • A6 Sicrhau bod y rheiny sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer y maes dysgu iechyd a lles a phrofiadau yn ymwybodol o’r rôl bwysig sydd gan ysgolion o ran rhoi Deddf TEMCDThRh 2015 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2015) ar waith, a chynnwys addysg perthnasoedd iach yn eu gwaith
  • A7 Galluogi staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol i elwa

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol